Skip to main content

Heddwas yn annog dioddefwyr trais yn y cartref i ddod ymlaen

Dyddiad

Dyddiad
White ribbon PCC and Group

Mae heddwas wedi cysegru ei fywyd i helpu dioddefwyr trais yn y cartref ar ôl i’w fam gael ei thrywanu gan ei gŵr.

Bu’r heddwas Mike Taggart, 36 oed, yn siarad am y profiad trawmatig gafodd ef a’i chwaer, Becci, pan oeddent yn eu harddegau a sut y gwnaeth hynny ei ysgogi i ymuno â Heddlu Gogledd Cymru, lle mae bellach yn gweithio fel Swyddog Strategol Trais yn y Cartref.

Roedd yn un o’r gwestai mewn digwyddiad yng Nghanolfan Merched Gogledd Cymru yn Y Rhyl i hyrwyddo’r ymgyrch Rhuban Gwyn, sef symudiad byd-eang o ddynion a bechgyn sy’n gweithio i roi diwedd ar drais yn erbyn merched a menywod.

Mae hwn yn achos mae Mike yn ei gefnogi’n angerddol ac mae hefyd yn llysgennad swyddogol ar gyfer yr ymgyrch.

Cafodd ei fam Donna Marie Crist, ei llofruddio yn ei fflat yn Y Rhyl yn 1997 gan ei gŵr, Derek Evans, ar ôl blynyddoedd o gael ei chamdrin yn ddrwg ganddo dan ddylanwad alcohol.

Dywedodd ei bod yn hollbwysig nad yw dioddefwyr yn dioddef mewn tawelwch.

Anogwyd hwynt i gysylltu â’r heddlu neu asiantaethau eraill fel Canolfan Merched Gogledd Cymru neu Ganolfan Cymorth Dioddefwyr Gogledd Cymru.

Yn ôl Mike, roedd ei fam yn gweithio 70 awr yr wythnos gyda phobl oedd ag anableddau dysgu ond nid oedd ei gŵr yn hoffi ei hannibyniaeth newydd ac un noson ar ôl iddi fynd allan am ddiod gyda’i ffrindiau ymosododd arni yn y stryd.

Mi wnaeth hi ei adael ond aeth yn ôl ato yn ddiweddarach a pharhaodd y cylch o gamdriniaeth tan iddo redeg ar ei hôl o gwmpas yr ystafell a’i phinio i gadair tan i Mike, oedd yn bymtheg oed ar y pryd, ei dynnu i ffwrdd.

Mi wnaeth ei adael ar ôl hynny a symud i’w fflat ei hun ond doedd dim dianc.

Dywedodd Mike: “Aeth draw i’w fflat a’i thrywanu 11 o weithiau, un am bob blwyddyn roedden nhw wedi bod yn briod.

Doedd dim clwyfau amddiffyn. Mae’n rhaid ei bod hi wedi marw yn syth.

Mi wnaeth o ddweud wrth y llys nad oedd o'n gallu cofio unrhyw beth ond cafwyd ef yn euog o lofruddiaeth a chafodd ei ddedfrydu i garchar am oes gydag o leiaf 11 mlynedd o dan glo.”

Yn 2009, daeth Mike wyneb yn wyneb ag Evans mewn gwrandawiad parôl.

Dywedodd: “Ysgrifennais Ddatganiad Personol Dioddefwr a oedd yn un o’r pethau anoddaf i mi orfod ei wneud erioed, ac yn y gwrandawiad parôl mi wnes i ddod wyneb yn wyneb efo’r dyn wnaeth lladd fy mam.

Roedd o’n llygadrythu’n syth ataf. Roedd o’n ceisio fy nychryn i. Roeddwn i’n teimlo fel petawn i’n 15 oed eto. Roeddwn yn gymysgwch o emosiynau.

Ond doedd dim pwynt i mi ddweud wrth y dyn yma, roeddwn i wedi’i gasáu am gymaint o amser, sut roeddwn yn teimlo. Dydi o ddim wedi dangos yr un iot o edifeirwch am ladd fy mam.

Mae Evans wedi cael ei ryddhau bellach oherwydd roedd y digwyddiad 22 mlynedd yn ôl.

Mae’r trawma yr wyf i a fy nheulu wedi mynd drwyddo yn un o’r pethau wnaeth fy ngwthio i’r swydd hon, er mwyn i mi allu helpu pobl sy’n ddioddefwyr trais yn y cartref.

Mae’n rhywbeth sy’n ingol iawn i fi a fy nheulu, rhywbeth sy’n bwysig iawn i mi, a rhywbeth yr wyf wir eisiau ei hyrwyddo gydag unrhyw un sy’n cefnogi dioddefwyr trais yn y cartref.”

Hefyd yn y digwyddiad yr oedd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones, sydd wedi gwneud mynd i'r afael gyda thrais yn y cartref yn un o brif flaenoriaethau ei Gynllun Heddlu a Throsedd.

Dywedodd Mr Jones, sy’n gyn-arolygydd heddlu: “Mae ganddion ni gyfrifoldeb i hyfforddi ac i ddysgu eraill i barchu merched.

“Mae Mike yn haeddu llawer o glod am droi rhywbeth oedd yn drasiedi yn rhywbeth sy’n sianelu ei brofiad i rywbeth positif.

Mae’n gwneud gwaith gwych ac yn cymell llawer o newid mewn polisi a gwella ein hymateb i drais yn y cartref ar draws Heddlu Gogledd Cymru.

Er ein bod ni’n gwneud yn dda fedrwn ni ddim bod yn hunanfodlon ac mae’n rhaid i ni barhau gyda’r gwaith, ac mae Mike yn gwbl ymrwymedig i wneud popeth o fewn ei allu i wella’r sefyllfa ac i sicrhau nad yw’r hyn ddigwyddodd iddo fo yn digwydd i eraill.

Mae mwy a mwy o ddioddefwyr yn dod ymlaen erbyn hyn oherwydd bod ganddyn nhw’r hyder i wneud hynny ond mae yno lawer mwy sydd ddim yn adrodd am eu camdriniaeth wrth yr heddlu neu unrhyw asiantaeth arall a gallu derbyn cyngor a gofal.

Adleisywyd y teimlad gan Gemma Fox, rheolwr gyfarwyddwr Canolfan Merched Gogledd Cymru.

Dywedodd: “Mae’n hollbwysig bod dynion yn sefyll yn erbyn trais at ferched oherwydd mae angen newid y diwylliant.

Mae’r broblem yn un enfawr, gyda rhwng 10 ac 20 o achosion yn dod i’r amlwg bob dydd yn Sir Conwy a Sir Ddinbych.

Mae’n cael ei alw yn drosedd cudd oherwydd bod gymaint o bobl yn peidio rhoi gwybod i'r hedldu amdano, ac ar gyfartaledd mae dioddefwyr sydd â risg uchel o niwed difrifol neu lofruddiaeth yn byw gyda thrais yn y cartref am ddwy neu dair blynedd cyn cael cymorth.

Mae hyn yn ofnadwy oherwydd gall trasiedi daro ar unrhyw adeg ac mae pobl yn marw. Ar gyfartaledd mae dwy ferch yn cael eu lladd gan eu partneriaid neu eu cynbartneriaid bob wythnos yn y Deyrnas Unedig.

Y peth pwysig yw bod pobl yn cael help yn y lle cyntaf, naill ai gan yr heddlu, gennym ni, neu gan unrhyw un.”

Mae’r gwasanaeth yng Nghanolfan Cymorth Dioddefwyr Gogledd Cymru ar gael o 8yb-8yh o ddydd Llun i ddydd Gwener ac o 9yb-5yh ar ddydd Sadwrn. Gallwch gysylltu â’r ganolfan drwy ffonio 0300 30 30 159, neu e-bostio northwales.helpcentre@victimsupport.org.uk, www.victimhelpcentrenorthwales.org.uk  neu www.canolfangymorthiddioddefwyrgogleddcymru.org.uk.