Dyddiad
Pobl ifanc o ysgol gynradd leol a phennaeth plismona gogledd Cymru oedd y cyntaf i gael y cipolwg ar bencadlys heddlu newydd ecogyfeillgar.
Fel cyn arolygydd heddlu, roedd Arfon Jones, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, yn gyfarwydd â’r adeilad uchel hen-ffasiwn yn Wrecsam, ond dyma oedd ei olwg gyntaf ar gyfleuster rheoli a chadw cyfoes y rhanbarth ddwyreiniol yn ardal gyfagos Llai.
Yn ymuno ag ef ar daith Drysau Agored o’r Pencadlys tri llawr ar gyfer Wrecsam a Sir y Fflint yr oedd 22 o ddisgyblion Blynyddoedd Pump a Chwech o Ysgol Park, Llai, pob un mewn dillad addas, sef het galed, fest gwelededd uchel, menig a sbectol ddiogelwch.
Pan fydd yn gwbl weithredol, bydd hyd at 200 o swyddogion a staff yn cael eu lleoli yno ar unrhyw adeg.
Mae’r adeilad 8,680 metr sgwâr, a fydd yn gwbl weithredol yn yr hydref, yn cael ei adeiladu gan gontractwyr blaenllaw Galliford Try ac mae ganddo swyddfeydd a chyfleusterau penodol ar gyfer 248 o swyddogion a staff yr heddlu.
Mae yno 32 o gelloedd, cyfleusterau ffreutur, a dwy gampfa, un ohonynt ar gyfer cynnal profion ffitrwydd ysgwydd ar gyfer swyddogion yr heddlu, yn ogystal ag ystafelloedd newid a garejys.
Mae gan yr adeilad gronfa solar o 80 kilowat ar y to, cynaeafu dŵr glaw ar gyfer golchi 85 o gerbydau heddlu yr wythnos, goleuadau clyfar i gadw ynni a siafftiau golau haul er mwyn sicrhau bod y celloedd mewnol yn cael golau naturiol.
Mae disgwyl i’r contractwyr Gallifford Try drosglwyddo’r adeilad gwerth £16.7 miliwn i’r heddlu fis nesaf (Mai) ac mae disgwyl i’r safle fod yn weithredol yn yr hydref. Ar ôl ei osod allan, bydd cost gyffredinol yr adeilad yn £21.5 miliwn.
Yn y cyfamser, bydd yr hen orsaf heddlu yn Wrecsam yn cael ei dymchwel a bydd gorsaf newydd yng nghanol y dref gyda desg flaen i’r cyhoedd yn cael ei hagor yn yr hen Oriel.
Dywedodd Arfon Jones: “Mae Pencadlys newydd Rhanbarth Gogledd Ddwyrain Cymru yn gyfleuster gwych ac mae gallu lleoli staff ar gyfer Wrecsam a Sir y Fflint mewn un lleoliad pwrpasol yn rhagorol.
Mae’r adeilad yn addas at y dyfodol ac wedi’i adeiladu ar gyfer yr 21ain ganrif a bydd yn darparu amgylchedd gwaith gwych i’n staff - yn llawer gwell na’r tŵr yng nghanol y dref lle treuliais lawer o flynyddoedd.
Yn arbennig ers cau’r celloedd yng ngorsaf heddlu yr Wyddgrug, roedd rhaid mynd â charcharorion o Sir y Fflint i Lanelwy ond mi fydd hyn yn darparu lleoliad llawer mwy hygyrch ac addas.”
Roedd y disgyblion hefyd wedi mwynhau’r ymweliad gydag o leiaf dau yn cael eu hysbrydoli gan eu hymweliad â’r safle.
Dywedodd Paige Roberts, 11 oed: “Mae’n wir yn dda ac roeddwn i’n hoffi’r celloedd yn arbennig. Hoffwn fod yn gyfrifol am brosiect fel hyn a gwneud yn siŵr bod popeth yn y lle iawn ar yr adeg iawn.
Hoffwn fod yn yr heddlu neu yn y diwydiant adeiladu. Mae gen i fodryb sy’n gyrru ambiwlans ac un arall sy’n swyddog heddlu.”
Meddai ei chyd-ddisgybl Ffion Williams, sydd hefyd yn 11 oed: “Mae’n adeilad cŵl iawn ac rwy’n falch ei fod yma yn Llai.
Mi wnes i fwynhau gweld yr adeiladwyr wrth eu gwaith ac mi hoffwn i fod yn blastrwr.”
Dywedodd yr Athro Jason Whalley: “Mae’n adeilad gwych ac mae wedi ysbrydoli llawer o’r plant.
Mae rhai ohonynt yn hoffi cael profiad go iawn o waith a gweld y gallent fynd i mewn i waith adeiladu yn y dyfodol ac mae gennym o leiaf un darpar blastrwr a rheolwr safle yn eu plith.
Rydym hefyd wedi cael argraff dda o ran pa mor ddiogel yw’r safle a pha mor bwysig yw diogelwch a dyna’r neges bwysicaf i’r disgyblion.”
Dywedodd Richard Buck, Cyfarwyddwr Datblygu Busnes Galliford Try North West: “Mae’r prosiect gwerth £16.7 miliwn yma wedi mynd yn dda iawn, mae’n adeilad nodedig ac mae o fewn y gyllideb ac ar amser.
Cynhyrchwyd cryn dipyn o werth cymdeithasol yn ystod y gwaith adeiladu gyda lleoliadau profiad gwaith a phrentisiaethau yn cael eu creu yn ogystal â’n defnydd o isgontractwyr a chadwyni cyflenwi lleol oherwydd mae’n bwysig iawn bod cymunedau lleol yn cael rhannu yn y buddsoddiadau mawr hyn.”
Fel rhan o’r Diwrnod Drysau Agored cafwyd ymweliadau â’r safle hefyd gan dîm ymgysylltu ieuenctid Cyngor Wrecsam gyda myfyrwyr o Ysgol Uwchradd Bryn Alyn a grŵp gweithio ar gyfer cymunedau’r Cyngor.
Dywedodd yr Arolygydd Steve Owens, o Heddlu Gogledd Cymru; “Mae’r digwyddiadau Drysau Agored wedi bod yn ffordd wych o ymgysylltu â gwahanol grwpiau ac rydym wrth ein boddau’n arbennig bod plant ysgol lleol wedi cael cyfle i edrych ar y prosiect pwysig hwn.
Maent wedi gallu gweld sut mae’r adeilad a’r tir o’i gwmpas yn cael ei ddatblygu a dysgu rhywbeth am sut y mae cyfleuster heddlu modern yn gweithio.”