Dyddiad
Cynlluniau i recriwtio 17 o blismyn a chwe aelod o staff ychwanegol yn ennill cefnogaeth
Bydd dau ar bymtheg o heddweision a chwech o staff ychwanegol yn cael eu recriwtio yng Ngogledd Cymru ar ôl i gomisiynydd yr heddlu sicrhau cefnogaeth i’w gynlluniau ariannu.
Cafodd y cynnig gan Arfon Jones, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, i gynyddu cost plismona 76c y mis - llai na chost torth o fara - ei gefnogi’n unfrydol gan Banel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru heddiw (dydd Mawrth, Ionawr 31) .
Mae’r cynnydd o 3.79 y cant ym mhraesept yr heddlu ymhlith yr isaf yng Nghymru a chafodd ei gefnogi gan y cyhoedd mewn arolwg ar-lein.
Dangosodd yr arolwg bod 63 y cant o bron i 1,000 o dalwyr y dreth gyngor a holwyd o blaid cynnydd o bump y cant neu fwy.
Ar gyfartaledd bydd deiliad tŷ mewn eiddo Band D yn talu £9.09 ychwanegol y flwyddyn yn unig, sef cyfanswm o £249.21 ar gyfer praesept heddlu blynyddol, cynnydd o dâl praespet £240.12 y llynedd. Daw hyn yn sgil toriad o dros £1 miliwn yng ngrant plismona’r Llywodraeth ar gyfer Gogledd Cymru.
Y flwyddyn nesaf bydd y grant llywodraeth ganolog, sy’n cyfateb i hanner cyllideb yr heddlu, yn gyfystyr â £71.7 miliwn, sef toriad o 1.4 y cant.
Gwrthododd y panel ystyried y cynnig yr wythnos diwethaf a gohiriwyd y cyfarfod tan heddiw.
Roedd Arfon Jones “yn siomedig a rhwystredig” bod cyfarfod yr wythnos ddiwethaf wedi ei ohirio 90 munud cyn yr oedd i fod i gychwyn.
Dywedodd: “Rwy’n falch ein bod wedi gallu datrys y mater hwn o’r diwedd oherwydd mae’n rhaid i fuddiannau pobl Gogledd Cymru ddod yn gyntaf bob amser.
“Rydym yn byw mewn cyfnod heriol ac mae hynny’n wir am blismona yn ogystal â rhannau eraill o gymdeithas.
“Mae’r cynnydd o 3.79 y cant yn seiliedig ar achos busnes cadarn sydd wedi cael ei weithio’n fanwl iawn mewn ymgynghoriad â’r Prif Gwnstabl.
“Rwyf hefyd wedi ymgynghori â’r cyhoedd drwy gynnal arolwg ar-lein lle gwnaeth bron i 1,000 o dalwyr y dreth gyngor gymryd rhan a lle gwelwyd y mwyafrif llethol o blaid cynnydd o bump y cant.
“Mae’r cynnydd yn sylweddol is na hynny ac mae wedi ei seilio ar sicrhau cydbwysedd rhwng rhedeg gwasanaeth heddlu effeithlon ac effeithiol a chydnabod bod llawer o bobl yng Ngogledd Cymru yn ei chael yn anodd ymdopi gyda hyd yn oed cynnydd bychan fel hyn.
“Mae lefel y praesept yn hanfodol i effeithiolrwydd yr heddlu wrth gadw Gogledd Cymru yn lle diogel ar gyfer byw, gweithio ac ymweld a gosod y praesept yw un o fy mhrif gyfrifoldebau.
“O ganlyniad i’r penderfyniad heddiw, bydd Heddlu Gogledd Cymru yn gallu recriwtio 17 heddwas arall a chwech aelod ychwanegol o staff.
“Mae cyllidebau plismona wedi bod o dan bwysau ers nifer o flynyddoedd a bydd hyn yn sicr yn dal yn wir yn y dyfodol wrth i’r gyllideb wynebu £7 miliwn o doriadau pellach.
“Bydd cyllideb yr heddlu yn parhau i wynebu ansicrwydd yn 2018/19 a thu hwnt, felly roedd yn hollbwysig gwneud y penderfyniad iawn heddiw.
Mae’r Comisiynydd a’r Prif Gwnstabl wedi cytuno ar doriadau o £2.86 miliwn yng nghyllideb Heddlu Gogledd Cymru ar gyfer 2017-2018 gyda thros £1.25 miliwn o’r toriadau hynny yn cael eu hailfuddsoddi mewn gwasanaethau rheng flaen a fydd hefyd yn cael hwb yn dilyn y £1 miliwn ychwanegol i swyddi rheng flaen o’r cynnydd yn y praesept.
Ychwanegodd Mr Jones: “Mae plismona o dan bwysau mawr yn sgil gofynion newydd - pwy fyddai wedi meddwl bod y rhan fwyaf o droseddau yng Ngogledd Cymru bellach yn cael eu cyflawni ar-lein yn hytrach nag ar y stryd?
“Mae fy nghronfeydd wrth gefn mewn sefyllfa sefydlog a iach ac felly rwyf ond yn edrych i gynyddu’r dreth cyngor er mwyn ariannu gwariant y flwyddyn i ddod a delio gydag effaith gostyngiadau pellach yn y grant gan llywodraeth ganolog os a phryd y digwydd hynny.”