Dyddiad
Mae elusen sydd yn helpu dioddefwyr trais a cham-drin rhywiol wedi cael dros £10,000 gan bennaeth plismona gogledd Cymru er mwyn osgoi argyfwng ariannol.
Mae’r Ganolfan Cefnogaeth Trais a Cham-drin Rhywiol (RASASC) wedi ennill y Wobr Eiriolwr Dioddefwyr gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones, mewn seremoni yng Ngwesty’r Celt yng Nghaernarfon.
Mae hwn yn un o’i Wobrau Cymunedol, sy’n cael eu cyflwyno yn flynyddol i bobl a sefydliadau sydd wedi gwneud gwahaniaeth i fywydau eu cyd-drigolion yng ngogledd Cymru.
Mae RASASC, a oedd gynt yn cael ei adnabod fel y Llinell Argyfwng Trais wedi ei lleoli ym Mharc Menai ar gyrion Bangor, wedi cael ei chyfarwyddo gan Jane Ruthe am 15 mlynedd, ac roedd hi yn seremoni eleni i gasglu’r wobr er iddi gael llawdriniaeth ddiweddar i gael pen-glin newydd.
Wrth gyflwyno’r wobr dywedodd Mr Jones: “Os na fyddai RASASC yna, fyddai llawer mwy o bobl yn chwilio am gefnogaeth oddi wrth wasanaethau statudol ac mae’n hen bryd fod y gwasanaethau yma yn cydnabod y gwaith da sy’n cael ei wneud gan y Ganolfan.
“Mae’n lleihau’r gofynion ar y Gwasanaeth Iechyd yn arbennig ac rwy’n credu y dylai’r gwasanaethau chwarae eu rhan yn ariannu’r Ganolfan.
“Rwyf wedi cyfrannu dros £10,000 er mwyn clirio tagfa o achosion a fyddent fel arall wedi gorfod dioddef ar restrau aros i dderbyn y gwasanaethau yma, oherwydd os na fyddwn yn mynd i’r afael â rhai o’r rhesymau gwaelodol sydd tu ôl i’r problemau yma, bydd y rhain yn dod i’r wyneb fel symptomau.
Mae’r wobr yma yn taro tant gyda fy mlaenoriaethau heddlu a throsedd gan ei bod yn ymwneud â chefnogi ac amddiffyn dioddefwyr.
Rydym eisiau i’r bobl fwyaf agored i niwed a’r dioddefwyr mwyaf bregus i gael mynediad at yr help y maent ei angen ac mae RASASC yn esiampl wych o sefydliad sy’n gwneud hynny.
Mae wedi cael ei arwain yn wych gan yr ymroddgar Jane Ruthe gan helpu llawer o bobl i ddelio gyda’r problemau meddyliol a chorfforol y mae’r cam-drin yma yn eu hachosi.”
Roedd Fflur Emlyn, dirprwy reolwr y Ganolfan, yn awyddus iawn i ganmol y gefnogaeth a roddwyd gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd: “Mae wedi ein helpu ni i ganfod ffynonellau ariannu hirdymor cynaliadwy.”
“Rhoddodd swm sylweddol o arian i ni er mwyn lleihau ein rhestr aros. Mae gennym restr aros o hyd, ond bellach mae chwarter ei hyd blaenorol.”
Ychwanegodd: “Fel pob un ohonom, roedd Jane wrth ei bodd gyda’r wobr. Mae cael ein cydnabod fel hyn yn eisin ar y gacen.
“Rydym oll wrth ein boddau i dderbyn y wobr hon. Mae’n dangos ein bod ni’n gwneud gwaith da. Ac roedd yn achlysur braf drwyddi draw.”
Mae’r ganolfan yn gwasanaethu gogledd Cymru i gyd, gan gynnwys Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Ynys Môn, a Wrecsam, ac mae’n cynnig gwasanaethau therapi am ddim i ddynion, merched, a phlant dros dair oed.
Roedd y ganolfan yn arfer bod yng nghanol tref Caernarfon, ond symudwyd i Barc Menai y llynedd ar ôl i Lywodraeth Cymru ddarparu cyllid a alluogodd y Ganolfan i symud.
“Roedd Llywodraeth Cymru wedi darparu’r cyllid yn Chwefror 2017 ac mi symudon ni i Barc Menai ar ddiwedd mis Mawrth 2017,” meddai Fflur.
“Ond ni chynhaliwyd yr agoriad swyddogol tan y 9fed o Chwefror 2018 mewn seremoni a berfformiwyd gan Arfon Jones.
“Mae hefyd gyda ni ganolfannau estyn allan mewn ystafelloedd ar rent preifat yng Nghaergybi a Bae Colwyn. Rydym yn rhentu oddi wrth gwmnïau fel Gorsaf Dân Y Rhyl, ac mae gyda ni ystafelloedd yn Wrecsam a Phorthmadog fel bod neb yn gorfod teithio yn rhy bell.”
Dywedodd Fflur fod y ganolfan a’i chanolfannau estyn allan yn cynnig cefnogaeth i ddynion a merched sydd wedi profi unrhyw fath o drais rhywiol, gan gynnwys trais diweddar neu hanesyddol a phlant sydd wedi dioddef cam-drin rhywiol.
“Mae gan ein canolfan ym Mharc Menai bedair ystafell cynghori, gan gynnwys un sydd a chyfarpar chwarae therapi i blant. Mae yno hefyd ystafell hyfforddi, ystafell wirfoddoli a gofod swyddfa.
O Ebrill y 1af 2017 hyd at y 31ain o Fawrth 2018, cafodd gwasanaethau’r Ganolfan Drais a Cham-drin Rhywiol eu defnyddio gan 452 o bobl gan gynnwys 392 o ferched a 60 dyn.
Rydym hefyd yn delio gyda phlant sydd o leiaf tair oed. Mae gennym ystafell arbennig gyda mynediad hawdd.”
Dywedodd Fflur fod cyfraddau cyfeirio wedi saethu i fyny yn y blynyddoedd diweddar o ganlyniad i gyhoeddusrwydd trais a cham-drin rhywiol hanesyddol yn dilyn sgandal Jimmy Saville a’r datguddiadau mwy diweddar ynglŷn ag academïau pêl-droed clybiau fel Manchester City a Crewe.
“Yng ngogledd Cymru cafwyd ymchwiliad i gam-drin rhywiol hanesyddol mewn cartrefi gofal ac mae’n bosib bod y cyhoeddusrwydd yma’n cael ei adlewyrchu yn y cyfraddau cyfeirio uwch.” eglurodd Fflur.
“Mae rhai o’r achosion rydym yn delio efo nhw yn ofidus iawn. Maen nhw’n medru torri eich calon, ond mae’n rhaid i ni roi’r pwyslais ar y ffaith bod bywyd a gobaith ar ôl i rywun gael eu treisio neu eu cam-drin yn rhywiol.”
Mae gan RASASC bedwar aelod o staff llawn amser yn ogystal â 41 cwnselydd gwirfoddol a staff cefnogol. “Rydym yn falch iawn nad oes neb sy’n gofyn am help yn cael eu danfon i ffwrdd,” meddai Fflur.
Roedd geiriad yr enwebiad am y wobr yn nodi bod Canolfan Trais a Cham-drin Rhywiol Gogledd Cymru yn esiampl wych o sefydliad sydd wedi cael ei ddylunio yn arbennig i helpu dioddefwyr trais.
Mae’n darparu cefnogaeth arbenigol annibynnol er mwyn helpu pobl i weithio drwy eu profiad o drais a cham-drin rhywiol ac mae gan y ganolfan weithlu cryf a phenderfynol o wirfoddolwyr hyfforddedig sy’n rhan annatod o ddarpariaeth y gwasanaeth.
Dechreuodd y ganolfan fel elusen gofrestredig yn 1983 o’r enw Llinell Argyfwng Trais, ac erbyn hyn wedi datblygu i fod yn Ganolfan Trais a Cham-drin Rhywiol Gogledd Cymru diolch i agwedd benderfynol Jane Ruthe.
Yn yr agoriad swyddogol ar y 9fed o Chwefror, dywedodd Jane fod un ddynes yn ei 80au wedi cysylltu gan ddweud iddi gael ei threisio pan oedd yn ei harddegau.
Ni wnaeth y ddynes honno ffonio eto ac ni wnaeth ymweld â’r ganolfan, ond dywedodd nad oedd hi eisiau marw heb ddweud wrth rhywun.
Capsiwn: Gwobrau CHaTh 20: Yn y llun yn derbyn y wobr Eiriolwr Dioddefwyr yng Ngwobrau Cymunedol Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru yr oedd y Ganolfan Cefnogaeth Trais a Cham-drin Rhywiol, o’r chwith i’r dde, y Dirprwy Gomisiynydd Ann Griffith, Lynne Richardson, Fflur Emlyn, Nicola Mapp, Jane Ruthe, Non Williams a Charlotte Pepper.