Skip to main content

Bydd gadael Ewrop heb gytundeb yn peryglu pobl gogledd Cymru

Dyddiad

Dyddiad
Arfon and Ann

Mae pennaeth heddlu wedi rhybuddio y bydd gadael Ewrop mewn Brexit caled neu heb gytundeb o gwbl yn peryglu pobl gogledd Cymru.

Yn ôl Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru  Arfon Jones a’i ddirprwy, Ann Griffith, mae’r cloc yn ticio tuag at drychineb ym maes ymladd troseddau, oni bai bod modd cyrraedd “cytundeb synhwyrol”.

Os na fydd hynny’n digwydd, ar ôl Mawrth 31 y flwyddyn nesaf gallai’r DU gael ei chau allan o hyd at 32 o’r gwasanaethau ar y cyd sy’n cael eu defnyddio ar hyn o bryd i dargedu troseddwyr ar draws Ewrop.

Ymhlith y rhain y mae’r ECRIS, y Gwasanaeth Gwybodaeth Cofnodion Troseddol Ewropeaidd gafodd ei ddefnyddio 539 miliwn o weithiau gan heddluoedd Prydain y llynedd, Europol, asiantaeth gorfodi cyfraith yr Undeb Ewropeaidd, a’r Warant Arestio Ewropeaidd.

Byddai hefyd yn arwain at anhrefn a dryswch ym mhorthladd Caergybi yn ogystal â chreu pryderon diogelwch ychwanegol.

Dywedodd Mr Jones, sy’n gyn-arolygydd heddlu: “Mae’r holl arfau pwysig rydym yn eu defnyddio ar hyn o bryd ar gyfer diogelwch a phlismona bellach mewn perygl ac mae’n bosib y gallai ein heddluoedd golli’r hawl i’w defnyddio.

Efallai y bydd Brexit yn peryglu’r DU a gogledd Cymru. Wedi’r cyfan, defnyddir y cydweithrediad hwn i helpu Heddlu Gogledd Cymru i’n gwarchod rhag terfysgaeth, troseddau cyfundrefnol difrifol, gan gynnwys caethwasiaeth fodern a masnachu pobl a’r fasnach gyffuriau.

Byddai Brexit caled yn golygu dechrau o’r dechrau, gan drafod yn unigol gyda phob gwlad a defnyddio’r trefniadau cydweithio rydym yn eu defnyddio ar hyn o bryd ar gyfer gwledydd y tu allan i’r UE, gan olygu y bydd estraddodi’n arafach ac yn fwy anodd, ac arwain at droseddwyr yn osgoi cyfiawnder a’i chael yn haws gweithredu yn y DU.

Eisoes mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn cynllunio ar gyfer y sefyllfa waethaf. Mae’r Swyddfa Gartref wedi derbyn £350 miliwn mewn cyllid pontio a bydd Llu’r Ffiniau yn derbyn £60 miliwn o hynny.

Yn ddiweddar, mi wnes i herio Cyfarwyddwr Cynorthwyol Llu’r Ffiniau y DU am hyn ac roedd yn amlwg nad oedd hi’n gallu ateb fy nghwestiynau ynghylch sut y bydd  plismona a diogelwch yn edrych yn yr Ardal Deithio Gyffredin ar ôl Brexit ond mi ddywedodd y byddai’r Ardal Deithio Gyffredin yn parhau.

Ond mae hynny’n gofyn am farchnad sengl ac Undeb Tollau a dywed Mrs May y byddwn yn gadael y ddau.

Roeddwn wedi fy syfrdanu na allai uwch swyddog gyda Llu’r Ffiniau ateb cwestiynau ynglŷn â sut y byddai plismona’r Ardal Deithio Gyffredin yn edrych ar ôl Brexit yn enwedig gan eu bod yn recriwtio 1,300 o swyddogion Llu’r Ffiniau newydd.

Mae dweud y bydd yr Ardal Deithio Gyffredin yn parhau ar ôl Brexit caled yn dangos anwybodaeth anhygoel o’r hyn ddylai fod yn fater ‘bara a menyn’ i wasanaeth Llu’r Ffiniau.

Yn anffodus, mae’n ymddangos nad ydym wedi symud ymlaen fawr ddim ers y refferendwm gan i mi holi’r Gweinidog dros Ddiogelwch, Ben Wallace yn fuan wedi’r bleidlais ynghylch plismona’r Ardal Deithio Gyffredin a’i ateb stoc ar y pryd oedd bod y Swyddfa Gartref yn ymwybodol o ‘fregusrwydd’ yr Ardal Deithio Gyffredin. Ond yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf nid yw’n ymddangos eu bod wedi gwneud llawer er mwyn mynd i’r afael â’r gwendidau hynny.

Fodd bynnag, mae’n dod yn fwyfwy clir y bydd Brexit caled yn golygu ffin galed a bydd honno nid yn unig ar ynys Iwerddon ond hefyd yng Nghaergybi gyda’r tarfu anorfod a ddaw yn sgȋl hynny ar lif nwyddau a gwasanaethau rydym wedi’u gweld ers 40 mlynedd ac heb sicrwydd y cydweithrediad gyda sefydliadau plismona Ewropeaidd.”

Gallai bywyd hefyd fynd yn fwy anodd i dimau ymchwilio ar y cyd eraill gydag asiantaethau fel Eurojust sy’n delio ag ystod o droseddau gan gynnwys terfysgaeth, cam-drin plant a chaethwasiaeth fodern.

Cyflwynwyd y cytundeb yn 2002 mewn ymateb i fygythiad cynyddol o derfysgaeth ryngwladol a chydnabyddiaeth bod gweithdrefnau estraddodi yn gymhleth ac yn cymryd llawer o amser.

Mynegodd Mr Jones a’i ddirprwy, Ann Griffith, eu pryderon mewn cyfarfod diweddar rhwng y Gymdeithas Comisiynwyr Heddlu a Throsedd a’r prif asiantaethau diogelwch, Cyngor y Prif Swyddogion Heddlu, yr Asiantaeth Troseddau Cenedlaethol, Gwasanaeth Erlyn y Goron a’r Asiantaeth Rheoli Ffiniau.

Ychwanegodd Ms Griffith: “Datgelodd yr Arglwydd Jay, Cadeirydd Is-Bwyllgor Materion Cartref yr UE yn Nhŷ’r Arglwyddi, eu bod wedi clywed tystiolaeth nad oedd trafodwyr y DU a’r UE, erbyn canol mis Mai, wedi treulio fawr fwy nag awr yn trafod perthynas ddiogelwch mewnol y dyfodol er gwaethaf y budd amlwg mewn gwneud cynnydd cyflym. Fel dywedodd yr Arglwydd Jay, nid oedd y trafodaethau cyfredol wedi cael eu cynnal mewn ysbryd o amddiffyn diogelwch miliynau o ddinasyddion y DU a’r UE.

Os bydd y trafodaethau’n rhedeg allan o amser heb ddod i gytundeb mae yna risg gwirioneddol o argyfwng mewn plismona ar draws y DU a gallai hynny olygu bod gogledd Cymru yn gynyddol agored i droseddau difrifol.

Ymddengys nad yw’r Ardal Deithio Gyffredin rhwng Cymru a Gweriniaeth Iwerddon wedi cael ystyriaeth drwyadl ac nad oes neb yn gwybod beth fydd y goblygiadau llawn.

Rwy’n pryderu y bydd y frwydr yn erbyn troseddau difrifol a throseddu treisiol yn cael ei rhwystro os na fydd trefniadau manwl yn eu lle sy’n cyfateb â’r lefelau cyfredol o gydweithredu rhwng y DU a’r UE.

Nid yw troseddu yn parchu ffiniau. Mae troseddau difrifol a threfnedig, bron bob amser yn gadael ôl troed rhyngwladol.

Felly, mae’n hanfodol i asiantaethau cyfiawnder troseddol a phlismona weithio mewn partneriaeth agos ar draws Ewrop a thu hwnt yn y cyfnod ar ôl Brexit.

Mae Heddlu Gogledd Cymru fel asiantaethau gorfodi cyfraith eraill y DU yn gwneud defnydd eang o nifer o fesurau Materion Cartref a Chyfiawnder yr UE er mwyn darparu ymateb deinamig, cyflym ac effeithlon i droseddu sy’n effeithio ar ein cymunedau.

Nid yw’r rhan fwyaf o droseddu yn digwydd ar y strydoedd mwyach ac mae ein llinell flaen bellach ar-lein.

Sefydlwyd Europol yn 2009, ac un o’i brif swyddogaethau yw cydweithredu ym maes seibr-droseddu.

Os yw cydweithrediad gydag Europol ac Eurojust i barhau, bydd yna bris am hynny oherwydd mae’n debygol y bydd yn rhaid i ni dalu llawer mwy er mwyn elwa o waith yr asiantaethau hyn.

Rwyf hefyd yn poeni’n arbennig am y posibilrwydd o golli Gwarantau Arestio Ewropeaidd sydd ar hyn o bryd yn golygu y gellir trosglwyddo’r troseddwyr mwyaf o’r naill wlad i’r llall yn brydlon.

Cyn y Warant Arestio Ewropeaidd, gallai trefniadau estraddodi gymryd hyd at 10 mlynedd, ond nawr rydym ni’n sôn am bobl y gellir eu trosglwyddo o fewn ychydig wythnosau.

Mae’n fater o bryder mawr nad yw’r Llywodraeth yn rhoi sylw digonol i oblygiadau Brexit ac yn arbennig y posibilrwydd o Brexit heb gytundeb ar ddiogelwch a phlismona.

Mae’n rhaid i ni roi blaenoriaeth i gadw pobl yn ddiogel,” ychwanegodd.