Dyddiad
Bydd pobl ifanc yn gwneud sblash diolch i arian parod a atafaelwyd gan droseddwyr.
Mae prosiect Sgwad Môr Chwaraeon Dŵr Bae Colwyn wedi derbyn £2,500 diolch i Arfon Jones, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru.
Rhoddwyd yr arian fel rhan o fenter Eich Cymuned, Eich Dewis, sydd hefyd yn cael ei chefnogi gan Heddlu Gogledd Cymru ac Ymddiriedolaeth yr Heddlu a’r Gymuned (PACT).
Adenillwyd llawer o'r arian drwy'r Ddeddf Elw Troseddau gan ddefnyddio arian a atafaelwyd gan droseddwyr gyda'r gweddill yn dod o gyllideb y Comisiynydd Heddlu a Throsedd.
Bydd prosiect Sgwad Môr Chwaraeon Dŵr Bae Colwyn, sydd hefyd wedi derbyn cefnogaeth gan Bysiau Arriva Cymru, yn rhoi cyfle i bobl ifanc rhwng 11 a 14 oed ddysgu sgiliau hwylio, hwylfyrddio a chwaraeon dŵr eraill dros gyfnod o 10 wythnos.
Mae pobl ifanc sydd â diddordeb mewn darganfod mwy wedi cael eu gwahodd i ganolfan y sefydliad ym Mhorth Eirias ym Mae Colwyn i roi cynnig ar ddiwrnodau blasu a gynhelir ar ddydd Sadwrn, 18 Mai a dydd Sul, 19 Mai.
Mae Mr Jones, sy’n gyn-arolygydd heddlu, yn credu y gall prosiectau cymunedol fel hyn helpu i atal pobl ifanc rhag cael eu sugno i fywyd o droseddu.
Dywedodd: “Mae’r Sgwad Môr yn syniad a fydd o fudd i bob person ifanc. Mae'n brosiect rwy'n hapus iawn i roi fy nghefnogaeth lawn iddo hefyd.
Rwyf wrth fy modd bod y prosiect Sgwad Môr yn un o'r prosiectau y pleidleisiodd y cyhoedd drosto ac rydym bellach yn gallu cefnogi'r prosiect gyda grant o £2,500.”
Mae’r cyfan yn ymwneud ag ymyrraeth gynnar a chael pobl ifanc i gymryd rhan mewn chwaraeon. Mae'r prosiect hwn yn sicr yn gweddu o ran y gwaith allweddol rydym yn ei wneud ynghylch ymyrraeth gynnar.
Ond nid dim ond prosiect yn ymwneud â phobl ifanc o ardaloedd lle mae gennym broblemau ymddygiad gwrthgymdeithasol neu broblemau cyffuriau fel llinellau cyffuriau yw hwn.
Bob blwyddyn, mae PACT, sy'n dathlu ei ben-blwydd yn 21 oed eleni, yn cefnogi prosiectau ar draws pob awdurdod yng ngogledd Cymru a dau brosiect sy'n cwmpasu'r rhanbarth gyfan. Mae'r arian yn mynd i brosiectau y maer cyhoedd wedi cael pleidleisio drostynt.”
Dywedodd Simon Wynne, swyddog ymgysylltu cymunedol Chwaraeon Dŵr Bae Colwyn: “Mae Chwaraeon Dŵr Bae Colwyn yn credu’n angerddol mewn gweithgareddau sy'n helpu i lywio newid cadarnhaol yn ein cymuned. Rydym yn darparu hwylio, hwylfyrddio, byrddau padlo, caiacio a gweithgareddau eraill yn y môr.
Rydym am sicrhau bod pobl o bob oed yn cael mynediad i'n cyfleusterau yma ym Mhorth Eirias waeth beth fo'u gallu neu eu hanabledd, incwm neu brofiad. Rydym yn gwmni buddiant cymunedol a sefydlwyd er budd y gymuned leol.
Rydym am weld y Sgwad Môr yn cael ei groesawu gan rieni, ffrindiau a theulu. Mae'n bwysig ein bod yn chwalu rhwystrau ac yn gwella cysylltiadau rhwng yr heddlu a theuluoedd.
Bydd y prosiect yn helpu i gadw pobl ifanc yn brysur yn ystod y gwanwyn a'r haf ac i ffwrdd o fannau drwg.
Mae'r prosiect yn dechrau mewn clybiau ieuenctid lleol a mannau cyfarfod gyda gweithdai hwyliog a difyr. Bydd y sesiynau hyn yn cael pobl ifanc i gymryd rhan mewn penwythnos blasu Sgwad Môr rhad ac am ddim lle gall pobl ifanc roi cynnig ar y chwaraeon.
Yn dilyn y penwythnos blasu, rydym yn rhagweld 20 o bobl ifanc yn elwa o'r rhaglen wythnosol yn ogystal â'r 50 sy'n cymryd rhan dros y penwythnos blasu. Byddai pobl ifanc yn cael yr arweinyddiaeth, yr hyfforddiant a'r anogaeth i ennill Cymhwyster Hwylio Lefel 1 Cymdeithas Hwylio Frenhinol.”
Dywedodd Swyddog Cefnogi Cymuned yr Heddlu (SCCH) Bae Colwyn, Alex Aldous: “Fel mae pethau ar hyn o bryd, rydym yn gweld gwasanaethau ieuenctid yn cael eu torri ac nid oes llawer i bobl ifanc ei wneud ar draws ardal Bae Colwyn. Gall hynny arwain at ymddygiad gwrthgymdeithasol a phroblemau eraill fel camddefnyddio cyffuriau.
Yr hyn roeddem ei eisiau oedd prosiect a fyddai'n gost isel ond yn agored i bobl ifanc rhwng 11 a 14 oed beth bynnag fo’u cefndir.
Roeddwn i am iddo fod yn agored i bob person ifanc ac nid dim ond y rhai y tybir eu bod yn debygol o ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol neu broblemau eraill.”
Ychwanegodd: “Mae'r grant o £2,500 yn golygu y gallwn gynnal diwrnod blasu cychwynnol ar gyfer hyd at 60 o bobl ifanc ac yna gall y rhai sydd â diddordeb mewn cofrestru ar gyfer cwrs 10 wythnos, a fyddai'n cael ei redeg ar benwythnosau, wneud hynny.
Bydd y diwrnodau blasu yn cael eu cynnal ar ddydd Sadwrn a dydd Sul, Mai 18 neu 19, rhwng 9.30yb a 4.30yh. Bydd Swyddogion Cefnogi Cymuned yr Heddlu, yn eu dillad eu hunain, wrth law i helpu hyfforddwyr a gweithio gyda'r bobl ifanc.