Skip to main content

Byddai ystafell chwistrellu diogel yn arbed bywydau

Dyddiad

Dyddiad
drugs story big

Barn bendant Pennaeth Heddlu ar ôl taith ymchwil i Genefa

Byddai sefydlu “ystafell chwistrellu” yn Wrecsam lle gallai pobl sy’n gaeth i gyffuriau chwistrellu eu hunain mewn lle diogel a glân arbed bywydau.

Dyna oedd barn Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Arfon Jones ar ôl taith ymchwil i’r Swistir lle mae ganddynt “agwedd mwy goddefgar a thosturiol” sydd wedi arwain at ganlyniadau cadarnhaol i’r rhai sy’n cymryd cyffuriau ac i gymdeithas yn gyffredinol.

Yn ôl Mr Jones, roedd yn gyferbyniad mawr gyda’r polisi cyffuriau yn y DU a oedd yn lladd pobl.

Teithiodd y Comisiynydd, sy’n gyn-arolygydd heddlu, i Genefa gyda Chomisiynydd Heddlu a Throsedd Durham, Ron Hogg.

Mae’r ddau wedi galw am agwedd fwy goleuedig tuag at ddefnyddio cyffuriau sy’n trin dibyniaeth fel mater iechyd yn hytrach na mater troseddol.

Cyfarfu’r ddau gyda chyn Arlywydd y Swistir, a fu’n gyfrifol mewn rôl flaenorol fel gweinidog iechyd y wlad am oruchwylio dau fesur allweddol oedd yn mynd i’r afael â phroblemau cyffuriau – sef, sefydlu rhwydwaith o glinigau Triniaeth gyda Chymorth Heroin a Chyfleusterau Chwistrellu Diogel, lle gall defnyddwyr fynd i chwistrellu, ffroeni neu ysmygu cyffuriau dan oruchwyliaeth feddygol.

Dangoswyd enghreifftiau i’r grŵp o’r ddau gyfleuster yma yng Ngenefa fel rhan o’u hymweliad.

Dywed Mr Jones bod tystiolaeth yn y Swistir wedi ei argyhoeddi ymhellach y gallai cyfleusterau chwistrellu mwy diogel fod yn ffordd ymlaen hefyd i Ogledd Cymru.

Meddai: “Mae Ron Hogg yn hyrwyddo sefydlu rhaglen o driniaeth gyda chymorth heroin yn Durham, a fyddai yn ei farn ef o fudd i ddefnyddwyr cyffuriau tymor hir problemus.

“Mae ganddo ef a minnau ddiddordeb mewn cyfleusterau chwistrellu diogel ac mi wnaethon ni weld un yn cael ei ddefnyddio y tu ôl i orsaf reilffordd Genefa ac roedd yn ymddangos ei fod yn effeithiol iawn.

“Rwy’n credu y byddai cyfleusterau chwistrellu mwy diogel yn ddefnyddiol yng Ngogledd Cymru, ac yn enwedig yn Wrecsam lle rydym wedi gweld llawer o broblemau cyffuriau ers tro.

“Byddai cyfleusterau fel hyn yn rhoi rhywle diogel i ddefnyddwyr problemus fynd yn hytrach na’u gorfodi i chwistrellu mewn mannau cyhoeddus a tharfu ar bobl oherwydd y cyflwr y maent ynddo.

“Byddai mannau fel hyn hefyd yn llawer mwy diogel gan nad oes neb erioed wedi marw mewn cyfleuster chwistrellu diogel. Mae hyn yn ystyriaeth o bwys gan fod nifer y marwolaethau sy’n gysylltiedig â chyffuriau yn y DU bellach wedi codi i tua 2,500 y flwyddyn.

“Mewn cyfleuster chwistrellu diogel byddai rhywun yno i roi cymorth pe bai rhywbeth yn mynd o’i le gyda chwistrellu.

“Mae polisi cyffuriau yn y DU yn lladd pobl a byddai dull mwy goddefgar a thosturiol yn dechrau arbed bywydau ar unwaith.”

Ychwanegodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd: “Tra yng Ngenefa mi wnes i hefyd gael cyfarfod gyda Ruth Dreifuss, cyn-Arlywydd y Swistir sydd bellach yn llywydd y Comisiwn Cyffuriau Rhyngwladol sydd wedi ei leoli yn y ddinas.

“Roedd hi hefyd yn weinidog iechyd y Swistir am tua 10 mlynedd ac yn ystod y cyfnod hwnnw bu’n gyfrifol am gyflwyno therapi gyda chymorth heroin a chyfleusterau chwistrellu mwy diogel.

“Cefais gyfarfod adeiladol ac ysbrydoledig iawn gyda hi.

“Dywedodd wrthym hefyd nad yw’r Swistir bellach yn cael unrhyw broblemau gyda Sylweddau Seicoweithredol Newydd, fel Black Mamba a Spice, a oedd ar un adeg yn cael eu hadnabod fel cyffuriau cyfreithlon ac sydd wedi gadael rhai pobl yn Wrecsam mewn cyflwr zombie.

“Mae yna agwedd oddefgar a thosturiol iawn tuag at gyffuriau yn y Swistir, sef y brif neges y cefais ganddi.

“Yn hyn o beth mae’r Swistir yn debyg iawn i Bortiwgal, lle bûm hefyd ar ymweliad yn ddiweddar, lle mae bod ym meddiant mân gyffuriau yn cael ei ystyried yn fwy o fater iechyd na rhywbeth troseddol.

“Yn ystod y daith ddiweddaraf mi wnes i hefyd ymweld â chanolfan triniaeth gyda chymorth heroin yn Ngenefa. Mae hyn yn caniatáu i bobl sy’n gaeth i opiadau gymryd heroin meddyginiaethol. Os yw’r hyn y maent ei angen yn cael ei ddarparu gan y wladwriaeth trwy fferyllfeydd mae’n lleihau niwed a hefyd yn lleihau troseddu ac aildroseddu.

“Bydd yn rhaid i ni weld sut y mae Therapi gyda Chymorth Heroin yn gweithio pan gaiff ei gyflwyno yn Durham, ond rwy’n fwy argyhoeddedig nag erioed ar ôl fy ymweliad â’r Swistir mai cyfleusterau chwistrellu diogel yw’r ffordd ymlaen yng Ngogledd Cymru fel ffordd o leihau niwed.

“Fodd bynnag, mae’n rhaid i ni gymryd pethau un cam ar y tro.”

Mewn cynhadledd ddiweddar ar ddad-droseddu cyffuriau a gynhaliwyd ganddo yn y Cae Ras Wrecsam, enillodd Mr Jones gefnogaeth i’w safbwynt ar gyfleusterau chwistrellu diogel gan fam Martha Fernbeck, merch ysgol 15 oed o Rydychen, a fu farw o ataliad ar y galon yn 2013 ar ôl llyncu ecstasi oedd yn 90 y cant pur.

Dywedodd Anne-Marie Cockburn, sydd ers hynny wedi dod yn ymgyrchydd diflino ar gyfer rheoleiddio cyfreithiol cyffuriau ac a oedd yn brif siaradwr yn y digwyddiad Plentyn Rhywun: “Rwy’n cytuno â Mr Jones am y cyfleusterau chwistrellu diogel. Byddent yn cael gwared ar y paraffernalia cyffuriau ac yn tynnu defnyddwyr o barciau a mannau agored.

“Mae gan lawer o ddefnyddwyr cyffuriau anghenion cymhleth. Byddai’r cyfleusterau chwistrellu diogel yn rhoi mynediad iddynt at gyfleusterau glân ac ni fyddai’n rhaid iddynt boeni am y stigma o gael mynediad i help.”