Skip to main content

Arwyr cymunedol Amlwch yn ennill gwobr

Dyddiad

Dyddiad
Amlwch small

Mae grŵp o drigolion sy’n adfywio tref fwyaf gogleddol Cymru wedi cael eu hanrhydeddu am eu hymroddiad gan bennaeth heddlu.

Daeth grŵp Caru Amlwch at ei gilydd y llynedd i adfywio’r dref a bellach maent wedi ennill teitl Pencampwyr Cymunedol yng Ngwobrau Cymunedol Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru.

Cyflwynwyd y tlws arbennig iddynt gan y Comisiynydd Arfon Jones mewn seremoni yng Ngwesty’r Kinmel Manor pryd talodd deyrnged i’w cyfraniad i’r dref.

Nod y gwobrau yw cydnabod pobl sy’n helpu’r heddlu i gadw eu cymdogaeth neu eu tref yn lle heddychlon a diogel i fyw a gweithio ynddi ac sy’n helpu i adsefydlu troseddwyr.

Enwebwyd Caru Amlwch gan Iona Beckman sy’n Swyddog Cefnogi Cymuned yr Heddlu wedi ei lleoli ym Menllech a ddywedodd: “Nid wyf erioed wedi gweld grŵp mor ymroddedig o breswylwyr sydd am wella ansawdd bywyd a diogelwch yn eu cymuned.

“Mae’r grŵp yn cynnwys pobl o bob oed o’r ifanc i’r hen ac o amrywiaeth o gefndiroedd. Rwyf mor falch ohonynt a sut y maent yn ein cefnogi ni’n llwyr yn ein gwaith.

“Trwy eu gwaith caled a’u hymroddiad maent yn gwella gwytnwch y dref, gan greu cyfleoedd newydd ac arloesol yn eu hardal, a chyfrannu tuag at ddiogelwch cymunedol a’n cynorthwyo i atal troseddu.”

Dywedodd Cadeirydd Caru Amlwch, Llinos Williams: “Daeth naw ohonom at ein gilydd fis Gorffennaf diwethaf oherwydd ein bod yn pryderu nad oes llawer yn digwydd yn y dref ac felly mi wnaethon ni lunio cynllun busnes.

“Mae popeth rydym yn ei wneud wedi ei anelu at wella lles pobl Amlwch ac mae hynny’n cynnwys ceisio cael rhandiroedd yma, penodi Pencampwyr Ystad i gynrychioli eu rhannau nhw o’r dref a dechrau ein gwobrau cymunedol ein hunain, rhywbeth sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn.

“Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo yn y Neuadd Goffa ac roedd yr holl wobrau yn cael eu noddi gan noddwyr lleol a daeth cynulleidfa dda yn bresennol gyda’r holl elw yn mynd tuag at gadair olwyn arbennig ar gyfer merch 13 oed o Amlwch, Naomi Cooper, sydd â chlefyd dirywiol ond sydd wedi ymuno â chlwb pêl-fasged cadair olwyn.”

Dywedodd fod y prosiect Pencampwyr Ystad yn cynhyrchu syniadau ac awgrymiadau, gan gynnwys cael pobl ifanc i ymwneud â phrosiectau ar draws y cenedlaethau, addysgu’r henoed ynghylch galwyr diwahoddiad a glanhau llety gwarchod y dref.

Yn ddiweddar sicrhaodd Caru Amlwch grant o £6,000 i brynu adnoddau ac eitemau chwarae i barciau’r dref ac i helpu plant ag anableddau ac ychwanegodd Iona Beckman: “Mae Caru Amlwch yn mynd yr ail filltir go iawn i gyflawni canlyniadau a bydd y gwelliannau yn y parciau yn ein helpu i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol yno ac ar ystadau’r dref.

“Un o’r rhesymau i mi ddod yn Swyddog Cefnogi Cymuned yr Heddlu oedd er mwyn helpu i wneud cymunedau deimlo’n ddiogel ac mae cael cefnogaeth wych o’r fath yn golygu y gallwn weithio gyda’n gilydd i wneud ein cymunedau yn llefydd hapus a diogel i fyw ynddynt.”

Teimlai’r Comisiynydd Jones, sy’n gyn-arolygydd heddlu, ei bod hi’n bwysig cydnabod ymdrechion arwyr tawel y gymuned.

Dywedodd: “Mae un peth yn gyffredin i’n holl enillwyr, sef eu bod yn gwneud Gogledd Cymru yn lle gwell a mwy diogel i fyw a gweithio ynddo.

“Mae llawer o bobl anhunanol yn gwneud llawer o waith da yn y gymuned drwy helpu Heddlu Gogledd Cymru ac mae’r gweithwyr tawel hyn yn mynd yr ail filltir yn aml iawn gan wneud cyfraniad a sicrhau bod eu cymunedau yn ddiogel.

“Yn y mwyafrif llethol o achosion, mae hyn yn ymrwymiad personol a wnaed heb ddisgwyl unrhyw fath o wobr neu gydnabyddiaeth.

“Mae’r seremoni wobrwyo hon felly, yn gyfle i gydnabod ymdrechion diflino’r arwyr tawel hyn ac i annog eraill i ddilyn eu hesiampl dda.”