Skip to main content

Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn dewis cyn brif dditectif fel ei ddirprwy

Dyddiad

Dyddiad
Cyn-heddwas blaenllaw yn cael ei gadarnhau fel dirprwy gomisiynydd heddlu a throsedd newydd

Mae cyn-dditectif blaenllaw a arweiniodd ymchwiliad pwysig i gam-drin plant yn rhywiol wedi cael ei ddewis fel yr ymgeisydd a ffefrir i ddod yn ddirprwy gomisiynydd heddlu a throsedd newydd Gogledd Cymru.

Bydd penodiad y cyn-Dditectif Brif Uwcharolygydd Wayne Jones, a wasanaethodd fel Pennaeth Gwasanaethau Trosedd gyda Heddlu Gogledd Cymru, yn mynd gerbron Panel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru er mwyn cadarnhau ei benodiad ddydd Llun nesaf (Medi 20).

Yn frodor o’r Rhyl, ymddeolodd o’r heddlu ym mis Mawrth eleni ar ôl gyrfa ddisglair ar draws 30 mlynedd.

Os cymeradwyir y penodiad mae wedi ymrwymo i ddod yn fwy rhugl yn y Gymraeg, ar ôl cyflawni Lefel 3 eisoes sy’n golygu ei fod yn gallu sgwrsio’n rhannol yn y Gymraeg.

Fe’i dewiswyd gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin, sydd hefyd yn dysgu Cymraeg ac wedi ymrwymo i hyrwyddo defnydd o’r iaith, gyda 75 y cant o’i dîm yn siaradwyr Cymraeg rhugl.

Dywedodd Mr Dunbobbin: “Dewiswyd Wayne o blith ymgeiswyr o ansawdd uchel ar ôl proses ddethol agored, drylwyr a thryloyw.

“Roedd ymhlith swyddogion heddlu mwyaf talentog ac ymroddedig ei genhedlaeth a thrwy ei sgiliau ditectif ac arweinyddiaeth llwyddodd i ddal ac erlyn llawer o droseddwyr peryglus.

“Mae wedi bod ar flaen y gad wrth fynd i’r afael â throseddau sy’n dod i’r amlwg fel caethwasiaeth fodern, troseddau rhywiol ar-lein sy’n ymwneud â phlant ac oedolion, twyll digidol a throseddau tebyg, a gallwn ddweud bod Gogledd Cymru yn lle llawer mwy diogel diolch i’w ymdrechion.

“Bydd profiad proffesiynol Wayne a’i wybodaeth fanwl am blismona cyfoes o gymorth mawr wrth fy helpu i lunio’r strategaeth gyffredinol ar gyfer plismona Gogledd Cymru mewn ymgynghoriad â phobl y Gogledd a rhanddeiliaid allweddol eraill.

“Fel y dywedais yn glir yn ystod cyfnod yr ymgyrch etholiadol, rwyf am sicrhau bod pob dioddefwr yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i wella o’u profiad. Rwyf am roi llais i ddioddefwyr a’n cymunedau fel eu bod yn cael eu clywed.

“Yn ystod y broses ddethol, amlinellodd Wayne ei weledigaeth sy’n canolbwyntio ar ddioddefwyr. Mae hyn yn cyd-fynd yn berffaith â’m blaenoriaethau fy hun a chyda’n gilydd rwy’n hyderus y gallwn wneud gwahaniaeth real wrth wneud Gogledd Cymru yn lle diogelach fyth i fyw a gweithio ynddo.

Dechreuodd gyrfa heddlu Wayne Jones pan ymunodd â Heddlu Swydd Gaerhirfryn yn 20 oed, ar adeg pan oedd yn rhaid i chi fod yn 21 oed o leiaf i ddod yn heddwas yng Ngogledd Cymru.

Ar ôl tair blynedd yn Swydd Gaerhirfryn, dychwelodd adref i ymuno â Heddlu Gogledd Cymru yn 1994, gan wasanaethu yn Wrecsam i ddechrau a symud ymlaen yn gyflym i fyny’r rhengoedd. Yn ystod ei yrfa bu hefyd yn gwasanaethu yng Nghaergybi, Y Rhyl, Llandudno, y pencadlys adrannol yn Llanelwy a phencadlys  Heddlu’r Gogledd ym Mae Colwyn.

Yn ogystal ag arwain y frwydr yn erbyn gangiau Llinellau Cyffuriau, bu’n allweddol wrth sefydlu nifer o fentrau arloesol gan gynnwys Tîm Ymchwilio Ar-lein yr Heddlu (POLIT), tîm Onyx ar gyfer Camfanteisio Rhywiol ar Blant (CSE) ac Uned Troseddau Economaidd yr heddlu.

Ef hefyd oedd y Comander Aur ar gyfer Ymchwiliad Lenten i gam-fanteisio ar blant yn rhywiol a dderbyniodd wobr arbennig am ei waith.

Roedd Ymchwiliad Lenten yn ymgyrch ar y cyd gyda Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint, gan weithio gyda dioddefwyr cam-drin a cham-fanteisio rhywiol ar blant a chefnogi dioddefwyr, tra’n sicrhau tystiolaeth yn erbyn aelodau o Grŵp Troseddau Cyfundrefnol oedd yn gweithredu’n genedlaethol.

Dros bum mlynedd cysylltwyd â mwy na 200 o blant a chafodd 50 o bobl o bob rhan o’r wlad eu harestio a dygwyd cyhuddiadau yn erbyn nifer o unigolion am droseddau oedd yn cynnwys masnachu mewn pobl a throseddau rhywiol difrifol.

Ym mis Rhagfyr 2018 yn dilyn achos pum wythnos yn Llys y Goron a ddenodd sylw cenedlaethol dedfrydwyd dau ddyn i dros 14 mlynedd yr un yn y carchar.

Cafodd proffesiynoldeb, empathi a diwydrwydd a ddangoswyd gan dîm yr ymchwiliad ei gydnabod gan farnwr yr achos, y dioddefwyr a chan yr Asiantaeth Troseddau Cenedlaethol fel ymchwiliad safon aur .

Ymchwiliad proffil uchel arall a arweiniwyd ganddo oedd llofruddiaeth Ermatati Rodgers, 41 oed, yn Wrecsam.

Cafodd ei thagu i farwolaeth gan y gweithiwr llaeth Lukasz Reszpondek yn 2008, a gladdodd ei chorff mewn bedd bas yn ardal Erddig ar gyrion y dref.

Carcharwyd Reszpondek, oedd yn dad i ddau o blant, am oes ar ôl cael ei ddal gan y tîm dan arweiniad Wayne Jones, a oedd yn Dditectif Brif Arolygydd ar y pryd.

Tra dan wyliadwriaeth, dychwelodd Reszpondek i’r safle 13 gwaith, wedi’i wisgo mewn dillad cuddliw, er mwyn gweld cynnydd yr heddlu wrth chwilio am y llofrudd ac yn y diwedd ceisiodd symud ei chorff.

Wrth gofio nôl dywedodd Wayne: “Mi wnaethon ni ddefnyddio llawer o dactegau cudd er mwyn ei ddilyn, ac mi wnaethon ni lwyddo i’w gael i feddwl ein bod ni’n cloddio’r caeau a phen draw hynny oedd ein harwain at y corff.”

Yn dilyn hynny, chwaraeodd rôl gydlynu yn cefnogi Ymgyrch Pallial - ymchwiliad annibynnol yr Asiantaeth Troseddau Cenedlaethol i honiadau o gam-drin yn y gorffennol yn y system ofal yng Ngogledd Cymru - a ddechreuodd ym mis Tachwedd 2012.

Yn ôl Wayne Jones, mae amddiffyn pobl fregus bob amser wedi bod yn rhan ganolog o’i ymagwedd tuag at blismona.

Meddai: “Mae dioddefwyr eisiau cael eu clywed, eisiau cael gwrandawiad a’u cyfeirio at wasanaethau cefnogol fel y gallan nhw gael yr holl help sydd ei angen arnyn nhw i helpu eu hadferiad.

“Rwy’n meddwl mai’r peth gorau sydd wedi digwydd dros y blynyddoedd diwethaf yw’r newid pwyslais a fu gan roi’r dioddefwr wrth galon popeth sy’n cyd-fynd yn dda gyda blaenoriaethau’r Comisiynydd.

“Rwyf wedi neilltuo rhan fawr o fy ngyrfa i fynd i’r afael â bregusrwydd ac rwy’n credu’n angerddol mewn gwneud gwahaniaeth go iawn i bobl agored i niwed, yn enwedig plant sy’n ddioddefwyr.

“Os cadarnheir fy mhenodiad, hoffwn yn fawr barhau â’r genhadaeth hon fel Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throsedd newydd Gogledd Cymru, gan weithio ochr yn ochr ag Andy.”