Dyddiad
Mae cynllun gweithredu wedi cael ei lansio i wrthdroi’r cynnydd annisgwyl mewn dedfrydau carchar byr sy’n cael eu rhoi i ferched yng Ngogledd Cymru
Cafodd y duedd “bryderus” yma, a welodd gynnydd o 88 y cant o 40 yn 2010 i 75 yn 2015, ei hamlygu mewn cynhadledd arbennig a gynhaliwyd gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Arfon Jones.
O ganlyniad, mae Mr Jones, yr Ymddiriedolaeth Diwygio Carchardai a thua 20 o asiantaethau eraill, wedi cynnig cyfres o argymhellion brys ar ôl clywed bod mwy o ddedfrydau carchar chwe mis neu lai yn cael eu rhoi i ferched yng Ngogledd Cymru ar gyfartaledd na bron yn unrhyw le arall yn y Deyrnas Unedig.
Mae holl argymhellion yr adroddiad bellach wedi cael eu derbyn gan Fwrdd Cyfiawnder Troseddol Gogledd Cymru ac maent wedi eu cynnwys yn eu cynllun cyflawni ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Un o’r prif flaenoriaethau yw y dylai darparu mwy o atebion y tu allan i’r llys fel rhybuddion, dedfrydau cymunedol a chyfeiriadau at gefnogaeth arbenigol gan sefydliadau fel Canolfan Merched Gogledd Cymru yn y Rhyl.
Yn ôl Arfon Jones, roedd cyswllt yn aml rhwng troseddau merched a’r ffaith eu bod wedi dioddef trais yn y cartref neu fasnachu pobl a allai arwain at gyfres o faterion eraill fel problemau iechyd meddwl, cymryd cyffuriau neu buteindra.
Dywedodd Mr Jones: “Mae prinder gwasanaethau iechyd meddwl, amseroedd aros hir a throthwyon angen heriol yn sialens wirioneddol gyda goblygiadau i amser yr heddlu.
“Mae gan lawer o ferched sy’n dod i gysylltiad â’r system cyfiawnder troseddol anghenion iechyd meddwl ac anableddau dysgu, ac ar hyn o bryd gwasanaethau seiciatrig yw’r cyfeirydd mwyaf i Ganolfan Merched Gogledd Cymru yn Y Rhyl.
“Mae yno dystiolaeth gadarn sy’n dangos bod canolfannau merched yn fwy effeithiol na charchar wrth leihau troseddu ymysg merched.
“Mae profiad diweddar o Fanceinion a Chanolfan Merched Gogledd Cymru yn dangos y gall y gwasanaethau hyn helpu i drawsnewid bywydau merched a gwella darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus sydd eisoes ar waith.
“Mae gwasanaethau o’r fath yn gost-effeithiol a gallant sicrhau arian ychwanegol ond er mwyn gwneud hynny, bydd arnynt angen cyllid sefydlog hir dymor gan bartneriaid statudol allweddol.
“Roedd pawb yn gytûn ynghylch yr angen i wneud anghenion plant yn flaenoriaeth wirioneddol gan fod merched yn aml iawn yn brif ofalwr.
“Tanlinellwyd natur frys y sefyllfa gan ffigurau newydd o’r Weinyddiaeth Gyfiawnder.
“Maent yn dangos bod nifer y merched a ddedfrydir i’r ddalfa yng Ngogledd Cymru wedi parhau i gynyddu ac mae bellach wedi cyrraedd 116 - yr uchaf y bu ers o leiaf 2011 a chynnydd o bron i 60 y cant dros bum mlynedd.”
Talodd Mr Jones deyrnged i’r ymgyrchu diflino ar y mater gan Howard Thomas, cyn-brif swyddog prawf Gogledd Cymru.
Ychwanegodd: “Mae Howard Thomas yn haeddu cryn dipyn o glod am ei holl waith caled a’r lobïo y mae wedi ei wneud i daflu goleuni ar y mater pwysig hwn.”
Rhoddodd Mr Thomas ei hun groeso i’r cynllun gweithredu fel cam mawr ymlaen.
Nododd y ffaith bod ystadegau cenedlaethol yn dangos bod traean o ferched sy’n garcharorion yn colli eu cartrefi, ac yn aml eu heiddo, wrth gwblhau eu dedfryd ac nad oedd gan 38 y cant ohonynt lety wedi ei drefnu ar adeg eu rhyddhau.
Dywedodd Mr Thomas: “Mae cael eu hanfon i’r carchar, hyd yn oed am gyfnod byr o amser yn unig, yn cael effaith fawr ar fywydau’r merched hyn a hefyd ar eu teuluoedd.
“Mae hefyd yn gwneud eu hailsefydlu, sy’n hollbwysig, yn fwy anodd fel y mae’r gyfradd ail-gollfarnu o 61 y cant ar gyfer y rhai sy’n cael dedfrydau byr yn dangos.
“Dywedodd cyn-lywodraethwr Carchar Styal nad oedd erioed wedi dod ar draws gymaint o unigolion sydd wedi eu niweidio, yn fregus gydag anghenion cymhleth. Yn gywir, galwodd am ddod a dedfrydu byr i ben ar unwaith ac awgrymodd na ddylai hanner y merched yn ei hen garchar fod wedi cael eu hanfon yno.”
Cafodd yr Ymddiriedolaeth Diwygio Carchardai grant gan y Loteri Fawr i gynnal rhaglen waith ledled y Deyrnas Unedig o’r enw Trawsnewid Bywydau (Transforming Lives) gyda’r nod o leihau’r defnydd diangen o’r ddalfa i ferched, yn enwedig dedfrydau byr.
Dywedodd uwch swyddog rhaglen Dr Thomas Guiney: “Mae llawer o ferched yn cael eu dedfrydu am gyfnodau byr iawn i’r carchar. Hyd arhosiad ar gyfartaledd yng Ngharchar Styal yw saith i wyth wythnos ac nid yw hynny’n cynnig llawer o gyfle ar gyfer adsefydlu effeithiol a chynllunio ail-leoli.
“Tynnodd llawer o’r rhai a oedd yn bresennol sylw at rôl merched fel prif ofalwyr. Mae yna gyswllt a thystiolaeth glir rhwng carcharu mam a phrofiadau plentyndod niweidiol. Mae lle i wneud mwy o ddefnydd o warediadau y tu allan i’r llys wrth arestio ac erlyn.”