Skip to main content

Arweinydd newydd yr Heddlu yn addo gwasanaethu'r bobl heb ofn na ffafriaeth

Dyddiad

Dyddiad
Angen i ni gymryd rheolaeth o gyfiawnder ieuenctid, medd pennaeth heddlu

Mae Arweinydd newydd yr Heddlu wedi addo gwasanaethu pawb yng Ngogledd Cymru heb ofn na ffafriaeth – a dywedodd mai mynd i’r afael â thrais domestig fydd un o’i brif flaenoriaethau. 

Roedd y cyn Arolygydd, Arfon Jones, sef yr ail Gomisiynydd Heddlu a Throsedd i Ogledd Cymru, yn siarad yn ystod ei ddiwrnod cyntaf swyddogol yn y swydd (dydd Iau, 12 Mai) wrth iddo gymryd yr awenau gan Winston Roddick.

Yn ymgeisydd Plaid Cymru, cafodd fuddugoliaeth sylweddol wrth iddo sicrhau mwyafrif o 25,364 o bleidleisiau.

Yn ôl Mr Jones, sy’n aelod o Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, roedd cael ei ddewis i arwain yr heddlu a wasanaethodd am 30 mlynedd, mewn lifrai a fel ditectif, yn un o uchafbwyntiau ei fywyd.  

Yn frodor o Harlech yng Ngwynedd, mae’n briod a chanddo ddwy ferch a phedwar o wyrion a wyresau ac mae’n byw yng Ngwersyllt ger Wrecsam.    

Mae Mr Jones bellach yn gyfrifol am gyllideb o £147 miliwn ac am sicrhau bod yr arian yn cael ei wario mewn ffordd effeithiol er mwyn cadw pobl Gogledd Cymru yn ddiogel.

Wrth wneud hynny, mae’n addo cynrychioli pawb yng Ngogledd Cymru, beth bynnag eu tueddiadau gwleidyddol.

Meddai: “Mae hyn yn bwysig iawn. Dwi’n cytuno gant y cant â’r hyn a ddywedodd Sadiq Khan pan gafodd ei ethol yn faer Llundain, ei fod yn cynrychioli holl bobl Llundain. Dwi’n meddwl fod hynny’n berffaith iawn.

“Dwi’n meddwl y dylai pob gwleidydd wneud hynny, pwy bynnag sydd wedi pleidleisio i chi, fe ddylech gynrychioli’r etholaeth gyfan heb ofn na ffafriaeth. Mae’n rhan o’r broses o dyngu llw. Rydw i wedi addo gwneud hyn ac rwy’n cymryd fy nghyfrifoldebau o ddifrif.

“Rwy’n bwriadu ymgynghori’n eang ar flaenoriaethau Gogledd Cymru er mwyn sicrhau bod gennym syniad da am yr hyn mae pobl Gogledd Cymru eisiau i ni ei gyflawni dros y 12 mis nesaf.

“Unwaith y byddaf yn cyhoeddi’r cynllun, byddaf yn craffu ar yr heddlu ac yn dal y Prif Swyddogion yn atebol er mwyn gwneud yn siŵr bod y cynllun yn cael ei gyflawni.”

Un o flaenoriaethau cyntaf y Comisiynydd fydd mynd i’r afael â thrais domestig.

Mae Mr Jones eisiau ehangu’r defnydd o gamerâu fideo a wisgir ar y corff gan Swyddogion yng Ngogledd Cymru er mwyn i dystiolaeth gael ei chasglu wrth i bethau ddigwydd.

Mae cyfanswm o 128 o gamerâu fideo eisoes wedi cael eu rhoi i Swyddogion ledled Gogledd Cymru ac maent wedi bod yn llwyddiant ysgubol, yn enwedig mewn perthynas â thrais domestig.

Meddai Mr Jones: “Mae trais domestig yn drosedd ofnadwy ac yn rhywbeth dwi’n teimlo’n angerddol iawn amdano.

Mae’r ffaith bod saith dioddefwr trais domestig yn cael eu lladd bob mis yng Nghymru a Lloegr yn gwneud hyn yn flaenoriaeth amlwg.

“Mae yna gost emosiynol, mae cost i gymdeithas ac mae cost ariannol ac rwy’n meddwl bod cyfrifoldeb arnom i gyd i flaenoriaethu achosion fel hyn.

“Hoffwn ddarparu pob swyddog rheng flaen â chamera fideo i wisgo ar ei lifrai.

“Dwi’n meddwl bod y dystiolaeth sy’n cael ei chynhyrchu o ganlyniad i’r defnydd o’r camerâu fideo hyn yn golygu  bod nifer y troseddwyr sy’n cael eu harestio a’u cyhuddo ac sy’n cael eu rhoi o flaen eu gwell, wedi cynyddu.

“Rwy’n annog dioddefwyr i ddod ymlaen, un ai drwy riportio’r mater yn uniongyrchol i’r heddlu neu drwy gysylltu ag asiantaeth bartner.    

“Pan fydd pobl yn riportio trosedd o’r fath, bydd yn aml iawn wedi digwydd nifer o weithiau cyn hynny hefyd.

“I fod yn deg, gwnaeth fy rhagflaenydd, Winston Roddick, lawer o waith da ar hyn ac rwy’n edrych ymlaen i barhau â’r gwaith hwnnw a’i ddatblygu ymhellach.

Blaenoriaeth arall i Mr Jones yw cadw plant allan o’r system gyfiawnder troseddol er mwyn sicrhau nad ydynt yn cael eu labelu’n droseddwyr pan fyddant yn ifanc gan effeithio ar eu dyfodol.

Un o’r problemau meddai, yw diffyg agwedd gyson yn y ffordd mae gwasanaethau ieuenctid yr ifanc yn cael eu darparu mewn gwahanol rannau o Ogledd Cymru.

Rydw i wedi bod yn arwain ar Wasanaethau Ieuenctid yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, gyda chyfrifoldeb am gyfiawnder ieuenctid sy’n dod o dan y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn San Steffan.

“Fe’i ariennir gan Lywodraeth Cymru, Swyddfa’r Comisiynydd, Heddlu Gogledd Cymru, y gwasanaeth prawf a’r bwrdd iechyd a chaiff ei ddelio ag ef mewn gwahanol ffyrdd ledled Gogledd Cymru.

“Dylid datganoli’r cyfrifoldeb am gyfiawnder ieuenctid i Gymru oherwydd, ar hyn o bryd, mae’n debyg i loteri cod post ac rwy’n meddwl bod plant a phobl ifanc yn haeddu gwell gwasanaeth.

“Fe ddylem ymyrryd yn gynharach pan mae’r plant yn fengach er mwyn torri’r cylch troseddu cyn iddo ddigwydd.

Dymunodd y Prif Gwnstabl, Mark Polin, yn dda i Mr Jones yn ei rôl newydd.

Meddai: Hoffwn longyfarch Mr Arfon Jones a’i groesawu fel Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru.

“Rwy’n edrych ymlaen at gydweithio’n agos ag ef er mwyn cyflawni’r Cynllun Heddlu a Throsedd a sicrhau bod Gogledd Cymru yn parhau yn lle diogel i fyw, gweithio ac ymweld ag ef, lle caiff yr aelodau mwyaf agored i niwed yng nghymdeithas eu hamddiffyn rhag niwed.”