Dyddiad
Mae bachgen ‘hyfryd’ yn ei arddegau wedi ennill gwobr am weithred garedig yn ystod gwyliau’r ysgol.
Roedd Daniel Roberts, 16 oed, o Gaergwrle, wedi ei siomi yr haf diwethaf pan wnaeth ddarganfod bod sied yr ardd gymunedol yn ei ysgol, Ysgol Uwchradd Castell Alun yn yr Hob, Sir y Fflint, wedi cael ei malu gan fandaliaid.
Ar ôl adrodd am y broblem i’r ysgol, treuliodd yr egin-beiriannydd ddau ddiwrnod yn atgyweirio’r sied ei hun, gan ei gwneud yn gryfach nag o’r blaen, felly roedd y sied yn ôl ar ei thraed erbyn i bawb ddychwelyd o’r gwyliau haf.
Enillodd ymdrechion y gŵr ifanc Wobr Pobl Ifanc yn y gwobrau cymunedol a gafodd eu cynnal gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Arfon Jones.
Cyfaddefodd Daniel, a gafodd help ei daid John Roberts i atgyweirio’r sied, nad oedd yn disgwyl diweddu’n ennill gwobr.
“Rwy’n aelod o’r clwb garddio yn yr ysgol a doeddwn i ddim yn rhy hapus i weld bod y sied wedi cael ei fandaleiddio,” meddai’r disgybl Blwyddyn 11. “Mi wnaeth ei thrwsio gymryd ychydig o ddyddiau. Roedd yn rhaid i ni fesur y cyfan allan, didoli'r deunyddiau, ac yna rhoi’r cyfan at ei gilydd.
“Mi wnaethon ni osod ffenestri newydd a bolltio’r drws yn ei le. Mi wnaethon ni wneud y sied yn llawer mwy cadarn.”
Mae Daniel wedi bod yn fyddar ers ei eni, ond oherwydd natur ei fyddardod ni chafodd ddiagnosis llawn nes ei fod yn bum mlwydd oed.
Nid oedd ganddo unrhyw broblemau i glywed seiniau amledd isel ond roedd yn cael trafferth clywed synau rhwng canol amlwdd ac isel amledd, sef lle bydd person fel arfer yn clywed cytseiniaid pa yw rhywun yn siarad.
Fel plentyn bach mi wnaeth basio ei holl brofion clyw - ac ni chafodd y problemau eu hadnabod nes ei fod yn ychydig yn hŷn.
Cafodd Daniel mewnblaniadau yn y cochlea - dyfeisiau electronig a osodwyd yn ei glust fewnol - yn Ionawr 2008 a dywed ei rieni fod y llawdriniaeth wedi trawsnewid bywyd y bachgen ifanc, gan ei alluogi i glywed yn dda a byw bywyd normal.
Dywedodd ei dad Barry: “Mae’r dyfeisiau wedi bod yn llwyddiant rhyfeddol. Unwaith roedden nhw wedi eu gosod, roedd yn gallu mynychu ysgolion arferol ac nid oedd yn rhaid iddo fynd i ysgolion byddar. Roedd ganddo ychydig o waith dal i fyny i’w wneud ond mae wedi gwneud hynny’n rhyfeddol o dda.”
Mae gan Daniel, sydd ar ganol ei arholiadau TGAU ar hyn o bryd, angerdd am beirianneg ac mae’n gobeithio ennill prentisiaeth yn y maes. Mae eisoes wedi cael un neu ddau o gyfweliadau ac mae mwy wedi eu trefnu.
Ychwanegodd Barry ei dad: “Unwaith y gwnaeth ddarganfod peirianneg, roedd fel pe bai wedi dod o hyd i’w alwedigaeth. Mae wedi dod yn fachgen penderfynol. Mae’n mwynhau’r pwnc yn arw. Mae ganddo angerdd go iawn, sydd mor braf i’w weld. Mae fel pe bai golau wedi cael ei droi ymlaen.”
Yn ogystal â bod yn ymarferol, mae gan Daniel ochr ofalgar hefyd - a dyna pam y penderfynodd fynd yn ei flaen yr haf diwethaf i drwsio’r sied gafodd ei fandaleiddio. Roedd wedi cael cais i gadw llygad ar y sied dros wyliau’r haf y llynedd gan Diane Bates, cynorthwyydd addysgu yn yr ysgol.
“Roedden nhw’n falch iawn mod i wedi ei drwsio, ond doeddwn i ddim yn disgwyl ennill gwobr,” meddai Daniel.
Mi wnaeth Daniel a’i daid John, o’r Hob, y gwaith o’u pen a’u pastwn eu hunain heb unrhyw gost o gwbl i’r ysgol.
Dywedodd mam Daniel, Elizabeth: “Roedd wedi meddwl am y peth i gyd ei hun. Mae’n eithaf da gyda’i ddwylo, ac yn ymarferol iawn. Mae’n nodweddiadol ohono mewn gwirionedd, mae’n fachgen da.”
Ychwanegodd Elizabeth: “Roedd ennill y wobr yn sioc bleserus. Roedd yn dda iddo – ac mae’n ei haeddu.”
Dywedodd Diane Bates, cynorthwyydd dysgu Castell Alun, bod Daniel yn ‘ddyn ifanc hyfryd, sydd bob amser yn helpu staff a phobl eraill yn yr ysgol’.
“Does dim byd yn ormod o drafferth iddo,” ychwanegodd.
Cafodd Daniel, sydd â chwaer iau, Kirstyn, 10 oed, ei enwebu ar gyfer y Wobr Pobl Ifanc gan PC Debbie Barker, swyddog cyswllt ysgol yng Ngorsaf Heddlu yr Wyddgrug.
Meddai PC Barker: “Mae pobl ifanc oedran Daniel yn aml yn cael sylw gwael am achosi helynt felly mae wedi bod yn dda i dynnu sylw at y gwaith da mae ef a’i daid wedi ei wneud i adfer sied yr ardd.
“Mae’r ysgol yn defnyddio gweithgareddau garddio fel rhan o’u cwrs Bagloriaeth Cymru, felly mae’n chwarae rhan bwysig yn y cwricwlwm ac mi wnaeth Daniel yn siwr ei fod yn barod ar gyfer y disgyblion pan wnaethon nhw ddod yn ôl ar ôl gwyliau’r haf.”
Cyflwynwyd y wobr i Daniel mewn seremoni a gynhaliwyd yng Ngwesty Kinmel Manor, Abergele.