Dyddiad
Mae pennaeth heddlu wedi canmol y penderfyniad i "fyrstio’r swigen" ar ôl i gyfyngiadau teithio ar gefnogwyr gael eu codi ar gyfer y gêm ddarbi bêl-droed nesaf rhwng Wrecsam a Chaer, gan ddisgrifio'r penderfyniad fel buddugoliaeth i synnwyr cyffredin.
Roedd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Arfon Jones yn falch iawn o glywed y bydd yna symud yn ôl i blismona arferol ar gyfer y gêm yn Stadiwm Deva am 7.45yh ar nos Wener, 10 Tachwedd.
Anogodd y Comisiynydd y ddau set o gefnogwyr i fod ar eu hymddygiad gorau er mwyn sicrhau nad oedd achos dros ddychwelyd i'r cyfyngiadau swigen.
Cynhaliwyd adolygiad o'r trefniadau gan na chafwyd unrhyw drafferth yn ystod dwy gêm y tymor diwethaf.
Roedd y cyfyngiadau yn golygu bod cefnogwyr yn cael eu cludo i'r hyn oedd yn cael eu hadnabod fel "gemau swigen" ar gludiant dynodedig yn unig.
Cafodd y cyfyngiadau eu cyflwyno bûm mlynedd yn ôl er mwyn atal gwrthdaro posib rhwng cefnogwyr.
Bu Mr Jones, sy’n un o gefnogwyr Wrecsam, yn ymgyrchu yn erbyn y cyfyngiadau o'r cychwyn cyntaf, gan ddweud eu bod yn cyfyngu ar hawliau sifil.
Dywedodd: "Rwyf wrth fy modd y bydd gêm Caer yn cael ei phlismona yn y dull traddodiadol y tymor hwn ac na fydd dim swigen.
Hoffwn ddiolch i'r ddau glwb a'r ddau heddlu, sef Gogledd Cymru a Swydd Gaer, am eu penderfyniad ar y cyd sy’n fuddugoliaeth i synnwyr cyffredin.
Rwyf wedi bod yn ymgyrchu am hyn cyn cael fy ethol ac ar ôl i mi ddod yn Gomisiynydd Heddlu a Throsedd ac rwy'n falch bod y cyfyngiadau wedi cael eu codi.
Mater i'r cefnogwyr yw hi rŵan i ddangos eu bod yn gallu ymddwyn yn synhwyrol. Os bydd unrhyw ffraeo yn ystod gêm Wrecsam yn erbyn Caer byddwn yn mynd yn ôl i'r swigen.
Rwyf wedi gwneud yr hyn a allaf ac mae bellach i fyny i'r cefnogwyr i ddangos eu bod yn gallu mynd i gêm bêl-droed ac ymddwyn mewn modd priodol.
Mae hwn yn gam aruthrol o bwysig ac mi fydd 95 y cant o bobl sy'n mynd i wylio, Wrecsam a Chaer wrth eu boddau nad oes rhaid iddynt ddioddef y cyfyngiadau anghymesur hyn.
Rwy'n credu bydd cefnogwyr y ddau glwb yn ymateb yn briodol ac rwy'n credu y bydd hi’n ddiwrnod da iawn ar gyfer gemau darbi.
Mae hefyd yn mynd i olygu torfeydd mwy a bydd y ddau glwb yn elwa’n ariannol o hynny yn ogystal â rhoi hwb i'r economi leol.
Mae pawb ar eu hennill ar wahân i'r elfen hwliganaidd a fydd yn cael eu plismona allan os ydynt yn ymddwyn yn amhriodol.
Bydd y cefnogwyr yn cael eu trin fel bodau dynol a dyna'r peth pwysig. Mae'n bwysig nad ydym yn targedu cefnogwyr pêl-droed arferol oherwydd ymddygiad lleiafrif bach iawn.
Rwy'n ofni mai dyna beth sydd wedi bod yn digwydd yn y gorffennol, ac rwy’n croesawu’r symudiad yn ôl i blismona cymesur o gemau pêl-droed yn fawr."