Skip to main content

Diwrnod ar y ffyrdd

Dyddiad

Dyddiad
Day_on_ the_streets (2) large

Paul sy’n ddigartref yn ofni y caiff ei ladd ar strydoedd Wrecsam

Galw am loches nos i agor 24/7 i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol

Clywodd pennaeth heddlu sut y mae dyn wedi bod yn byw ar y stryd yn Wrecsam am 20 mlynedd ar ôl marwolaeth ei fam o ganser.

Dywedodd Paul Evans, 49 oed, iddo fynd yn gaeth i gyffuriau yn y carchar a’i fod bellach wedi ei ddal mewn cylch dieflig o ddirywiad sydd wedi difetha ei fywyd.

Dywed Paul ei fod bellach yn byw mewn ofn cyson o gael ei ladd, naill ai drwy gael petrol wedi ei daflu drosto a’i roi ar dân neu drwy gael ei gicio i farwolaeth.

Esboniodd ei sefyllfa wrth Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Arfon Jones a dreuliodd ddiwrnod cyfan ar strydoedd Wrecsam er mwyn cael gwybod sut brofiad oedd bod yn rhywun heb do uwch ei ben.

Yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o fater digartrefedd, mi wnaeth digwyddiad Dydd ar y Stryd  a drefnwyd gan AVOW, Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam, hefyd godi mwy na £2,000 ar gyfer elusen, Digartref Wrecsam.

Ar ôl treulio 12 awr yn cerdded y strydoedd, mi wnaeth Mr Jones, sy’n gyn-arolygydd heddlu, ddweud y dylai Tŷ Nos, lloches nos Wrecsam yn Ffordd Holt, gael ei chadw ar agor drwy’r dydd ac nid dim ond am 12 awr yn ystod y nos.

Mae Mr Jones o’r farn y byddai cael y lloches ar agor drwy’r amser yn lleihau’r risg o ymddygiad gwrthgymdeithasol sydd wedi bod yn achosi gofid i drigolion a busnesau lleol fel ei gilydd.

Dywedodd Paul Evans, sy’n hanu o Bentre Brychdyn: “Roeddwn i’n byw gyda fy mam, ond bu farw o ganser. Roeddwn i’n gofalu amdani ond ar ôl iddi fynd collais y tŷ. Roedd yna lawer o ffraeo gyda fy mrodyr a chwiorydd. Mi wnes i ddiweddu fyny yn ddigartref.

“Mae cysgu ar y stryd yn beryglus. Rydym yn byw mewn ofn drwy’r adeg y bydd rhywun yn taflu petrol arnom ni a chynnau matsien, naill ai hynny neu ein cicio i farwolaeth. Mae pobl yn meddwl ein bod ni i gyd yn gaeth i heroin ac yn haeddu popeth gawn.

“Ond y tu ôl i bob person digartref mae stori ac yn gyffredinol mae pobl yn awyddus i adrodd eu stori, ond dydyn nhw ddim yn gwybod sut i wneud hynny.”

Ychwanegodd: “Mae cyffuriau yn broblem fawr. Erbyn hyn, does dim llawer o heroin o gwmpas ond yn lle hynny mae gennym yr hyn a oedd unwaith yn cael eu hadnabod fel legal highs. Mi wnaeth y rhain gymryd drosodd o heroin, pethau fel Mamba. Roedd pawb mewn awdurdod yn hapus bod mynd yn gaeth i heroin yn lleihau, ond does neb wedi meddwl am broblem Mamba.

“Mae pobl yn mynd yn gaeth i sylweddau yn y carchar, a dyna ddigwyddodd i mi. Doedd gen i ddim syniad beth oedd Mamba hyd nes i mi fynd i’r carchar. Cefais wyth mis yn llys y goron am fyrgleriaeth fasnachol. Mi wnes i ddwyn gwerth tua £40 o weiren gopr gan nad oedd gen i ddim arian. Rwyf wedi bod yn y carchar 20 gwaith.

“ Rwan, rwy’n crwydro o gwmpas yn osgoi’r heddlu yn bennaf. Beth sydd ei angen arnom yw rhywle i fynd a rhywun i eistedd lawr efo ni a siarad efo ni’n iawn. Mae angen i ni gael rhywfaint o barch a pheidio cael ein trin fel baw isa’r domen.

“Mae angen cyfle arnom. Mae mynd i’r carchar drwy’r amser yn ddibwrpas, beth mae hynny’n ei gyflawni? Rwyf jesd eisiau rhywfaint o help i gael lle i fyw a pheidio gorfod chwilio am rywle sych a diogel i gysgu yn y nos.”

Dywedodd Mr Jones: “Mae’r bobl digartref yma’n gwybod beth y mae trigolion a busnesau yn ei deimlo amdanynt. Maent yn gwybod am ymddygiad gwrthgymdeithasol a bod yn gaeth i gyffuriau ac alcohol. Ond mae angen cymorth arnynt a rhywle i fynd.

“Mae angen i ni sicrhau bod Tŷ Nos ar gael 24 awr y dydd, bob dydd. Nid oes diben troi’r bobl hyn allan ar y strydoedd am 8yb a’u gadael heb unman i fynd, a pheidio disgwyl gweld problemau.

“Yn syml iawn nid oes ganddynt unman i fynd a dim byd i’w wneud. Dylai Tŷ Nos fod ar gael fel canolfan galw i mewn. Byddai hynny’n gam i’r cyfeiriad iawn ac yn gychwyn ar roi trefn ar rywbeth sy’n fater cymhleth.”

Ychwanegodd: “Rwyf wedi fy synnu o weld pa mor huawdl a gwybodus y mae rhai o’r bobl hyn. Mewn gwirionedd mae’n wastraff enfawr. O gael mynediad at y gwasanaethau cywir byddai gan rai o’r bobl yma lawer iawn i’w gynnig.

“Ac maent yn cydnabod bod sylweddau seicoweithredol yn cymryd drosodd oddi wrth heroin traddodiadol a chyffuriau Dosbarth A eraill. Mae’r sylweddau hyn yn llawer rhatach, ond y broblem yw nad oes neb yn gwybod pa mor gryf ydynt neu beth sydd ynddynt.

“Mae’r diflastod llwyr yn gallu achosi problemau. Maent yn gadael Tŷ Nos a chrwydro’r strydoedd bob dydd gan gael eu symud ymlaen o un lle i’r llall. Mae llawer yn colli eu budd-daliadau ac yn cael eu gadael heb unrhyw arian a dim modd o edrych ar ôl eu hunain.

“Er bod yna wasanaethau, nid ydynt bob amser yn gweithio mor agos â’i gilydd gan ag efallai y dylent. Mae angen i ni feddwl mewn ffordd gydlynus os ydym am fynd i’r afael â’r broblem. Rwyf wir yn meddwl fod hyn yn achos o ‘oni bai am ras Duw’. Mae digartrefedd yn fagl y gallai llawer mwy o bobl ddisgyn iddo.”

Cafodd digwyddiad Dydd ar y Stryd ei drefnu gan Peter Jones, Cydlynydd Gwirfoddolwyr Camddefnyddio Sylweddau Wrecsam.

Meddai: “Mae gennym ganolfan galw i mewn yn Nhŷ Croeso yn Ffordd Grosvenor sy’n cael ei rhedeg gan dri aelod o staff a gwirfoddolwyr.

“Does gan y bobl sy’n ddigartref ddim i’w wneud ond diflasu. Mae budd-daliadau yn cael eu hatal a heb arian dydyn nhw ddim hyd yn oed yn gallu mynd i’r toiled. Yn Wrecsam mae defnyddio toiled cyhoeddus yn costio  20c. Yn aml iawn nid oes gan y bobl hyn 20c.

“Mae cael cefnogaeth Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn help mawr. Mae’n fater pwysig ac yn un nad yw’n mynd i fynd i ffwrdd.

Dywed y syrfëwr Nigel Lewis, sy’n cadeirio Fforwm Canol y Dref, bod y cyhoeddusrwydd a roddir i ddigartrefedd yn Wrecsam yn cael effaith andwyol ar fusnes.

Dywedodd: “Rydym yn ceisio adfywio canol y dref ond mae digartrefedd a’r materion cysylltiedig yn golygu ein bod yn cymryd cam yn ôl. Mae gan y bobl yma broblemau cyffuriau a materion iechyd meddwl gwirioneddol.

“Mae dod allan heddiw wedi bod yn agoriad llygad go iawn ac yn anogaeth i ni weithio gyda’n gilydd i geisio dod o hyd i ateb. Yr hyn sydd ei angen yw i sefydliadau weithio gyda’i gilydd ac nid yn annibynnol.

“Rwy’n cytuno gyda’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd ac am weld Tŷ Nos ar agor drwy’r dydd, beth yw’r pwynt gadael i bobl grwydro’r strydoedd heb unman i fynd a dim byd i’w wneud.”

Roedd yn deimlad a adleisiwyd gan un o Gynghorwyr Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Marc Jones.

Dywedodd: “Y broblem sydd ganddon ni bod cymaint â 17 o bobl yn cysgu allan yng nghefn Tŷ Croeso bob nos ac mae’n achosi sefyllfa annioddefol i drigolion y mae eu heiddo yn ffinio efo tir y ganolfan.

“Mae yna sŵn, cymryd cyffuriau, pobl yn ymgarthu ac yn datgelu eu hunain yn anweddus bron bob nos. Mae angen ateb hirdymor yn ogystal ag ateb ar unwaith i’r broblem o gysgu allan yn Nhŷ Croeso.

“Byddai agor Tŷ Nos yn ystod y dydd yn gymorth enfawr. Ond os ydym yn mynd i gael rhai sy’n cysgu allan oddi ar y strydoedd, mae angen agwedd gydlynus arnom a gwneud mwy na dim ond siarad am y peth.”