Skip to main content

Arwyr tawel yn cael eu cydnabod am waith gyda dioddefwyr cam-drin yn y cartref

Dyddiad

Dyddiad
Arwyr tawel yn cael eu cydnabod am waith gyda dioddefwyr cam-drin yn y cartref

Mae pennaeth plismona gogledd Cymru wedi anrhydeddu gwasanaeth cefnogi hanfodol sydd wedi bod o gymorth i filoedd o ddioddefwyr cam-drin yn y cartref yn ogystal â helpu troseddwyr i newid eu ffyrdd.

Mae Gorwel, sy’n rhan o Grŵp Cynefin ac yn darparu ystod eang o wasanaethau i ferched, dynion a phlant sy’n cael eu heffeithio gan drais yn y cartref, wedi ennill y Wobr Cymorth Cam-drin yn y Cartref yng Ngwobrau Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru.

Mae’r sefydliad yn helpu dioddefwyr yng Ngwynedd ac Ynys Môn a bellach yn Siroedd Conwy a Dinbych hefyd ac mae wedi cael ei redeg dros yr 11 mlynedd diwethaf gan y rheolwr cefnogi Gwyneth Williams, a dderbyniodd y wobr gan y Comisiynydd Arfon Jones mewn seremoni arbennig yng Ngwesty’r Celtic Royal yng Nghaernarfon.

Dywedodd: “Rwy’n teimlo’n ostyngedig iawn i dderbyn y wobr hon gan y Comisiynydd. Rwyf ar ben fy nigon ein bod wedi cael ein cydnabod am y gwaith rydym yn ei wneud.

Rydym yn ffodus iawn o fod mewn sefyllfa i helpu pobl sydd fwyaf ei angen.

Rydym wedi helpu miloedd o bobl dros y blynyddoedd. Y llynedd cawsom 55 o deuluoedd yn y lloches yn unig ac mi gyfeiriwyd cyfanswm o 316 achos atom.

Beth sy’n dda yw bod pobl yn dod ymlaen ac yn cydnabod bod cymorth i’w gael.

Yr hyn y mae’n rhaid i ni ei gofio yw bod pobl yn marw o gam-drin yn y cartref.

Ein nod yw cadw pobl yn fyw. Mae’n wasanaeth mor bwysig ac mae’n wych cael bod yn rhan ohono. “

Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones, wrth y gynulleidfa: “Rwy’n falch iawn o roi’r wobr hon i Gorwel am eu gwaith ysbrydoledig ac arloesol dan arweiniad Gwyneth Williams.

Dydyn nhw ddim yn chwilio am unrhyw glod ond maen nhw’n gofalu am bobl ac yn cynnig dull cyfannol o weithredu sy’n ymestyn i’w rhaglen Tadau Gofalgar sy’n anelu at gael tadau i wella eu perthynas efo’u plant a chymryd cyfrifoldeb amdanyn nhw.

Mae’r arian a roddais i Gorwel yn rhoi cymorth i droseddwyr newid eu hymddygiad.”

Ychwanegodd Gwyneth, sydd wedi gweithio ym maes cam-drin yn y cartref ers 1995: “Mae cam-drin yn y cartref yn mynd ddwy ffordd. Bydd lle bob tro i wasanaethau merched yn unig ond mae’n rhaid i ni fod yn realistig.

Nid mater un rhyw ydyw. Rydym yn cydnabod bod y mwyafrif o gyfeiriadau atom yn ferched ond mae cryn dipyn o ddynion hefyd.

Ni fyddai hynny wedi cael ei grybwyll 15 mlynedd yn ôl ond mae’n dal yn anodd iawn i ddynion ddod ymlaen. Mae yna stigma lle dywedir wrth ddynion i ‘fod yn ddyn’ sy’n gwbl anghywir.

Mae hefyd yn bwysig cofio bod cam-drin yn cymryd ffurfiau eraill. Nid oes rhaid iddo fod yn gorfforol, gall fod yn feddyliol hefyd.

Nid rhywbeth dosbarth ydyw chwaith. Gall ddigwydd i unrhyw un.”

Mae gwasanaethau arloesol Gorwel ar gyfer dioddefwyr cam-drin yn y cartref yn cynnwys cefnogaeth gyda sgiliau bywyd a byw’n annibynnol, cael mynediad at hyfforddiant addysg a chyfleoedd cyflogaeth, ymateb i faterion tai, cyfeirio at asiantaethau eraill, a gwella eu lles ac ansawdd eu bywydau.

Mae tair lloches gan Gorwel mewn tri lleoliad cyfrinachol sy’n darparu llety 24/7 ar gyfer hyd at naw dioddefwr a’u teuluoedd, ymgynghorydd annibynnol sy’n cefnogi hyd at 250 o unigolion, siopau un stop yn Nolgellau a Llangefni sy’n cynnig gwasanaethau cyfannol, ac uned symudol ar gyfer rhai sy’n byw mewn ardaloedd gwledig sydd â mynediad cyfyngedig at gludiant cyhoeddus.

Agwedd arall ar y gwasanaeth yw canolbwyntio ar y “cylch newid”, sy’n golygu helpu troseddwyr i gymryd cyfrifoldeb am eu hymddygiad a rhoi newid ar waith.

Meddai Gwyneth: “Yn aml iawn nid yw pobl yn gwybod beth maen nhw’n ei wneud.

Mae’n ymwneud â mynd i’r afael â hynny ac ail-gydbwyso pethau sy’n digwydd yn eu bywydau. Edrych ar y daliadau a’r meddylfryd y tu ôl i’r cam-drin.

Yn hytrach na dim ond rhoi plastr ar yr wyneb rydym yn edrych ar yr achosion gwaelodol.

Yn y gorffennol y cwestiwn oedd os oedd pobl eisiau newid i lle ddylen nhw fynd? Rydym yn darparu’r wybodaeth honno ond mae’n rhaid i bob unigolyn wneud dewis gwybodus.

Gallant hunangyfeirio neu gael eu cyfeirio gan y gwasanaethau cymdeithasol. Mae’n rhaid i’r newid ddod oddi wrthyn nhw eu hunain.”

Mae elfen bwysig o’r gwaith a wneir gan Gorwel yn cynnwys cymorth i blant sy’n cael eu heffeithio gan gam-drin yn y cartref, tra bod rhaglen Tadau Gofalgar hefyd yn helpu tadau i wella eu perthynas â’u plant.

Esboniodd Gwyneth: “Mae gennym wasanaeth yn unig i blant gan eu bod yn haeddu gwasanaeth yn eu rhinwedd eu hunain.

Dyma lle gallwch chi wneud y newid mwyaf gan mai nhw yw oedolion y dyfodol.

Yr hyn y mae angen iddyn nhw sylweddoli yw nad ydyn nhw ar eu pennau eu hunain. Nid yw cam-drin yn iach ac nid yw’n iawn.

Weithiau mae plant yn cario’r euogrwydd felly mae’n bwysig ein bod yn gwneud iddyn nhw sylweddoli nad eu bai nhw yw’r sefyllfa.”

Ychwanegodd: “Rydym hefyd yn cael llawer o bobl ifanc yn eu harddegau sydd wedi cymryd lluniau personol a’u rhannu. Mae llawer o bwysau ar bobl ifanc y dyddiau hyn gyda chyfryngau cymdeithasol.

Mae ein cefnogaeth yn canolbwyntio ar fynd i mewn i gysylltiadau iach.

Gyda’n rhaglen Tadau Gofalgar rydym yn gweithio gyda thadau i ddadansoddi eu hymddygiad a sut mae’n effeithio ar fywydau eu plant.”