Dyddiad
Mae elusen digartrefedd yng Ngwynedd sydd wedi gweld ei llwyth gwaith yn cynyddu 2500 y cant ers ei sefydlu bron i 40 mlynedd yn ôl wedi derbyn gwobr arbennig.
Derbyniodd GISDA, a leolir yng Nghaernarfon, Blaenau Ffestiniog a Phorthmadog, dlws Hyrwyddwr yr Iaith Gymraeg gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Arfon Jones yn ei Wobrau Cymunedol blynyddol yng Ngwesty Kinmel Manor, Abergele.
Cafodd y fenter gymdeithasol, sy’n darparu cefnogaeth a chyfleoedd i bobl sy’n agored i niwed rhwng 14 a 25 oed yng Ngwynedd, ei henwebu ar gyfer y wobr gan ddirprwy’r Comisiynydd, Ann Griffith, am ei gwaith yn y Gymraeg – a’r Saesneg – wrth arwain pobl ifanc i ffwrdd o fywyd troseddol.
Ffurfiwyd GISDA - sef Grŵp Ieuenctid Sengl Digartref Arfon – yng Nghaernarfon nôl yn yr 1980au.
Dywedodd Pennaeth Gwasanaethau GISDA Gethin Evans: “Cawsom ein sefydlu yn 1989 er mwyn helpu i ddelio ag argyfwng digartrefedd o 12 o bobl - ac yn awr bron i 40 mlynedd ers hynny rydym yn delio â bron i 300 o bobl y flwyddyn.
“Ond nid ydym yn delio â materion digartrefedd yn unig ac mae cael y math hwn o gydnabyddiaeth yn anhygoel ac yn enwedig gan fod dros 60 y cant o’n defnyddwyr gwasanaeth yn siarad Cymraeg, felly mae’n hanfodol ein bod yn gallu eu cefnogi yn yr iaith y maent yn teimlo fwyaf cyfforddus yn ei siarad.
“Mae pobl yn cael eu cyfeirio atom gan Wasanaethau Cymdeithasol, ond nid oes rhaid iddynt ddod, mae’n hollol wirfoddol, felly mae’n gadarnhaol eu bod yn dod atom.
“Rydym yn gwneud llawer o waith gyda phobl ifanc, nid yn unig ar ddigartrefedd, ond hefyd ar gamddefnyddio cyffuriau ac alcohol ac ar annog pobl i fynd i mewn i hyfforddiant a dod yn barod ar gyfer byd gwaith gan fod hynny’n ei gwneud yn llai tebygol y byddant yn troseddu.”
Meddai Ann Griffith, a ymwelodd â chanolfan GISDA ym Mlaenau Ffestiniog: “Roeddwn yn llawn edmygedd o’r gwaith y maent yn ei wneud wrth gefnogi pobl ifanc mewn nifer o ffyrdd gwahanol.”
“Cafodd y gefnogaeth hanfodol yma ei chyflwyno’n rhwydd yn y Gymraeg ac roedd y gwasanaeth galw heibio y bûm yn ei weld hefyd yn croesawu siaradwyr Saesneg.
“Roedd yn galonogol i wrando ar y bobl ifanc a oedd efallai ag anghenion cymhleth pan wnaethon nhw droi gyntaf at GISDA ac roedd yn amlwg eu bod wedi cymryd y cyfleoedd a roddwyd iddynt i roi hwb i’w sgiliau cyfathrebu a’u sgiliau cymdeithasol er mwyn eu harfogi ar gyfer annibyniaeth, adeiladu perthynas a chyflawni gwaith.
“Mae cael y gwasanaethau ar gael yn y ddwy iaith yn ei gwneud hi’n haws i siaradwyr Cymraeg ifanc groesi’r rhiniog i ofyn am y cymorth y maent eu hangen yn yr iaith y maent yn teimlo fwyaf cyfforddus ynddi.”
Teimlai’r Comisiynydd Jones, sy’n gyn-arolygydd heddlu, ei bod hi’n bwysig cydnabod ymdrechion arwyr tawel y gymuned.
Dywedodd: “Mae un peth yn gyffredin i’n holl enillwyr, sef eu bod yn gwneud Gogledd Cymru yn lle gwell a mwy diogel i fyw a gweithio ynddo.
“Mae llawer o bobl anhunanol yn gwneud llawer o waith da yn y gymuned drwy helpu Heddlu Gogledd Cymru ac mae’r gweithwyr tawel hyn yn mynd yr ail filltir yn aml iawn gan wneud cyfraniad a sicrhau bod eu cymunedau yn ddiogel.