Dyddiad
Mae chwaraewr-reolwr i dîm pêl-droed sy’n cynnwys chwaraewyr o sawl gwlad yn cefnogi ymgyrch yn erbyn gwahaniaethu yn Uwch Gynghrair Gogledd Ddwyrain Cymru.
Yn ôl Delwyn Derrick, o Glwb Pêl-droed Bellevue yn Wrecsam, bydd yr ymgyrch yn cael ei lansio ar ddechrau tymor 2018-19 a bydd nifer o weithdai i reolwyr a chwaraewyr.
Byddaf yn cynnal un o’r gweithdai fy hun ac mae CMGW – Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam – wedi addo anfon siaradwr hefyd,” meddai Delwyn, 30 oed, sy’n byw yn Y Bers.
Roedd Delwyn yn un sylfaenwyr tîm pêl-droed ym Mharc Bellevue yng nghanol Wrecsam sydd â charfan llawn o ffoaduriaid ac ymfudwyr o wledydd gwahanol, gan wneud i’r rhestr chwaraewyr edrych fel cynghrair y cenhedloedd.
Ac oherwydd ei ymdrechion dros y 18 mis diwethaf, mae wedi derbyn Gwobr Cydraddoldeb ac Amrywiaeth mewn seremoni arbennig a gynhaliwyd gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Arfon Jones yng Ngwesty’r Celt yng Nghaernarfon.
Mae pawb sy’n gysylltiedig â thîm Bellevue yn falch iawn o dderbyn y wobr yma,” meddai Delwyn. “I mi’n bersonol, mae’n gydnabyddiaeth enfawr.”
Dywed yr enwebiad bod y wobr yn cael ei rhoi i rywun sydd wedi ymgysylltu â’r gymuned er mwyn lleihau tensiynau ac ofn troseddu.
Dywedodd Arfon Jones: “Mae Delwyn wedi rhoi’r cyfle i bobl o genhedloedd gwahanol ddod at ei gilydd a chwarae pêl-droed.
Cynhaliwyd seremoni wobrwyo’r clwb yn ddiweddar yn Saith Seren yn Wrecsam lle gwelwyd y berthynas agos a’r cyfeillgarwch sy’n bodoli ymysg y tîm ac mae Delwyn wedi gwneud llawer i symud y rhwystrau rhwng y cenhedloedd gwahanol yn Wrecsam.
Mae’n esiampl wych o ddelio efo mater o’r gwaelod i fyny yn hytrach nag o’r top i lawr fel sy’n arfer digwydd.”
Cafodd tîm rhyng-genedlaethol Bellevue ei ffurfio yn 2017 pan welodd Delwyn, a’i gyd-chwaraewyr cynghrair Sul - James Wright, Jon Davies a Damian Walker - fyfyrwyr o Ffrainc a’r Almaen oedd yn byw yn yr ardal tra roeddent yn y brifysgol neu’r coleg yn dod draw i am gêm o bêl-droed gyda’u ffrindiau.
Mi wnaethon ni feddwl y byddai’n syniad da dechrau tîm i bobl o bob cenedl,” meddai Delwyn. “Roeddem yn gwybod bod tîm i bobl o Bortiwgal a thîm o Gwrdiaid hefyd, ond doedd dim byd i bobl o bob gwlad.
Felly mi ddechreuon ni feddwl am sut i fynd ati i ffurfio un ac roedd yr ymateb gan chwaraewyr yn gadarnhaol iawn. Mae’n anodd credu nad oedd neb wedi meddwl am wneud hyn o’r blaen.”
Mae’r garfan o 30 sy’n chwarae i Bellevue yn cynnwys chwaraewyr o 14 i 40 oed o bob cwr o’r byd, gan gynnwys Gwlad Pwyl, Romania, Albania, Portiwgal, Syria, Eritrea, Swdan, Libya, Irac, Yr Almaen, Angola, Lloegr ac, wrth gwrs, Cymru.
Gyda chymorth Sport Cymru, bu’r tîm yn chwarae yng Nghynghrair Gogledd Ddwyrain Cymru y tymor diwethaf ac mewn 26 gêm dim ond un achos o hiliaeth a gafwyd.
Roedd chwaraewr un o’n gwrthwynebwyr wedi defnyddio term hiliol yn erbyn un o’n chwaraewyr ni,” meddai Delwyn. “Ond mi wnaeth y gynghrair ei hun a’r clwb roeddem yn chwarae yn ei erbyn weithredu’n gyflym yn erbyn y chwaraewr dan sylw.
Rwy’n gwybod bod pethau’n digwydd y tu allan i’r clwb ac mae’n fy ngwneud i’n drist ac yn flin. Dywedodd un o’n chwaraewyr du fod hiliaeth yn bodoli mewn sawl ffurf, ond nad yw’n effeithio arno ef mwyach oherwydd ei fod wedi arfer gyda hiliaeth. Ond nid fel yna y dylai pethau fod yn ein hoes ni.”
Dywedodd Delwyn fod Bellevue yn mynd trwy gyfnod o newid. “Mae chwaraewyr wedi mynd a dod. Mae rhai ohonynt yn credu bod Cynghrair Gogledd Ddwyrain Cymru yn rhy gystadleuol.
Mae Damien yn dal i chwarae i ni, ond mae James a Jon wedi rhoi’r gorau iddi oherwydd gwaith ac ymrwymiadau arall.”
Y tymor diwethaf un pwynt a enillodd tȋm Bellevue a hynny mewn gêm gyfartal 2-2 yn erbyn Acton: “Roedd yn rhaid iddyn nhw ddibynnu ar gôl yn y 90ain munud i gael gêm gyfartal,” meddai Delwyn. “Ac roedden nhw’n ail yn y gynghrair ar y pryd!
“Mae’n rhaid i chi wneud y mwyaf o fuddugoliaethau bach pan rydych chi’n rheoli clwb fel ein un ni. Mae Cwpan y Byd yn dangos y gall y timau bach guro unrhyw un ar y diwrnod.
Mi wnaethon ni gipio Cwpan Cymunedol Wrecsam trwy guro tîm Wrexham Inclusion. Roedd yn 2-2 ar ôl 90 munud ac mi wnaethon ni ennill ar ôl ciciau o’r smotyn. Rhoddais ein hamddiffynnwr yn y gôl ac mi arbedodd o bedair allan o bump cic o’r smotyn!
Rydym yn edrych ymlaen at y tymor sy’n dod. Fel arfer mae chwaraewyr ar ein lefel ni yn cymryd mis i ffwrdd, ond dim ond wythnos o seibiant wnaeth ein carfan ni ei chymryd ac rydym bellach yn ôl yn hyfforddi bob nos Fawrth a nos Wener. Rydym yn methu aros tan ddechrau’r tymor.”
Bydd Bellevue yn gweithio gyda Chomisinydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Arfon Jones unwaith eto i dynnu sylw at Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb ym mis Hydref, ond eleni mae amryw o dimau eraill yng Nghynghrair Gogledd Ddwyrain Cymru eisiau cymryd rhan.
Mae Cooperative Gogledd Cymru yn ein cefnogi unwaith eto ac yn mynd i gyfrannu tîm, ond bydd rhaid i ni newid y fformat oherwydd bod cymaint o ddiddordeb,” dywedodd Delwyn.
Mae’n cyfaddef ei fod yn awyddus i ddysgu sut mae ei chwaraewyr Mwslimaidd yn cael eu heffeithio gan ympryd 30-diwrnod Ramadan felly mae ef a rhai o’i gydweithwyr wedi gwirfoddoli i ddilyn arfer yr ŵyl grefyddol.
Rwyf eisiau gwybod sut mae fy chwaraewyr yn cael eu heffeithio gan ympryd hir, a pha effaith mae hynny’n ei gael ar eu cyrff,” meddai Delwyn.
Rwyf i a dau neu dri o aelodau eraill carfan Bellevue wedi gwirfoddoli i ymuno ag ympryd Ramadan y flwyddyn nesaf fel ein bod ni’n medru dysgu pa effaith y mae’n ei gael ar ein cyd-chwaraewyr. Bydd yn ddiddorol iawn.”