Dyddiad
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones, wedi beirniadu'r oedi wrth osod cyllideb plismona hanfodol ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.
Pleidleisiodd Panel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru heddiw (Dydd Llun) i ohirio trafodaeth ar argymhelliad Mr Jones i gynyddu praesept yr Heddlu 3.79 y cant, a fyddai’n rhoi £2.25 miliwn yn ychwanegol tuag at blismona’r rheng flaen a 17 o swyddogion ychwanegol.
Mae hyn er gwaetha’r ffaith mai dyma’r cynnydd lleiaf o’r pedwar llu yng Nghymru a bod arolwg ymysg y cyhoedd wedi cefnogi cynnydd hyd yn oed yn fwy.
Yn lle hynny, pleidleisiodd y Panel, yn eu cyfarfod yng Nghonwy, yn unfrydol o blaid cynnig gan y cadeirydd, Cynghorydd Sir Ceidwadol Conwy, Julie Fallon, eu bod yn gohirio trafod y praesept tan ddydd Mawrth, Ionawr 31, gan nad oedden nhw wedi gweld copi o Gynllun Heddlu a Throsedd Mr Jones.
Mae hyn yn debygol o greu oediad o beth bynnag wythnos yng ngosod y praesept.
Meddai Mr Jones, ei hun yn gyn-arolygydd gyda’r Heddlu, a etholwyd yn Gomisiynydd fel ymgeisydd Plaid Cymru fis Mai diwethaf: “Mae hi’n siomedig ac yn rhwystredig bod oedi gyda cham mor bwysig ac angenrheidiol.
“Dim ond 90 munud cyn y cyfarfod y’n hysbyswyd o hyn gan Gadeirydd y Panel, felly mae hi’n amlwg nad oedd bwriad o gwbl i gyfaddawdu.
“Cadeiriwyd y cyfarfod heddiw mewn modd unbenaethol gan y cadeirydd, heb ganiatáu unrhyw fewnbwn gynnon ni o gwbl – fel cynffon yn ysgwyd ci.
“Fe fyddai’r cynnydd a gynigiwyd gen i wedi golygu y byddai’r gost i gadw pobl Gogledd Cymru’n ddiogel wedi codi o ddim ond 76c y mis - llai na phris torth o fara.
“Fe fyddai hyn wedi talu am 17 o swyddogion ychwanegol a chwech yn rhagor o aelodau staff.”
Dywedodd Mr Jones mai ei gynnydd arfaethedig o 3.79 y cant ym mhraesept yr Heddlu oedd, yn ôl pob tebyg, yr isaf yng Nghymru ac wedi cael cefnogaeth y cyhoedd mewn arolwg ar-lein a ddangosodd bod 63% o bron i 1,000 o drethdalwyr cyngor a holwyd o blaid codiad o bump y cant neu fwy.
O dan delerau cynnig Mr Jones, fe fyddai perchnogion tai mewn eiddo Band D, ar gyfartaledd, yn talu dim ond £9.09 yn ychwanegol y flwyddyn, cyfanswm o £249.21 ar gyfer praesept blynyddol yr heddlu, i fyny o £240.12.
Daw hyn yn sgìl toriad o fwy na £1 miliwn yng ngrant plismona’r Llywodraeth i Ogledd Cymru, sy’n gyfystyr â hanner cyllideb yr Heddlu, i £71.7 miliwn, gostyngiad o 1.4 y cant.
Ychwanegodd Mr Jones: “Rydw i’n parhau i ymgynghori ar y Cynllun ac felly dydy’r Cynllun ddim yn barod i’w gyhoeddi a dim ond wedi inni gael gwybod faint o arian fydd ar gael y medrwn ei gwblhau.
“Mae’r Cynllun yn dibynnu ar yr ariannu ac nid i’r gwrthwyneb.
“Mae gen i 12 mis i gyhoeddi cynllun sy’n dod i ben fis Mai eleni.
“Mae’n ofynnol imi, yn ôl y gyfraith, i ymgynghori â phobl Gogledd Cymru; mae hynny’n digwydd ar hyn o bryd ac fe fydd y Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu yn mynychu cyfarfod cyhoeddus ym Mhwllheli yr wythnos hon.
“Mae’r cynnig o godiad o 3.79 y cant yn seiliedig ar achos busnes cadarn sydd wedi’i feddwl allan mewn cryn fanylder ac wrth ymgynghori â’r Prif Gwnstabl.
“Rydw i hefyd wedi ymgynghori â’r cyhoedd trwy gynnal arolwg ar-lein, lle cafwyd bron i 1,000 o drethdalwyr cyngor yn cymryd rhan a lle gwelwyd mwyafrif llethol o blaid cynnydd o bump y cant o leiaf.
“Mae’r hyn rydw i’n ei gynnig yn sylweddol llai na hynny ac wedi’i seilio ar gyflawni cydbwysedd rhwng cynnal heddlu effeithlon ac effeithiol â’r gydnabyddiaeth bod llawer o bobl yng Ngogledd Cymru’n ei chael hi’n anodd cyfarfod â chynnydd bach hyd yn oed.
“Mae lefel y praesept yn hanfodol i effeithiolrwydd yr Heddlu i gadw Gogledd Cymru’n ardal ddiogel i fyw a gweithio ynddi, ac ymweld â hi, ac mae ei osod yn un o’m prif gyfrifoldebau.
“Mae cyllidebau plismona wedi bod dan bwysau ers sawl blwyddyn bellach ac mae hyn yn sicr o barhau gyda disgwyl toriadau pellach o £7 miliwn i’r gyllideb yn 2020.
“Yn wyneb yr ansicrwydd parhaus yma i ariannu’r Heddlu ar gyfer 2018/19 a thu hwnt, bydd atal y cynnig hwn yn ei gwneud hi’n anoddach i ddelio â gostyngiadau posib yn y dyfodol yn yr ariannu gan lywodraeth ganolog.”
Mae’r Comisiynydd a’r Prif Gwnstabl wedi cytuno ar doriadau o £2.86 miliwn yng nghyllideb Heddlu Gogledd Cymru ar gyfer 2017-18, gyda dros £1.25 miliwn o’r toriadau hynny’n cael eu hail-fuddsoddi yn y gwasanaethau rheng flaen, a fydd hefyd yn cael hwb ychwanegol o £1 miliwn mewn swyddi rheng flaen trwy’r cynnydd yn y praesept.
Dywedodd Mr Jones: “Mae plismona dan bwysau mawr gan ofynion newydd a osodir arno – pwy fase’n meddwl bod mwyafrif y troseddu yng Ngogledd Cymru bellach yn cael ei gyflawni ar-lein yn hytrach nag ar y stryd?
“Mae’r cronfeydd sydd wrth gefn gen i mewn sefyllfa sefydlog ac iach a’m bwriad i ydy dim ond ceisio cynyddu’r dreth cyngor er mwyn talu am wariant y flwyddyn sydd i ddod ac i ddelio ag effaith gostyngiadau pellach yng ngrant y llywodraeth os a phryd bynnag y digwydd hynny.”