Dyddiad
Mae dynes ddewr yn ei 50au wedi trafod sut y cafodd ei cham-drin yn rhywiol gan ei thad a’i ffrindiau ef o’r adeg yr oedd hi’n blentyn bach tan iddi adael cartref yn 16 oed.
Roedd hi’n siarad yng Nghanolfan Gymorth Trais a Cham-drin Rhywiol (CCTCRh) Gogledd Cymru, sydd wedi ei helpu i ymdopi â’r trawma dinistriol sydd wedi effeithio arni ar hyd ei hoes. Yn ôl y ddynes, sydd bellach yn 52 oed, roedd ei mam yn bresennol ac yn cynorthwyo ac yn annog y rhai a oedd yn ei cham-drin.
Roedd hi ymhlith y gwesteion yn swyddfeydd newydd y sefydliad ym Mharc Menai ym Mangor, a agorwyd yn swyddogol gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones.
Datgelodd y ddynes, nad ydym am ddatgelu ei henw, iddi deimlo mor isel cyn iddi gychwyn sesiynau cwnsela yr arferai eistedd mewn cwpwrdd gan mai dyna’r unig le y teimlai’n ddiogel.
Mae mynd i’r afael â cham-drin rhywiol yn un o bum prif flaenoriaeth Cynllun Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru y Comisiynydd.
Beirniadodd Mr Jones Lywodraeth y DU am fethu â darparu canolfannau fel CCTCRh Gogledd Cymru.
Dywedodd: “Er fy mod yn falch bod Ymchwiliad Annibynnol parhaus i mewn i Gam-drin Rhywiol ymhlith Plant, credaf i Lywodraeth San Steffan fod yn hynod o annoeth yn gwrthod ariannu canolfannau cefnogaeth fel hon er mwyn cefnogi’r bobl ddewr a gyfrannodd dystiolaeth i’r ymchwiliad. Mae’r angen am gefnogaeth o’r fath yn fwy nag erioed o’r blaen.”
Mae’r galw am wasanaethau’r ganolfan wedi cynyddu yn aruthrol dros y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig yn dilyn yr hyn a ddatgelwyd am Jimmy Savile ac, yn fwy diweddar, gan academïau pêl-droed, sydd wedi helpu i annog nifer cynyddol o oroeswyr i ddod ymlaen ac i ofyn am gymorth.
Dengys ystadegau bod gan Ogledd Cymru un o’r niferoedd uchaf o achosion o drais wedi eu cofnodi yn y DU dros y ddwy flynedd diwethaf – gyda chynnydd enfawr mewn cyhuddiadau hanesyddol, a chynnydd cyffredinol o 38%.
Ymhlith y rhai sydd wedi derbyn cymorth gan CCTCRh Gogledd Cymru y mae’r ddynes a ddatgelodd y gamdriniaeth ofnadwy y dioddefodd tan iddi adael cartref yn 16 oed.
Tan hynny, bu’n dioddef camdriniaeth erchyll gan yr union bobl a ddylai fod wedi ei hamddiffyn hi.
Dywedodd: “Roedd fy nhad yn fy ngham-drin ac roedd fy mam yn rhan o’r hyn oedd yn digwydd. Ni allaf gofio amser pan nad oedd hyn yn digwydd.
Roedd pobl eraill yn rhan o hyn hefyd. Roedd yn wirioneddol frawychus a phoenus i blentyn, ond rwy’n credu bod y boen emosiynol a’r bradychu ymddiriedaeth yn fwy niweidiol. Roeddwn i angen cymorth proffesiynol, ac mi wnes i fynd i’r Ganolfan Gymorth Trais a Cham-drin Rhywiol yng Ngogledd Cymru.
Cefais sesiynau cwnsela oedd yn golygu y gallwn ddweud wrth rywun yn union beth ddigwyddodd am y tro cyntaf. Roedd fel petai cyfrinach enfawr ar fy ysgwyddau'r holl amser.
Roedd yn golygu cymaint i mi i gael rhywun yn dweud wrtha i eu bod yn fy nghredu, ac nad fy mai i oedd e. Cafodd effaith emosiynol mawr arnaf, ac mi wnes i grio lawer yn ystod y cyfnod hwnnw. Mi wnaeth gymryd llawer o waith caled ac ymroddiad, ond mi wnes i ddechrau ailadeiladu fy mywyd.
Rwyf wedi mynd o fod yn rhywun oedd ar fudd-daliadau ac yn teimlo mor isel nad oeddwn i’n gwneud unrhyw beth, i fod yn rhywun sy’n gweithio.
Mae gen i rwydwaith eang o ffrindiau. Mae gen i fywyd hyfryd. Rwy’n mynd ar fy ngwyliau. Popeth yr oeddwn i’n meddwl y byddai’n amhosib i mi eu gwneud oherwydd yr hyn wnaeth pobl eraill i mi.
Mae yna effeithiau hir dymor yn dilyn yr hyn wnes i ei brofi; nid oes gen i blant fy hun. Nid wyf erioed wedi priodi, ond rwy’n ceisio canolbwyntio ar yr hyn sydd gen i yn hytrach na’r hyn rwyf wedi ei golli.”
Mae’n ganlyniad i’r hyn ddigwyddodd i mi, ond o gymharu ag eistedd mewn cwpwrdd yn teimlo’n ddiflas am bopeth, mae gen i fywyd bellach, yn wahanol i sut oeddwn i cyn dod i CCTCRh Gogledd Cymru.”
Mae’r ganolfan yn darparu gwasanaeth ar draws y chwe sir yng ngogledd Cymru, a chyfeiriwyd 600 o bobl atynt am gefnogaeth y llynedd.
Yn ôl y gyfarwyddwraig, Jane Ruthe, nid yw byth yn rhy hwyr i ddod ymlaen a gofyn am gymorth.
Dywedodd: “Mae’r nifer o bobl sy’n dod ymlaen wedi cynyddu ac mae’r ffaith bod gennym restr aros o bobl sy’n aros i gael cwnsela yn dangos bod angen hyd yn oed mwy o’r gwasanaeth hwn.
Rydyn ni’n helpu dynion, merched, unrhyw un o unrhyw rywedd. Rydyn ni’n gweithio gyda phobl sydd wedi cael eu treisio yn ddiweddar. Rydyn ni’n gweithio gyda phobl sydd wedi profi camdriniaeth yn ystod eu plentyndod, ac efallai nad ydynt wedi dweud wrth unrhyw un am flynyddoedd.
Rydyn ni’n gweithio gyda phobl pryd bynnag y cawsant eu cam-drin yn rhywiol, p’un ai yw’n rhywbeth a ddigwyddodd yn ddiweddar neu amser hir yn ôl, p’un ai ydyn nhw erioed wedi dweud wrth neb, neu os ydyn nhw’n mynd drwy achos llys. Mae hefyd gennym wasanaeth i blant.
Rwy’n cofio siarad â dynes yn ei 80au a ddywedodd iddi gael ei threisio pan oedd hi yn ei harddegau hwyr.
Doedd hi erioed wedi dweud wrth neb, ddim hyd yn oed ei gŵr. Roedd hi wedi priodi a chael teulu a dywedodd ei fod wedi effeithio ar bob agwedd o’i bywyd, ac ni allai erioed ddweud wrth neb pam.
Doedd hi erioed wedi medru rhoi cwtsh i’w phlant. Ni wnaeth hi ffonio eto ac ni ddaeth hi mewn erioed, ond dywedodd nad oedd arni eisiau marw heb ddweud wrth neb.”
Yn ystod ei araith, diolchodd Mr Jones i CCTCRh Gogledd Cymru am eu gwaith caled. Dywedodd: “Mae’r blaenoriaethau yn fy Nghynllun Heddlu a Throsedd wedi cael eu datblygu mewn ymateb i’r prif fygythiadau, risgiau a niwed sy’n wynebu cymunedau yng Ngogledd Cymru.
Mae’r nifer o achosion o dreisio ac ymosodiadau rhywiol difrifol eraill a gaiff eu hadrodd i’r heddlu yn uchel. Gan amlaf, caiff ymosodiadau o’r fath eu cyflawni gan bartneriaid neu bobl y mae’r dioddefwyr yn eu hadnabod.
Fodd bynnag, mae dioddefwyr yn parhau i fod yn gyndyn o adrodd am yr achosion, ac mae angen gwneud mwy i’w hannog i ddod ymlaen, waeth pryd cyflawnwyd y drosedd.”