Skip to main content

Gwarchodwyr y ddalfa

Dyddiad

Dyddiad
John Edward and Inspector

Lansiwyd ymdrech yng ngogledd Cymru er mwyn dod o hyd i wirfoddolwyr i weithredu fel gwarchodwyr y ddalfa er mwyn plismona’r plismyn.

Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones, yn chwilio am hyd at chwech o ymwelwyr annibynnol â’r ddalfa i’w helpu.

Mae Mr Jones yn dymuno penodi gwirfoddolwyr i ymuno â’r tîm presennol sy’n gyfrifol am ymweld â chyfleusterau’r ddalfa yn Wrecsam, Llanelwy a Chaernarfon.

Eu gwaith fydd diogelu lles pobl a gedwir dan glo gan yr heddlu a sicrhau bod eu hawliau yn cael eu parchu.

Disgwylir i ymgeiswyr llwyddiannus gynnal o leiaf 10 ymweliad dirybudd y flwyddyn ynghyd â mynychu cyrsiau hyfforddi, cyfarfodydd a chynadleddau.

Dywedodd Mr Jones: “Mae gennym gyfrifoldeb i sicrhau bod yr heddlu yn gwneud pethau’n gywir ac yn cadw at Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol. Mae’n hollbwysig felly bod gennym ffordd o fonitro’r hyn sy’n digwydd yn ardal dalfa’r heddlu.

“Rydym yn chwilio am bobl efo sgiliau cyfathrebu da a all ddangos bod ganddynt annibyniaeth barn a safbwynt diduedd, tra’n cadw cyfrinachedd ar yr un pryd.

“Mae hon yn rôl bwysig a diddorol iawn, a gobeithio y byddwn yn denu llawer o ddiddordeb gan ymgeiswyr addas o bob math o gefndiroedd. Rwy’n arbennig o awyddus i ddenu siaradwyr Cymraeg, pobl iau ac aelodau o gymunedau lleiafrifoedd ethnig a du.”

Mae ymweliad â’r ddalfa, a oedd yn cael ei adnabod yn y gorffennol fel ‘ymweliad lleyg’, yn deillio o adroddiad yr Arglwydd Scarman ar anhrefn Brixton yn 1981, a’r argymhelliad y dylid sefydlu system archwilio annibynnol gan aelodau o’r gymuned leol o weithdrefnau a threfn cadw mewn gorsafoedd heddlu.

Ni ddaeth yn statudol tan 1984 pan roddwyd cyfrifoldeb ar awdurdodau’r heddlu i lunio cynllun ar gyfer ymweliadau annibynnol â’r ddalfa.

Mae’r holl waith a wneir yn wirfoddol, a chaiff costau teithio eu had-dalu gan Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd.

Dywedodd y Swyddog Gweithredol, Meinir Jones, sy’n gyfrifol am oruchwylio’r cynllun ymweld o fewn swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd: “Mae hon yn un o ddyletswyddau statudol y Comisiynydd ac rydym yn awyddus i recriwtio pobl dros 18 oed sydd naill ai’n byw neu’n gweithio yn ardal Heddlu Gogledd Cymru.

“Dylent hefyd fod yn annibynnol o’r gyfundrefn cyfiawnder troseddol gan nad yw ymwelwyr yn cael gweithio i’r heddlu neu’r gwasanaeth prawf na gwasanaethu fel ynadon.

“Y bwriad cyffredinol yw sicrhau bod pobl a gedwir yn y ddalfa yn cael eu cadw’n ddiogel ac yn briodol a bod eu hawliau a’u lles yn cael eu parchu.

“Mae ymwelwyr yn rhydd i drefnu eu hamser ymweld eu hunain a gall hynny fod ar unrhyw adeg o’r bore cynnar i hwyr yn y nos, ar unrhyw ddiwrnod o’r wythnos.

Dywedodd John Dolan, Cadeirydd Panel Ymwelwyr â’r Ddalfa Gogledd Cymru: “Gan weithredu mewn parau, rydym yn ymweld ag ardal dalfa yn ddirybudd ac mae’n rhaid i ni gael mynediad ar unwaith.

“Gyda rhingyll neu swyddog cadw sifil gyda ni, rydym yn siarad efo pobl sy’n cael eu cadw ac yn gwirio cyflwr y celloedd er mwyn sicrhau eu bod yn lân a bod popeth yn gweithio.

“Pan fydd pobl agored i niwed yn cael eu cadw yn y ddalfa, rhaid i ni sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu diwallu yn ogystal â rhai eraill sy’n cael eu cadw.

“Ni chaniateir i ni wybod enwau pobl sy’n cael eu cadw na’r rheswm dros eu cadw, sy’n ein galluogi i fod yn gwbl wrthrychol.

“Rydym yn cynhyrchu adroddiad ysgrifenedig ar ddiwedd pob ymweliad sydd wedi ei lofnodi gan ringyll y ddalfa ac mae unrhyw gamau sydd angen eu cymryd i gywiro unrhyw beth sydd o’i le naill ai’n cael eu rhoi ar waith yn syth neu’n cael eu codi yn y cyfarfodydd chwarterol a gynhelir rhwng ymwelwyr, y Comisiynydd Heddlu a Throsedd ac uwch swyddogion yr heddlu.

“Mae naw deg chwech y cant o’r bobl sydd yn y ddalfa yn dymuno siarad efo ni ac rydym yn canfod eu bod yn cyfathrebu’n rhydd efo ni. Maen nhw hefyd yn gwerthfawrogi’r cyfle i siarad efo person annibynnol am eu sefyllfa yn y ddalfa a’u lles. “

Ychwanegodd: “Rwyf wedi bod yn Ymwelydd â’r Ddalfa bellach ers dros pedair blynedd ac mae’n rôl sy’n rhoi boddhad mawr i mi. Mae’n rhoi ymdeimlad o bwrpas i chi ac nid mater o roi tic yn y blwch ydyw.

“Mae’n bwysig bod yn gyfathrebwr da er mwyn i chi feithrin perthynas efo pobl sydd dan glo a hefyd perthynas broffesiynol gyda’r heddlu.

“Gall ein hymweliadau fod yn fuddiol iawn ac rwy’n credu bod y sawl sy’n cael eu cadw yn y ddalfa yn teimlo’n fwy hyderus bod eu lles o’r pwysigrwydd mwyaf.

“Mae staff y ddalfa yn croesawu’r ffaith bod haen ychwanegol o wiriadau yn cadarnhau eu bod yn cyflawni eu swyddogaeth yn gywir ac yn briodol.

“Gall y cynllun ond ychwanegu gwerth at y gwasanaeth plismona drwyddi draw.”

Ni chaniateir i ynadon a chyn-swyddogion heddlu neu gyn-heddlu gwirfoddol ddod yn ymwelwyr â’r ddalfa. Er mwyn osgoi gwrthdaro buddiannau posibl, efallai y bydd eraill yn cael eu heithrio os ydynt wedi ymwneud yn uniongyrchol â’r gyfundrefn cyfiawnder troseddol, megis cyfreithwyr neu swyddogion prawf.

Dylai unigolion cymwys sydd â diddordeb mewn gwneud cais i fod yn Ymwelydd â’r Ddalfa yng ngogledd Cymru gysylltu â Meinir Jones yn swyddfa’r Comisiynydd, naill ai trwy ffonio 01492 805486 neu drwy anfon e-bost at: opcc@nthwales.pnn.police.uk