Skip to main content

Cymru'n wynebu 200 yn llai o heddweision os na chaiff ffrae arian hyfforddi ei ddatrys

Dyddiad

Dyddiad
Troseddau casineb

Gallai ffrae dros sut y caiff hyfforddiant yr heddlu ei ariannu arwain at 200 yn llai o heddweision yng Nghymru - gyda recriwtiaid posibl yn dewis ymuno â heddluoedd yn Lloegr yn lle hynny.

Dyna’r rhybudd gan bedwar Comisiynydd Heddlu a Throsedd a Phrif Gwnstabliaid Cymru, sy’n galw am weithredu brys dros yr Ardoll Prentisiaethau dadleuol sy’n gosod lluoedd heddlu Cymru dan “anfantais anferth”.

Mae Grŵp Plismona Cymru Gyfan wedi mynegi ei bryderon mewn llythyr at yr Athro Mark Drakeford, Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Gyllid a Llywodraeth Leol.

Mae cadeirydd y grŵp, Arfon Jones, sydd hefyd yn Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, yn dweud bod y pedwar gwasanaeth heddlu yng Nghymru yn talu cyfanswm o £2 filiwn ac mae’n ofni na fyddant yn cael dim byd yn ôl.

Mae Llywodraeth y DU wedi cytuno ar gytundeb ar gyfer ariannu’r ardoll yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon lle bydd pob un o’r llywodraethau datganoledig yn derbyn cyfran o’r arian a delir i mewn ar sail eu poblogaeth.

Yn Lloegr mae’r arian y mae’r heddluoedd yn ei dalu i mewn i’r ardoll yn mynd i goleg heddlu Lloegr ond yng Nghymru mae’n mynd i Lywodraeth Cymru sydd i fod i dderbyn o bron i £400,000,000 yn ôl dros y tair blynedd nesaf.

Ond dywed Mr Jones, oherwydd nad yw Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am blismona, fod yna gwestiwn mawr ynghylch a ellir gwario unrhyw gyfran o’r arian a dalwyd i mewn gan heddluoedd Cymru, gan gynnwys Heddlu Gogledd Cymru, ar hyfforddi swyddogion.

Yn ôl Mr Jones, roedd hyn yn golygu bod recriwtio yn cael ei lesteirio’n ddifrifol.

Dywedodd: “Rydym yn pryderu’n fawr y bydd yr ansicrwydd sy’n bodoli yng Nghymru yn creu sefyllfa lle mae heddluoedd Lloegr yn fwy deniadol i recriwtiaid posibl na heddluoedd Cymru. Yn y pen draw, bydd hyn yn niweidiol i gymunedau Cymru.

Mae heddluoedd Cymru ar hyn o bryd o dan anfantais ariannol ddifrifol ac yn y dyfodol byddwn hefyd dan anfantais o ran hyfforddiant o’i gymharu â’n cymheiriaid yn Lloegr.

O dan fodel ariannu Lloegr, byddai 92 y cant o gostau hyfforddiant yn cael eu diwallu trwy’r Ardoll Prentisiaethau, gyda dim ond wyth y cant yn cael eu talu’n uniongyrchol gan yr heddluoedd.

Mewn gwrthgyferbyniad, mae’r trefniadau ariannu yng Nghymru yn golygu y byddai’n rhaid i heddluoedd yma dalu rhwng 95 a 100 y cant o’r costau eu hunain.

O dan bwysau o’r fath, efallai y byddai’n rhaid i heddluoedd Cymru ostwng safon yr hyfforddiant a gynigir, ac mi fyddai’n anffodus symud i ffwrdd o’r safonau unffurf sydd ar waith ar hyn o bryd.

Yn anochel byddai gorfod ariannu’r hyfforddiant o’r adnoddau presennol yn cael effaith ar blismona rheng flaen.

Credwn fod y broblem yn ganlyniad anfwriadol o ran sut y mae arian o Whitehall i’r llywodraeth ddatganoledig yng Nghymru yn cael ei gyfrifo trwy Fformiwla Barnett.

Rydym yn ceisio datrysiad brys i’r mater hwn oherwydd bod cost heb ei ariannu o bron i £10 miliwn o’r Fframwaith Cymwysterau Addysg yr Heddlu yn cyfateb i 200 yn llai o swyddogion heddlu yng Nghymru - mae hyn gyfystyr â 86 o heddweision yn Ne Cymru, 45 yng Ngogledd Cymru, 35 yn Nyfed Powys a 34 yng Ngwent.

Bydd hyn yn ychwanegol at y toriadau y mae heddluoedd Cymru eisoes wedi eu dioddef ers 2010, sydd wedi gweld gostyngiad o dros 2,500 o swyddogion a staff yr heddlu, sy’n cyfateb i holl adnoddau Heddlu Gogledd Cymru.

Rydym yn gwerthfawrogi bod Ysgrifenyddion Cabinet a gweision sifil Cymru wedi bod yn hynod adeiladol yn y gefnogaeth a gynigiwyd ganddynt hyd yma.

Fodd bynnag, rydym yn gofyn am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i ddatrys y mater hwn ar frys gyda Llywodraeth y DU.

Ni allwn gael sefyllfa lle mae heddluoedd Cymru naill ai’n syrthio ar ôl Lloegr o ran ansawdd yr addysg a roddir i heddweision neu’n gorfod gwneud gostyngiadau sylweddol pellach yn ein niferoedd. Yn weithredol, mae’r naill ddewis neu’r llall yn annerbyniol.

Ni allwn ddatrys y ddau ddewis hynod annymunol yma mewn ffordd sy’n diogelu buddiannau ein cymunedau heb ymyrraeth weithredol ac adeiladol Llywodraethau Caerdydd a Whitehall."