Skip to main content

Mam sy'n galaru yn cefnogi ystafell chwistrellu ar gyfer defnyddwyr cyffuriau yn Wrecsam

Dyddiad

Dyddiad
Anyone's_Child (2) big

Mae mam sydd wedi dioddef profedigaeth o golli plentyn yn ei harddegau a fu farw ar ôl cymryd ecstasi wedi cefnogi galwad pennaeth heddlu i sefydlu mannau chwistrellu diogel i ddefnyddwyr cyffuriau yng Ngogledd Cymru.

Dim ond 15 oed oedd y ferch ysgol Martha Fernbeck pan ddioddefodd ataliad ar y galon ym mis Gorffennaf 2013, ar ôl llyncu hanner gram o bowdwr MDMA 90 y cant pur ym Mharc Hinksey yn Rhydychen.

Roedd ei mam, Anne-Marie Cockburn, sydd ers hynny wedi bod yn ymgyrchydd diflino dros reoleiddio cyfreithiol cyffuriau, yn un o'r prif siaradwyr mewn cynhadledd arbennig ar ddad-droseddu cyffuriau a gynhaliwyd gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Arfon Jones nos Fercher yn y Cae Ras Wrecsam.

Mae Mr Jones yn cefnogi trin camddefnyddio cyffuriau fel mater iechyd yn hytrach na mater troseddol.

Cafodd y digwyddiad ei drefnu gan elusen Plentyn Rhywun, rhwydwaith rhyngwladol o deuluoedd sy'n dweud bod eu bywydau wedi cael eu chwalu gan gyfreithiau cyffuriau presennol ac sydd bellach yn ymgyrchu i’w newid.

Nod y digwyddiad, a ddenodd llond ystafell o 70 o bobl, oedd hybu trafodaeth am yr hyn y gallai ymagwedd newydd tuag at gyffuriau ei olygu i deuluoedd a chymunedau Wrecsam.

Yn dilyn yr areithiau cafwyd sesiwn holi ac ateb fywiog, gyda'r mwyafrif helaeth o'r gynulleidfa yn cefnogi'r syniad o reoleiddio cyffuriau.

Cafwyd cytundeb hefyd y dylai adnoddau gael eu canolbwyntio ar y nifer o bobl sy’n cael eu niweidio gan gyffuriau yn hytrach na’r nifer sy'n defnyddio cyffuriau, ac na ddylid erlyn pobl sydd ddim yn achosi unrhyw niwed i eraill.

Disgrifiodd Mr Jones, a dreuliodd 30 mlynedd fel swyddog heddlu rheng flaen, sut yr oedd dinas Genefa yn y Swistir - mewn ymgais i fynd i'r afael â'i phroblem gyffuriau - wedi cyflwyno cyfleusterau chwistrellu diogel, sy’n cael eu hadnabod fel SIFs, gan roi amgylchedd diogel a rheoledig lle gall defnyddwyr fynd i chwistrellu, ffroeni neu ysmygu cyffuriau.

Dywedodd: "Rwy'n credu mai cyfleusterau chwistrellu mwy diogel, neu Ystafelloedd Gwell Defnydd o Gyffuriau, yw'r ffordd ymlaen yma.

"Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y gellid lleddfu’r problemau a wynebir gan drigolion lleol yn Rhosddu yng nghyswllt defnyddio cyffuriau yn y dref hon, trwy gael cyfleuster o'r fath.

"Byddai’n ei gwneud yn haws i'r defnyddiwr gymryd cyffuriau a mynd â’r peth o olwg y cyhoedd a thrwy hynny gynyddu hyder a lleihau ofn. Byddai hyn hefyd yn mynd i'r afael â mater sbwriel cyffuriau, gan alluogi cael gwared ar yr holl offer cyffuriau mewn ffordd ddiogel yn y cyfleuster.

Galwodd Mr Jones hefyd am gynlluniau peilot pellach o Driniaeth Cymorth Heroin lle caiff heroin meddyginiaethol ei roi ar bresgripsiwn i ddefnyddwyr.

Mae canlyniadau cynlluniau a dreialwyd mewn tair ardal yn Lloegr yn 2009 wedi bod yn arbennig o drawiadol, meddai, gyda gostyngiad o 75 y cant yn y defnydd o heroin ar y stryd ynghyd â gostyngiad sylweddol hefyd mewn troseddau a gyflawnwyd gan ddefnyddwyr.

Dywedodd un o’r siaradwyr Anne-Marie Cockburn, o Rydychen, a oedd yn un o sefydlwyr Plentyn Rhywun: "Rwy’n cytuno â Mr Jones am y cyfleusterau chwistrellu diogel. Byddent yn cael gwared ar baraffernalia cyffuriau a symud defnyddwyr i ffwrdd o barciau a mannau agored.

"Mae llawer o ddefnyddwyr cyffuriau ag anghenion cymhleth. Byddai'r cyfleusterau chwistrellu mwy diogel yn rhoi mynediad iddynt i gyfleusterau glân ac ni fyddai'n rhaid iddynt boeni am y stigma o gael mynediad i gymorth.

"Rwyf hefyd yn cytuno am y Driniaeth Cymorth Heroin gan y byddai'n helpu defnyddwyr i symud o droseddu a derbyn y cymorth sydd ei angen arnynt, fel offer glân wedi eu diheintio."

Yn ei haraith siaradodd Ms Cockburn yn deimladwy am y boen o golli ei merch ifanc Martha, a ddisgrifiwyd fel merch fywiog a deallus a oedd eisiau bod yn beiriannydd.

"Dywedodd wrthyf ei bod ond yn cymryd ecstasi i deimlo'n hapus ac ar ôl iddi farw mi wnes i ddarganfod chwiliad ar-lein yr oedd hi wedi ei wneud er mwyn dod o hyd i ffyrdd o gymryd y cyffur yn ddiogel," meddai.

"Roedd hi eisiau mynd ychydig yn uchel ond doedd hi ddim am farw."

Ychwanegodd: "Trwy ddweud fy stori, rwy’n gobeithio y bydd eraill yn dysgu ac yn cymryd rhan yn y sgwrs bwysig hon am reoleiddio cyflenwi cyffuriau.

"Bob dydd mae 50 o bobl yn marw o ganlyniad i gymryd cyffuriau, ond mae gobaith. Mae llawer o newid yn digwydd mewn polisi cyffuriau rhyngwladol ac rwy'n credu mai dim ond mater o amser yw hi cyn y bydd synnwyr cyffredin yn ennill y dydd ac y bydd y DU yn dal i fyny â’r datblygiadau hyn, gan ein rhyddhau o hualau rhydlyd deddfau sydd wedi dyddio nad ydynt yn cadw ein plant yn ddiogel."

Siaradwr arall yn y digwyddiad oedd Neil Woods, cyn heddwas cyffuriau cudd a llefarydd ar ran Law Enforcement Against Prohibition (LEAP), y mae ei lyfr Good Cop, Bad War ar fin cael ei haddasu’n gyfres deledu gan y rhai greodd ddrama Line of Duty.

Disgrifiodd sut yr oedd dros y blynyddoedd wedi helpu i ddod â nifer o gangsters oedd yn cyflenwi cyffuriau peryglus o flaen eu gwell.

Ond ychwanegodd: "Ar ôl 14 mlynedd o wneud y gwaith mi wnaeth y geiniog ddisgyn yn y diwedd nad oedd y canlyniad yn cyfiawnhau'r dull, ac er fy mod wedi rhoi nifer o bobl yn y carchar am dros fil o flynyddoedd nid oedd hynny wedi cael fawr ddim effaith ar y cyflenwad o heroin.

"Sylweddolais nad oedd hyn yn gweithio, a bod plismona cyffuriau ond yn gwneud i droseddwyr cyfundrefnol, sy'n rheoli’r cyflenwad cyffuriau, i fynd yn fwy treisgar.

"Rwy'n teimlo dyletswydd i roi gwybod i bobl am hyn, a dyna oed dfy rheswm dros ysgrifennu’r llyfr ac ymwneud â LEAP, gyda phobl fel cyn- swyddogion MI5, prif gwnstabliaid a chyn blismyn cudd eraill oedd wedi dod i'r un casgliadau â mi."

Yn gynharach roedd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd wedi dweud wrth y gynulleidfa: "Rwy’n credu bod y rhyfel yn erbyn cyffuriau wedi cael ei cholli flynyddoedd lawer yn ôl a bod angen ymagwedd newydd arnom wrth ymdrin â defnydd cyffuriau problemus. Rwyf wedi teimlo ers tro bod y sabwynt presennol o wahardd cyffuriau yn hynod o niweidiol i unigolion a'u cymunedau."

Disgrifiodd Mr Jones sut yr oedd wedi ymweld â Phortiwgal yn ddiweddar i edrych ar y ffordd yr oedd asiantaethau yno yn delio â’r defnydd o gyffuriau, a dywedodd ei fod yn cytuno gyda’u hymagwedd, sef trin dibyniaeth fel clefyd yn htrach na throsedd.

Eglurodd: "Yr hyn sy'n allweddol ym Mhortiwgal yw bod defnyddio cyffuriau problemus wedi cael ei ddad-droseddu, a hefyd wedi cael ei wneud yn fater iechyd cyhoeddus.

"Mae pobl sy’n cael eu dal gyda chyffuriau yn eu meddiant yn ymddangos o flaen comisiwn perswâd sy'n penderfynu a ydynt yn ddefnyddiwr problemus ai peidio. Os nad ydynt, yna yn y rhan fwyaf o achosion ni fyddant yn wynebu cosb.

"Roedd y pump neu 10 y cant o ddefnyddwyr oedd yn cael eu hystyried yn broblemus yn cael eu cyfeirio naill ai at wasanaeth lleihau niwed neu at wasanaeth triniaeth, yn dibynnu ar awydd y defnyddiwr i barhau i ddefnyddio cyffuriau neu geisio rhoi’r gorau iddynt.

"Yr un ystadegyn syfrdanol sy'n dangos i mi fod y system hon yn gweithio yw mai dim ond pedwar ym mhob miliwn o bobl sy’n marw o ganlyniad i gymryd cyffuriau ym Mhortiwgal o’i gymharu â 48 ym mhob miliwn yn y DU."

Cododd Mr Jones hefyd fater  NPS neu sylweddau seicoweithredol - sy’n cael eu hadnabod fel cyffuriau "zombie" - a fu yn y penawdau’n ddiweddar pan dynnwyd llun o ddefnyddwyr mewn cyflwr perlewygol yng nghanol tref Wrecsam.

Dywedodd: "Rwy'n credu bod llywodraeth y DU wedi colli cyfle a dylid fod wedi rheoleiddio NPS a'r siopau lle maent yn cael eu gwerthu fel cyffuriau cyfreithlon hyd at 18 mis yn ôl yn hytrach na gwahardd eu defnydd pan daeth deddfwriaeth newydd i rym.

"Rydym bellach mewn sefyllfa lle mae cyflenwi NPS wedi mynd yn danddaearol ac, fel gyda chyffuriau eraill, yn gadarn dan reolaeth o grwpiau troseddau cyfundrefnol."

Dywedodd Mr Jones y dylid lobïo llywodraeth y DU i newid polisi cyffuriau, ond pwysleisiodd nad yw dad-droseddu yn golygu cyfreithloni.