Dyddiad
Mae pennaeth heddlu yn annog y tîm pêl-droed y mae’n eu cefnogi i lansio eu clwb eu hunain i gefnogwyr LHDT – pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsryweddol.
Roedd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones, yng Nghlwb Pêl-droed Wrecsam yn y Cae Ras er mwyn tynnu sylw at y ffaith y bydd chwaraewyr y clwb yn gwisgo carrai lliwiau’r enfys yn eu hesgidiau ar gyfer eu gêm gartref yn erbyn tîm pêl-droed Halifax ar ddydd Sadwrn, 10 Chwefror. Mae hyn yn ymgais i godi ymwybyddiaeth o faterion LHDT, ac mae’r enfys yn symbol pwerus i’r gymuned honno.
Trefnir y fenter drawiadol gan Enfys – y rhwydwaith cefnogi o fewn Heddlu Gogledd Cymru sy’n ceisio cefnogi staff LHDT i gyrraedd eu potensial llawn, yn broffesiynol ac yn bersonol.
Mae menter y carrai amryliw hefyd yn digwydd yn ystod y Mis Hanes LHDT swyddogol, yn ogystal â Mis Gweithredu Pêl-droed v Homoffobia, a gefnogir gan glybiau ar hyd a lled y Deyrnas Unedig.
Dywedodd y Comisiynydd: “Eleni roeddwn eisiau cymryd rhan mewn rhywbeth gyda Heddlu Gogledd Cymru a fyddai’n nodi Mis Hanes LHDT yng ngogledd Cymru mewn ffordd bositif a pherthnasol.
Yn bersonol, rwy’n angerddol iawn am bêl-droed ac, wrth gwrs, yn hynod o angerddol am fy nhîm pêl-droed innau, Clwb Pêl-droed Wrecsam.
Rwy’n ddiolchgar i’r clwb am eu cefnogaeth i’r digwyddiad hwn i godi ymwybyddiaeth, a phwy a ŵyr, os oes diddordeb, yn ogystal â chreu awyrgylch groesawgar, efallai y gallwn hefyd sefydlu clwb cefnogwyr LHDT i Glwb Pêl-droed Wrecsam.
Ychwanegodd Mr Jones: “Rydym yn gwybod ers tro bod pobl LHDT wedi eu tangynrychioli ym myd pêl-droed proffesiynol, ac mae hyn yn amlwg o edrych ar feysydd bywyd eraill, lle mae pobl yn teimlo’n gyfforddus ac yn ddiogel i fod yn agored am bwy ydyn nhw ymhlith eu ffrindiau, eu teuluoedd a’u cydweithwyr.
Ond ym myd pêl-droed, mae’r ystadegau yn adrodd stori wahanol – gan fod pobl mewn ofn, ac yn sicr yn rhy ofnus i fod ‘allan’.
Yn ddiweddar, darlledwyd ffilm fer deimladwy iawn ar y One Show ar y BBC am Richie Anderson, dyn sy’n chwarae pêl-droed ar lefel leol.
Mi wnaeth gymryd llawer o hyder iddo i ddod allan i’w gyd-chwaraewyr, ond ym meysydd eraill ei fywyd gwyddai y câi ei dderbyn, ac roedd yn gyfforddus i fod yn fo ei hun.
Mae hyn yn rhywbeth sydd angen ei newid. Mae angen i’r diwydiant pêl-droed proffesiynol ddangos i bobl ei fod yn iawn i fod yn Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsryweddol. Mae’n iawn i fod yn LHDT a gweithio fel hyfforddwr, neu reolwr, neu chwaraewr neu i fod yn gefnogwr i’r tîm.
Mae angen gwneud llawer o waith ar hyn er mwyn newid y diwylliant o ofn a chreu ymdeimlad o berthyn a derbyn.
Un cam bychan ar y daith honno yw cael y timau pêl-droed a ddilynwn, ein harwyr ni, i ddangos ei fod yn iawn i fod ‘allan’ ym myd pêl-droed. Er mwyn dangos eu cefnogaeth i hyn, bydd chwaraewyr Wrecsam yn gwisgo carrai lliwiau’r enfys yn eu hesgidiau pêl-droed yn y gêm yn erbyn Halifax ar 10 Chwefror.
Pan fyddwn ni’n creu diwylliant o dderbyn, mae’n ein symud ni i ffwrdd o gas-eiriau, digwyddiadau o gasineb a throseddau casineb.
Nid oes lle i gasineb yma yng Ngogledd Cymru, yn ein cymunedau nac ein pêl-droed.”
Cefnogwyd awgrym y Comisiynydd Heddlu a Throsedd am glwb i gefnogwyr LHDT yng Nghlwb Pêl-droed Wrecsam gan ysgrifennydd y clwb, Geraint Parry, a ddywedodd: “Rwy’n credu ei fod yn syniad gwych, ac mae eisoes gan nifer o glybiau chwaraeon rywbeth tebyg.
Mae lasys lliwiau’r enfys yn fenter dda arall y mae clwb pêl-droed Wrecsam yn falch i’w chefnogi.
Gan fod y clwb hwn yn eiddo i aelodau’r gymuned, ein nod yw bod yn gynhwysol i bob haen o’r gymuned honno, gan gynnwys pobl LHDT.
Gobeithiwn fod pawb yn teimlo eu bod yn cael croeso pan fyddan nhw’n dod i’n gemau ni, gartref ac i ffwrdd.”
Mae capten Wrecsam, Shaun Pearson, yn falch i wisgo’r carrai amryliw ar gyfer y gêm ar 10 Chwefror yn y Cae Ras.
Dywedodd: “Mae’n hynod o bwysig bod pêl-droed yn agored ac yn estyn croeso i bawb, beth bynnag fo’u tueddfryd rhywiol.
Dylem anelu at sicrhau bod y clwb hwn, a phêl-droed yn gyffredinol, mor agored a chynhwysol â phosib, lle nad oes ar neb ofn y byddant yn dod ar draws unrhyw fath o gam-wahaniaethu.
Gan fod Clwb Pêl-droed Wrecsam yng nghalon y gymuned, dylai fod yn enghraifft i bawb o sut i fod yn gynhwysol.”
Un arall sy’n cefnogi’r carrai amryliw yw Steve Gilbert, cadeirydd Cymdeithas Cefnogwyr Anabl Clwb Pêl-droed Wrecsam.
Dywedodd: “Rydym eisiau cynnwys pawb, felly rwy’n falch iawn bod ein chwaraewyr yn gwneud hyn i gefnogi pobl LHDT. Dylid croesawu pawb i gemau pêl-droed.
Yn ogystal â thynnu sylw at faterion LHDT, bydd y gêm ar 10 Chwefror hefyd yn gêm awtistiaeth-gyfeillgar, gan y bydd aelodau o’r Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol yn Wrecsam yn ei mynychu.”
Dywedodd Paula Johnson, swyddog cefnogi yn swyddfa Prif Gwnstabl Gogledd Cymru, ac sy’n un o randdeiliaid rhwydwaith cefnogi Enfys: “Mae’r rhwydwaith yn defnyddio mentrau fel carrai lliwiau’r enfys i godi ymwybyddiaeth o faterion LHDT ymhlith swyddogion yr heddlu ac aelodau’r gymuned.
Mae’n andros o bwysig bod Clwb Pêl-droed Wrecsam, â’i gefnogaeth eang, yn helpu trosglwyddo’r neges fod bod yn LHDT yn iawn.
Nid oes chwaraewyr sydd ‘allan’ yn hoyw ym mhob clwb pêl-droed proffesiynol yn y DU, ond roedd yn dda gweld Richie Anderson yn dod allan i’w gyd-chwaraewyr ar y teledu, ac iddyn nhw fod yn hynod o gefnogol iddo, ac nid yn ei drin yn wahanol mewn unrhyw ffordd.
Rhan fechan yn unig o fywyd rhywun yw bod yn LHDT ac, yn achos pêl-droed, nid yw’n ein hatal rhag cefnogi neu chwarae o gwbl.”