Skip to main content

Bydd gorsaf heddlu newydd yn cadw swyddogion y rheng flaen yn y dref

Dyddiad

Dyddiad
New_Wrexham_Police_Station (2)

Dyma sut fydd yr orsaf heddlu newydd yng nghanol tref Wrecsam yn edrych.

Wrexham police station small

Bydd gwaith ar y prosiect gwerth £1.9 miliwn yn dechrau ddydd Llun (Mai 15) wedi iddo gael sêl bendith Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones.

Yn ôl Mr Jones, cyn-arolygydd yr heddlu a wasanaethodd yn Wrecsam yn ystod ei yrfa, bydd hyn yn cadw amrywiaeth o gyfleusterau rheng flaen hanfodol yng nghanol y dref.

Yn rhan o’r cynllun 14 mis, bydd yr hen Oriel yn Llyfrgell Wrecsam yn cael ei thrawsnewid yn orsaf o’r radd flaenaf.

Bydd yn darparu’r amrywiaeth cyflawn o wasanaethau “blaen tŷ” yng nghanol y dref, a bydd y pencadlys rhanbarthol ynghyd â gweithgareddau wrth gefn yn cael eu symud i safle Rheoli a Chadw newydd yn Llai.

Bydd y ddau gyfleuster newydd yn cymryd lle pencadlys presennol Wrecsam sydd wedi ei leoli mewn bloc tŵr o’r 1970au ym Modhyfryd, nad yw bellach yn addas i’w ddefnyddio.

Bydd y safle’n cael ei werthu a chaiff yr adeilad ei glustnodi i gael ei ddymchwel.

Trefnwyd bod yr oriel ar gael i Heddlu Gogledd Cymru ar drefniant rhentu ar brydles 10 mlynedd gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Bwriedir i’r trawsnewidiad ddechrau ddydd Llun nesaf 15 Mai. Gwneir y gwaith gan MPH Construction Ltd, contractwyr sydd wedi eu lleoli yn yr Wyddgrug, a bydd yn cymryd 44 wythnos i’w gwblhau erbyn Gorffennaf y flwyddyn nesaf.

Disgwylir i’r orsaf newydd agor ei drysau i’r cyhoedd am y tro cyntaf fis Awst 2018.

Wedi iddo gael ei dywys o amgylch y safle, dywedodd Mr Jones, sydd yn gyn-arolygydd gyda’r heddlu: “Rwyf wedi fy mhlesio yn fawr gyda’r hyn a ddangoswyd i mi heddiw.

“Rwyf wedi bod yn dilyn y prosiect hwn yn ofalus o’r dechrau ac rwy’n hynod o falch ei fod yn cynnig y cyfle i gadw’r amrywiaeth cyflawn o wasanaethau ymateb rheng flaen yng nghanol tref Wrecsam.

“Mae adeilad presennol y pencadlys wedi hen basio ei ddefnyddioldeb ac mae wedi bod yn hynod o anodd a drud i gadw’r ffabrig yn iawn.

“Er bod pencadlys Rhanbarth Dwyreiniol yr heddlu yn cael ei symud i safle pwrpasol newydd yn Llai, ynghyd ag amrywiaeth o wasanaethau wrth gefn, rwy’n credu ei bod hi’n hynod o bwysig i gadw gwasanaethau’r rheng flaen mor agos â phosib i ganol tref Wrecsam.”

Ychwanegodd Mr Jones: “Bydd y Tîm Cymdogaeth Diogelach lleol, y timau ymateb ar gyfer yr ardal ganolog, y siarsiant oruchwylio a’r arolygydd wedi eu lleoli yn yr orsaf newydd.

“Bydd yr orsaf hefyd yn cynnwys y cyfarpar diweddaraf er mwyn medru ymateb cyn gynted â phosib i ddatrys trosedd.

“Mae’r cyfan yn ymwneud â chadw’r heddlu yng nghanol y gymuned er mwyn darparu gwasanaeth gwell a mwy cynhwysfawr i bobl sy’n byw, yn gweithio ac yn ymweld ag ardal Wrecsam.

“Mae hefyd yn dda gweld ein bod yn defnyddio contractwyr sydd wedi eu lleoli yng Ngogledd Cymru, a bydd y prosiect yn ei gyfanrwydd yn gyfle da i ddefnyddio nwyddau a gwasanaethau gan gwmnïau lleol.”

Cytunodd yr Arolygydd Paul Wycherley, sy’n gyfrifol am blismona canol tref Wrecsam, gyda’r Comisiynydd ynghylch yr amryw o fuddiannau a ddaw gyda’r orsaf newydd.

Dywedodd: “Bydd Arolygydd a Sarsiant canol y dref ill dau wedi eu lleoli yn yr orsaf newydd, ynghyd â’r Tîm Cymdogaeth Diogelach Lleol a’r swyddogion patrôl sy’n cynnig goruchwyliaeth 24/7 dros yr ardal.

“Bydd cyfanswm o 90 o staff yn adrodd oddi yno gydag oddeutu 25 ohonynt yn gweithio ar unrhyw adeg.

“Roedd adeilad y pencadlys presennol ym Modhyfryd yn dod tuag at derfyn ei fywyd defnyddiol ac roedd ei gynnal dros y saith neu wyth mlynedd ddiwethaf yn dod yn fwy o her.

“Rwy’n edrych ymlaen at symud fy swyddogion i swyddfa fodern, o’r radd flaenaf, ac rydyn ni nawr yn cyfri’r dyddiau tan y gallwn ddechrau darparu ein gwasanaethau oddi yno.

“Bydd yn gyfleuster modern o’r 21ain ganrif, a gallwn ddarparu gwasanaeth plismona o safon uchel i bobl Wrecsam oddi yno.”

Bydd yr orsaf newydd yn cymryd dau lawr o’r hyn a fu'r Oriel, drws nesaf i Lyfrgell Wrecsam, sydd bellach wedi symud i Stryd Caer yn y dref.

Dywedodd Andrew Foster, rheolwr safle i MPH Construction: “Caiff y prosiect i drawsnewid yr adeilad i’w ddefnydd newydd ei wneud dros ddau lawr a bydd ganddo ddau gyfnod.

“Yn ystod y cyfnod cyntaf byddwn yn llenwi’r iard bresennol yn y canol ac yn creu mynedfa newydd i’r caffi a fydd yn parhau i fod drws nesaf i’r llyfrgell.

“Byddwn wedyn yn canolbwyntio ar ailfodelu hen ardal yr oriel ac ychwanegu estyniad mawr ar ben pellaf yr adeilad.

“Byddwn yn ailwampio’r strwythur presennol, sy’n dyddio yn ôl i’r 1970au, yn llwyr ac yn mewnosod nifer o swyddfeydd ac ystafelloedd cyfarfod a chyfweld.

“Yn rhan o’r prosiect hwn byddwn hefyd yn gosod yr holl addasiadau mecanyddol a thrydanol, gan gynnwys y cyfarpar TG y byddwn yn gweithio yn agos iawn gydag arbenigwyr o Heddlu Gogledd Cymru arno.

“Rydym eisoes wedi gweithio’n llwyddiannus ar nifer o brosiectau i Heddlu Gogledd Cymru ac rydyn ni’n edrych ymlaen at ddechrau gweithio ar yr un yma, a fydd o’r dyluniad diweddaraf pan gaiff ei orffen fis Gorffennaf y flwyddyn nesaf.”