Dyddiad
Mae tîm o bobl ifanc yn gosod y ddeddf i lawr yng ngogledd Cymru.
Mae 30 aelod Comisiwn Ieuenctid - y cyntaf o’i fath yng Nghymru - yn helpu i lunio cynllun newydd ar gyfer y ffordd y mae’r rhanbarth yn cael ei blismona.
Sefydlwyd y cynllun gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Arfon Jones ac mae’n cael ei oruchwylio gan ei ddirprwy, Ann Griffith, y mae ei phortffolio yn cynnwys plant a phobl ifanc.
Mae’r holl aelodau rhwng 14 a 25 oed a’r pedwar prif bwnc a nodwyd ganddynt fel prif bryderon yw’r berthynas rhwng pobl ifanc a’r heddlu, materion cyffuriau, ymddygiad gwrthgymdeithasol a materion iechyd meddwl.
Mae Comisiwn Ieuenctid Gogledd Cymru yn cyfarfod unwaith y mis o dan arweiniad Leaders Unlocked, sefydliad menter gymdeithasol arbenigol sy’n gweithio gyda phobl ifanc ledled y DU ac sydd wedi bod yn rhedeg wyth cynllun tebyg ledled Lloegr ers 2013.
Hefyd yn cymryd rhan y mae Sian Rogers o sefydliad ieuenctid Urdd Gobaith Cymru, sydd yno i sicrhau mynediad cyfartal i’r Gymraeg.
Mewn cyfarfod a gynhaliwyd ym Mae Colwyn, dywedodd rheolwr y prosiect Alison Roberts: “Gwnaeth pob un o'r bobl ifanc sy’n eistedd ar y comisiwn gais am y rôl a chawsant eu dewis o ystod mor eang â phosibl o gymunedau o bob rhan o ogledd Cymru.
Mae’r grŵp mor amrywiol. Mae gennym fyfyrwyr A* sy’n wirioneddol academaidd, rhai sydd neu wedi bod trwy’r system ofal, pobl ifanc o leiafrifoedd ethnig ac eraill sydd â phrofiad o’r system cyfiawnder troseddol.
Rydym wedi tynnu grŵp o bobl ifanc at ei gilydd na fyddent, o dan amgylchiadau arferol, mwy na thebyg wedi cymysgu’n gymdeithasol efo’i gilydd. Fodd bynnag, mae gan bob un ohonyn nhw nod cyffredin, sef gwella bywydau pobl ifanc yng ngogledd Cymru.”
Ychwanegodd: “Nid mater o eistedd o amgylch bwrdd yn ein cyfarfodydd misol yn unig yw hyn. Mae aelodau Comisiwn Ieuenctid Gogledd Cymru yn siarad efo pobl ifanc eraill mewn ysgolion, colegau, clybiau ieuenctid a hyd yn oed y rhai sydd yn y gwasanaeth cyfiawnder ieuenctid i gael eu barn ac i feddwl am syniadau ac atebion i’w rhoi fel adborth i’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd.
Y gobaith erbyn canol mis Chwefror yw y byddwn wedi siarad â 1,200 o bobl ifanc ledled y Gogledd. Y bwriad wedyn yw rhoi’r wybodaeth a gasglwyd gerbron cynhadledd a fydd yn cael ei rhedeg gan y bobl ifanc eu hunain.
Yn y pen draw mi fydd argymhellion o’r gynhadledd honno yn cael eu cyflwyno i Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Arfon Jones a’i ddirprwy Ann Griffith ac a fydd wedyn yn rhan o’r Cynllun Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru nesaf.
Ar ôl rhai dadleuon manwl iawn mae’r pedwar mater a nodwyd gan y bobl ifanc dan sylw yn cynnwys perthynas rhwng pobl ifanc a’r heddlu, materion cyffuriau, ymddygiad gwrthgymdeithasol a materion iechyd meddwl.
Fel grŵp mae’r bobl ifanc hyn yn cynnig pob math o syniadau ond y pedwar prif bwnc hynny oedd yn dod i’r amlwg mewn trafodaethau dro ar ôl tro.”
Dywed aelodau’r Comisiwn Ieuenctid, Charlie Parry, 17 oed, Ella McDowell, 15 oed, Tatiana De Olivera, 14 oed, a Claudia Maria Sacres, 13 oed, sydd i gyd yn dod o Wrecsam, fod bod yn rhan o’r Comisiwn Ieuenctid yn rhoi llais iddynt.
Dywedodd Charlie, cadét heddlu sydd â gobeithion o ddod yn heddwas yn y pen draw: “Mae Ella a minnau’n gadetiaid heddlu ac yn gweld pethau o’r ddwy ochr.
Rydym wedi bod allan mewn gwisg cadetiaid yr heddlu ac wedi cael ein sarhau gan bobl ifanc sy’n gweld yr heddlu fel eu gelyn.
Ac oherwydd y sarhad mae swyddogion heddlu weithiau’n ei gael gan rai pobl ifanc rydych yn gallu gweld sut mae’n effeithio ar y ffordd mae'r heddlu'n gwneud penderfyniadau a sut maen nhw’n ymateb. Mae angen go iawn i ni fynd i’r afael â’r berthynas rhwng pobl ifanc a’r heddlu.
Cytunodd Ella gan ychwanegu: “Mae’n broblem wirioneddol ac os nad yw’n cael ei ddelio bydd yn gwaethygu. Mae’n eithaf trist gweld sut mae rhai pobl ifanc yn ymateb i’r heddlu a sut maen nhw’n amau bron popeth am yr heddlu ac awdurdod.”
Dywed Tatiana, sydd ag uchelgais i ddod yn nyrs a Claudia, sy’n bwriadu astudio meddygaeth a dod yn feddyg, fod bod yn aelodau o’r Comisiwn Ieuenctid yn brofiad newydd.
Meddai Tatiana: “Mae’n ddiddorol iawn gweld sut mae pobl ifanc yn cael eu gweld. Rwy’n credu ei bod hi’n bwysig ein bod ni wedi dewis y berthynas rhwng pobl ifanc a’r heddlu fel pwnc o bwys.
Mae hiliaeth yn rhywbeth arall yr hoffwn i weld sylw yn cael ei roi iddo. Rwyf wedi cael fy sarhau yn hiliol ar y stryd unwaith neu ddwy, ond nid wyf yn ei ystyried yn broblem enfawr. Mae fwy i’w wneud â’r pethau bach fel sy’n digwydd yn yr ysgol.
Roedden ni’n trafod caethwasiaeth mewn hanes ac mae’r iaith a ddefnyddiwyd yn y dyddiau hynny fel defnyddio’r gair ‘N’ yn golygu bod eraill yn troi ac yn edrych arnoch chi. Rwyf wir yn dymuno y gallen ni anghofio lliw croen, a thrin pawb yr un fath.”
Ychwanegodd Claudia: “Rydw i eisiau i bawb yn y gymdeithas wrando ar bobl ifanc oherwydd mae gan bob un ohonom lais ac mae gan bob un ohonom rywbeth i’w ddweud. Mae’n bechod oherwydd rwy’n teimlo’n rhy aml o lawer nad oes neb yn gwrando arnom.”
Dywed Emily Jones, o Ddinbych, Seren Hughes o Gorwen, Hanna Roberts ac Erin Gwyn o Ruthun, sydd i gyd yn 17 oed, fod y Comisiwn Ieuenctid yn ffordd wych i bobl ifanc fynegi eu barn.
Dywedodd Emily, sydd ag uchelgais i ddod yn weithiwr ieuenctid: “Mae’n wych gallu trafod syniadau gyda phobl ifanc eraill o wahanol gefndiroedd a cheisio dod o hyd i atebion.
Mae’n sicr yn bwysig bod pobl ifanc yn cael gwrandawiad a’n bod ni’n cael llais. Gall beth rydym yn ei wneud yma wneud gwahaniaeth nid yn unig i bobl ifanc ond i’r gymdeithas gyfan.”
Ychwanegodd Seren, sydd eisiau hyfforddi fel gweithiwr cymdeithasol: “Yn syml, does dim digon o ddarpariaeth ieuenctid ledled gogledd Cymru. Os ydym am fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, mae’n rhaid i ni roi pwrpas i bobl ifanc ddifreintiedig.
Nid anwybyddu pobl ifanc yw’r ateb. Mae angen gwrando arnom. Rwy’n gobeithio y gallwn wneud gwahaniaeth i’r hyn y mae’r heddlu’n canolbwyntio arno ac y bydd hynny o fudd i bawb nid dim ond pobl ifanc.”
Ychwanegodd Hanna, sydd â chynlluniau i astudio ymchwilio troseddol yn y brifysgol: “Mae angen i ni weld mwy o heddlu ar y stryd ond yn bwysig iawn, rydym angen swyddogion heddlu sy’n barod i adeiladu perthynas efo pobl ifanc.
Anaml neu braidd byth y gwelwch chi blismyn yn dod i mewn i’n hysgolion ac mae hynny’n biti. Mae’n rhywbeth dwy ffordd ac mae angen pobl ifanc arnom i adeiladu perthynas well efo’r heddlu. “
Ychwanegodd Erin, sydd eisiau astudio troseddeg ond sydd ddim wedi diystyru gyrfa yn y gwasanaeth heddlu: “Mae canfyddiad go iawn fod rhai swyddogion heddlu yn credu y bydd rhai pobl ifanc yn ymddwyn mewn ffordd benodol.
Mae angen i hynny newid gan fod angen i bobl ifanc ddeall pam mae’r heddlu’n gwneud y gwaith y maen nhw a’r anawsterau sy’n eu hwynebu.”
Dywed Kieran Hughes a Mair Williams, sydd ill dau o Ynys Môn, Sarah Goodsir, o Gaergybi a Joshua Taylor o Gaernarfon, pob un yn 17 oed, bod eu rôl yn y Comisiwn Ieuenctid yn rhoi cyfle iddyn nhw gael llais, rhywbeth nad oedd ganddyn nhw o’r blaen.
Dywedodd Kieran, sydd yn bwriadu mynd yn heddwas: “Fel pobl ifanc mae angen i ni adeiladu perthynas gyda’r heddlu a delio â beth rydw i’n ei weld yn ddiffyg parch. Ond, rwy’n derbyn y efallai fy mod i’n gweld peth o un ochr.
Rydyn ni’n gweld problemau’n deillio o gyffuriau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ledled gogledd Cymru; mae’n broblem fawr ac yn rhywbeth na ellir ei wella dros nos.”
Dywedodd Mair, sydd eisiau dod yn newyddiadurwr: “Un mater i mi yw nad oes ofn ar lawer o bobl ifanc y dyddiau hyn i fynd i drafferth neu gael eu dal. Mae gen i ddiddordeb mewn dysgu sut mae’r heddlu’n defnyddio’r pwerau sydd ganddyn nhw i fynd i’r afael â throseddu.
Rwyf wedi bod efo diddordeb erioed mewn materion iechyd meddwl ac rydw i’n awyddus i ddysgu sut y mae’r heddlu’n delio â phobl a allai fod â phroblemau efo’u lles meddyliol.”
Dywedodd Joshua, sydd fel Sarah yn gadét heddlu gyda chynlluniau yn y dyfodol i ddod yn swyddog heddlu: “Mae problem mor enfawr gyda chyffuriau ledled y Gogledd. Rydyn ni’n gweld pobl ifanc yn dod i’r ysgol ar adegau pan maen nhw’n amlwg yn uchel ar ryw sylwedd neu’i gilydd. Ac eto does dim neu fawr ddim yn cael ei wneud am y peth.
Rwyf wedi clywed am ddigwyddiadau lle mae myfyrwyr wedi dod i’r ysgol a cyffuriau arnyn nhw. Mae rhieni wedi cael eu galw i mewn ond dydi’r heddlu ddim wedi chwarae rhan o gwbl. Ni all hynny fod yn iawn.”
Ychwanegodd Sarah: “Rydyn ni’n gweld swyddogion heddlu yn dod i’r ysgol o bryd i’w gilydd, ond hoffwn i weld hynny’n digwydd yn fwy aml. Ond hoffwn weld mwy o heddweision allan ar y strydoedd hefyd.
Mae gormod o bobl ifanc yn gweld swyddogion heddlu fel ffigurau casineb ac nid rhywun sydd yno i’w helpu. Mae’n biti ond yr unig ffordd i newid hynny yw meithrin perthnasoedd.”
Ychwanegodd: “Mae materion cyffuriau yn broblem fawr fel y mae ymddygiad gwrthgymdeithasol ond yn aml mae cysylltiad rhwng gwahanol faterion. Un peth yn sicr yw bod angen i ni weld mwy o arian a mwy o weithredu cymunedol. Mae angen i ni ysbrydoli pobl ifanc ac efallai y gall y Comisiwn Ieuenctid wneud hynny.”
Dywedodd y Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Ann Griffith, sydd â chyfrifoldeb arweiniol dros bobl ifanc fel rhan o’i swydd: “Rwy’n wirioneddol falch o’r gwaith y mae’r bobl ifanc anhygoel hyn yn ei wneud.
Mae hwn yn brosiect rhagorol ac arloesol ac mae’n hynod ddiddorol clywed barn cymaint o bobl ifanc. Mae ganddyn nhw lais go iawn ac mae angen i ni wrando arnynt. Does gen i ddim amheuaeth y bydd llais pobl ifanc yn ymddangos yn gryf yn ein Cynllun Heddlu a Throsedd nesaf.
Galwodd Arfon Jones, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, heibio i wrando ar y bobl ifanc oedd yn cymryd rhan yng nghyfarfod y Comisiwn Ieuenctid.
Meddai: “Roedd yn hynod ddifyr clywed rhai o safbwyntiau’r bobl ifanc hyn sy’n dod o bob rhan o’r Gogledd.
Mae’n amlwg eu bod yn rhoi cryn dipyn o feddwl i’r materion sy’n effeithio ar bobl ifanc ac yn arbennig yn eu perthnasoedd o ddydd i ddydd gyda’r heddlu.
Mi fyddwn yn gwrando’n ofalus iawn ar eu barn a’r hyn y maen nhw’n credu yw’r ffordd ymlaen wrth i ni ddatblygu ein cynllun Heddlu a Throsedd newydd.”