Dyddiad
Mae gorsaf heddlu newydd eco-gyfeillgar yn y ras i gipio hat-tric o wobrau.
Mae Cyfleuster Rhanbarthol a Dalfa newydd Dwyrain Gogledd Cymru sy’n cael ei adeiladu yn Llai wedi cyrraedd y rhestr fer mewn tri chategori yng Ngwobrau Adeiladu Rhagoriaeth Cymru.
Un o'r tri enwebiad yw yng nghategori Gwobr Adeilad Oddi ar Safle yn sgȋl y dull arloesol a fabwysiadwyd gan y contractwyr Galliford Try a'u partneriaid adeiladu, PCE Ltd.
Lluniwyd system adeilad parod cymysg gyda ffrâm goncrid cyn-castio yn cael ei wneud oddi ar y safle ac o ganlyniad llwyddwyd i sicrhau £1.5 miliwn o arbedion effeithlonrwydd.
Un fantais o weithgynhyrchu'r adeiledd oddi ar y safle oedd eu bod yn gallu lleihau'r rhaglen adeiladu o 10 wythnos.
Roedd hynny’n golygu bod nifer y gweithwyr ar y safle yn sylweddol is na phe bai ffrâm traddodiadol wedi cael ei chodi yn y fan a'r lle, ac roedd hyn hefyd yn lleihau'r risg o ran iechyd a diogelwch.
Roedd dyluniad cynnar manwl yn galluogi integreiddio’r gwasanaethau adeiladu, fframiau drysau, gwaith plymio, gosodiadau a ffitiadau i'r unedau cyn-castio.
Ar ben hyn, mae Heddlu Gogledd Cymru hefyd wedi cyrraedd y rhestr fer yng Nghategori Cleient y Flwyddyn tra bod yr is-gontractiwr Ecological Land Management Ltd (ELM), sydd wedi'i leoli yn Llai, wedi cael ei enwebu yn y categori ar gyfer Mentrau Bach a Chanolig.
Bydd y seremoni wobrwyo yn cael ei chynnal yn y Celtic Manor yng Nghasnewydd ar Orffennaf y 6ed.
Llofnodwyd y contract gwerth £17.5 miliwn i adeiladu'r cyfleuster newydd ar safle hen warws Sharp yn Llai gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones, sy'n gyfrifol am holl adeiladau’r heddlu ar draws yr ardal.
Mae gan yr adeilad 8,680 metr sgwâr, swyddfeydd a chyfleusterau arbennig ar gyfer 248 o swyddogion a staff yr heddlu.
Mae yno 32 o gelloedd, cyfleusterau ffreutur, a dwy gampfa, un ohonynt ar gyfer cynnal profion ffitrwydd blȋp ar gyfer swyddogion heddlu, yn ogystal ag ystafelloedd cwpwrdd a garejys.
Mae gan yr adeilad aráe baneli solar 80 cilowat ar y to, pibelli i gynaeafu dŵr glaw ar gyfer golchi 85 o gerbydau heddlu bob wythnos, goleuadau clyfar i gadw ynni a siafftiau golau haul er mwyn sicrhau bod y rhai sydd yn y celloedd mewnol yn cael golau naturiol.
Mae Galliford Try ar fin trosglwyddo'r adeilad i'r heddlu yr haf hwn a disgwylir i’r orsaf fod yn weithredol yn yr hydref. Cost cyffredinol y prosiect yw £21.5M sy'n cynnwys prynu'r safle, gwaith cyn-adeiladu a chostau adeiladu yn ogystal â ffitio’r gosodiadau a gosod systemau TG.
Yn y cyfamser, bydd hen orsaf yr heddlu yn Wrecsam yn cael ei dymchwel a gorsaf canol tref newydd gyda desg flaen gyhoeddus yn cael ei hagor yn yr hen Oriel.
Dywedodd Mr Jones, sy’n gyn arolygydd heddlu: "Mae Pencadlys newydd Rhanbarth Gogledd Ddwyrain Cymru yn gyfleuster gwych ac rwyf wrth fy modd yn clywed bod y prosiect wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer tair gwobr nodedig.
Mae gallu cartrefu'r staff ar gyfer Wrecsam a Sir y Fflint mewn un lleoliad pwrpasol yn ardderchog.
Mae wedi cael ei adeiladu ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain a bydd yn darparu amgylchedd gweithio rhagorol i'n staff - llawer gwell na’r tŵr yng nghanol y dref lle treuliais lawer o flynyddoedd.
Ers cau'r celloedd yng ngorsaf heddlu’r Wyddgrug, bu’n rhaid i garcharorion o Sir y Fflint gael eu cludo i Lanelwy a bydd hyn yn darparu lleoliad llawer mwy hygyrch ac addas.
Bydd yn galluogi staff ar draws Wrecsam a Sir y Fflint, i weithio mewn ffordd mwy integredig mewn swyddfeydd cynllun agored yn bennaf.
Mae'r prosiect yn cael ei arwain gan Liz Bryan, Rheolwr Prosiect Ystadau gyda Heddlu Gogledd Cymru, ar y cyd â Stephen Roberts, pennaeth cyfleusterau a'r fflyd.
Mae'r ddau ohonynt yn haeddu canmoliaeth uchel am y ffordd y mae'r prosiect wedi cael ei reoli a’r modd y cafodd yr ymagwedd arloesol yma ei hwyluso mor llwyddiannus.
Pan fydd yn weithredol, bydd y cyfleuster hwn ymysg y mwyaf modern o'i fath yn y Deyrnas Unedig ac yn gosod safon newydd.
Roedd cyfarwyddwr datblygu busnes PCE, Simon Harold, yn hynod falch bod y prosiect wedi cyrraedd y rhestr fer mewn tri chategori.
Meddai: "Drwy ein hymgysylltiad cynnar efo Galliford Try a'u cleient, roedd PCE yn gallu datblygu ateb adeileddol cymysg ac amgen ar gyfer prosiect Wrecsam. Roedd hyn yn cynnig nodweddion perfformiad uwch gan wella’r rhaglen yn sylweddol gan ddarparu sicrwydd ansawdd a chyflenwi o'i gymharu â dulliau adeiladu traddodiadol."
Ategwyd y teimlad gan Reolwyr Gweithrediadau Gallifford Try, Ian Marsh, a ddywedodd: "Mae'r prosiect hwn yn enghraifft wych o sut y dylid cyflenwi prosiectau.
Mae hyn wedi arwain at ysbryd uchel ymysg y tîm cyfan ac ymagwedd gadarnhaol o fewn y gweithlu tuag at welliannau diogelwch ymddygiadol."