Skip to main content

Ffatrioedd fflach i adeiladu cartrefi di-garbon, creu swyddi a newid bywydau

Dyddiad

Dyddiad
61119  Modular -1

Mae menter gymdeithasol wedi datgelu cynlluniau ar gyfer cyfres o ffatrïoedd fflach (‘pop-up’) ledled gogledd Cymru i wneud cartrefi modiwlaidd di-garbon a fydd yn darparu swyddi i bobl ddi-waith.

Cafodd y syniad ei ganmol gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones, a ymwelodd â datblygiad cyntaf Creu Menter, sef pedwar byngalo un ystafell wely i bobl hŷn yng Nghaergybi.

Comisiynwyd y byngalos ger ystâd Morawelon gan Gyngor Sir Ynys Môn a fu'n cydweithio yn agos ar y dyluniad gyda Creu Menter, is-gwmni i gymdeithas dai Cartrefi Conwy.

Gwnaed y paneli ar gyfer y byngalos mewn ffatri lai na hanner milltir i ffwrdd a chlywodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd hefyd bod gan y sefydliad arloesol archebion eisoes ar gyfer dros 100 o'r cartrefi chwyldroadol hyn ar draws y rhanbarth.

Mae'r adeiladau'n defnyddio deunydd inswleiddio perfformiad uchel i wneud y cartrefi yn hollol rydd o ddrafft, gan leihau colli gwres i greu cartref nad yw'n cael fawr ddim effaith ar yr amgylchedd.

Mae'r cysyniad yn hyblyg sy'n golygu y gellir defnyddio'r system hefyd i adeiladu cartrefi deulawr gyda thair, pedair neu fwy o ystafelloedd gwely.

Credir mai'r fenter yw'r gyntaf o'i bath gan fenter gymdeithasol yng Nghymru. Fe’i sefydlwyd mewn partneriaeth â Beattie Passive o Norfolk, un o brif wneuthurwyr cartrefi datblygedig passivhaus, adeiladau ecogyfeillgar a all arbed hyd at 90 y cant costau ynni blynyddol i breswylwyr.

Yn ôl Creu Menter, maen nhw'n bwriadu agor ffatrïoedd fflach newydd lle bynnag mae ganddyn nhw ddatblygiad, gyda'r syniad o ddarparu cyfleoedd swyddi a hyfforddiant i bobl ddi-waith yn yr ardaloedd hynny.

Dywedodd Mr Jones: “Rwy’n credu ei fod yn syniad rhagorol. Yn ogystal â darparu tai sydd eu dirfawr angen, maen nhw hefyd yn creu gwaith i bobl ddi-waith ac yn mynd i'r afael â thlodi tanwydd ac yn brwydro yn erbyn digartrefedd.

Mae popeth am y cartrefi hyn yn gynaliadwy ac yn darparu gwerth cymdeithasol gwych yn ogystal â rhoi hwb i’r economi leol.

Mae'n fuddugoliaeth i bawb a hefyd maen nhw'n ymateb effeithlon ac effeithiol i ddigartrefedd oherwydd gellir adeiladu uned fechan mewn byr o dro a’i symud i wahanol ardaloedd.

Rwy’n gobeithio y bydd pob awdurdod lleol yng ngogledd Cymru yn manteisio ar y dull effeithlon ac effeithiol hwn o adeiladu cartrefi.”

Dywedodd Sharon Jones, y Cyfarwyddwr Busnes a Phartneriaeth yn Creu Menter: “Mae'r cysyniad cyfan yn dod yn fyw.

Mae pethau’n siapio yma ac rwyf wrth fy modd gyda’r ffordd y mae pethau’n dod yn eu blaenau.

Rydym wedi siarad am hyn ers cymaint o amser ac erbyn hyn mae gweld pobl yn mynd ar y safle a chael tenantiaid a phobl ddi-waith i gymryd rhan, ac uwchsgilio pobl wedi bod yn wych.

Yr hyn rydym wedi’i ymgorffori yn ein holl raglenni ar gyfer y fan hyn yw y bydd gennym bedair swydd ar gael o fis Ionawr ar gyfer pobl ddi-waith a byddwn yn eu cyflogi ar gontract 12 mis.

Byddwn yn eu huwchsgilio ac yn darparu cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant iddyn nhw ac yna byddwn yn eu cefnogi i symud i swydd barhaol ar y diwedd.

Yna byddwn yn gallu creu’r cyfleoedd eto ar gyfer mwy o bobl ddi-waith wrth adeiladu tai o ansawdd uchel. Mae'n gylch rhinweddol a dweud y gwir.”

Dywedodd Adrian Johnson, Rheolwr Gyfarwyddwr Gwasanaethau Masnachol Cartrefi Conwy: “Y cartrefi hyn yn Ynys Môn fydd y cyntaf o lawer. Mae gennym archebion eisoes am fwy na 100 ar ein llyfrau o wahanol rannau o’r Gogledd.

 Rydym wedi bod yn ffodus iawn bod awdurdodau lleol a chymdeithasau tai eisoes yn hynod gefnogol i'r cysyniad hwn.

Rydyn ni'n creu cartrefi di-garbon, yn defnyddio llafur lleol ac yn darparu gwaith i bobl sydd bellaf o'r farchnad gyflogaeth ac yn eu huwchsgilio.

Byddwn yn adeiladu amrywiaeth o eiddo, popeth o fyngalos i lety digartrefedd sydd yn pod un ystafell wely fel llety o'r enw Haus4One, a hefyd tai dwy, tair a phedair ystafell wely. Dyna sydd mor dda am y cysyniad hwn; mae mor hyblyg.

Mae gennym ganolfan yng Nghaergybi y byddwn ni'n parhau i’w defnyddio ond os ydym bellach yn mynd i fod yn adeiladu ledled y Gogledd, byddwn yn adeiladu mewn gwahanol siroedd.

Y weledigaeth wrth symud ymlaen yw cael ffatrïoedd fflach lle bynnag y mae'r datblygiad fel y gallwn eu hadeiladu'n lleol, gan weithio gyda llafur lleol o dan arweiniad ac arweinyddiaeth ein gweithwyr hyfforddedig.”

Dywedodd Gwynne Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr Cartrefi Conwy: “Yr hyn sy’n wych am beth y mae Creu Menter yn bwriadu ei wneud gyda’r Academi Gyflogaeth yw y bydd unrhyw elw ariannol yn cael ei fwydo yn ôl i’r academi.

Mae hynny yn ei dro yn dod â thenantiaid di-waith a di-grefft yn ôl i'r gweithle ac yn rhoi cyfleoedd gwaith iddyn nhw.

Nid adeiladu tai yn unig ydyn ni; rydyn ni'n newid bywydau pobl.”