Skip to main content

Matthew yw swyddog cefnogi dioddefwyr caethwasiaeth fodern cyntaf y DU

Dyddiad

Dyddiad
Modern Slavery (2)

Mae’r swyddog cyntaf i gefnogi'r heddlu i helpu dioddefwyr caethwasiaeth fodern newydd ddechrau ar ei waith fel rhan o ymgyrch fawr i fynd i’r afael â’r troseddu creulon yng Ngogledd Cymru.

Diolch i gronfa arbennig gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd y rhanbarth, Arfon Jones, bu’n bosib penodi’r cyn-weithiwr i’r Groes Goch Brydeinig, Matthew Hazlewood.

Mae mynd i’r afael â chaethwasiaeth fodern yn un o’r prif flaenoriaethau yng nghynllun Heddlu a Throsedd y Comisiynydd, sef ei gynllun penodol ar gyfer plismona yng ngogledd Cymru.

Mae Mr Hazlewood, sy’n dad i dri o blant, yn rhan o uned caethwasiaeth fodern Heddlu Gogledd Cymru ac yn gweithio gyda’r Ganolfan Helpu Dioddefwyr, sy’n siop-un-stop ar gyfer dioddefwyr o bob math o droseddau.

Mae’r ganolfan yn gweithio dros ogledd Cymru i gyd ac mae wedi ei lleoli ym mhrif swyddfa ranbarthol yr heddlu yn Llanelwy.

Yn ôl Mr Jones, mae gyrwyr caethwasiaeth fodern yn masnachu pobl drwy’r gogledd bob diwrnod.

Mae troseddwyr o Iwerddon yn dod â phobl i’r gogledd drwy Borthladd Caergybi naill ai i weithio’n andros o galed yn y rhanbarth neu ymhellach yng ngogledd orllewin Lloegr.

Dywedodd: “Mae caethwasiaeth fodern a masnachu mewn pobl yn droseddau arswydus a chreulon sy’n ymestyn i ganol ein cymdeithas yma yn y gogledd, a dyna pam rwyf wedi ei wneud yn un o fy mlaenoriaethau yn fy Nghynllun Heddlu a Throsedd, sy’n amlinellu’r strategaeth ar gyfer plismona’r ardal.

Mae’n broblem gynyddol, ac rydyn ni’n darganfod mwy wrth i ni allu defnyddio mwy o adnoddau. Mae Porthladd Caergybi yn her fawr ac rydyn ni’n gwybod bod pobl sy’n smyglo a manteisio ar waith yn broblemau sydd angen i ni fynd i’r afael â nhw ar fyrder.

Mae cymaint o feysydd sy’n peri pryder, o’r diwydiant pysgota a chasglu cocos i olchfeydd ceir, amaethyddiaeth neu rhywle arall. Mae’n broblem gynyddol y mae’n rhaid i lawer o luoedd yr heddlu fynd i’r afael â hi.”

Ychwanegodd: “Yng ngogledd Cymru rydyn ni mewn gwirionedd ar flaen y gad pan ddaw at gasglu gwybodaeth a’r modd yr ydym yn gweithredu ar y wybodaeth honno yn rhagweithiol. Gallwn ni fod yn falch iawn o’r hyn rydyn ni eisoes wedi ei gyflawni.

Rwy’n falch iawn i groesawu Matthew Hazlewood i’r swydd ac rwy’n falch ei fod yn swydd rwy’n medru ei hariannu. Cyfrifoldeb Matthew yw cefnogi dioddefwyr caethwasiaeth fodern a masnachu mewn pobl.

Mae’n rhaid i ni gofio y bydd gan bobl sy’n goroesi caethwasiaeth fodern a masnachu mewn pobl broblemau hirdymor, efallai oherwydd gwahaniaethau iaith a diwylliant. Mae’r rhain yn broblemau bydd rhaid i ni fynd i’r afael â nhw yn sensitif.”

Yn ôl Matthew Hazlewood, bu diddordeb ganddo erioed i helpu dioddefwyr masnachu mewn pobl.

Wedi iddo adael Cyfoeth Naturiol Cymru yn 2015, gwirfoddolodd gyda’r elusen CARITAS yng Nghyprus gan gynorthwyo ceiswyr lloches, ffoaduriaid a dioddefwyr masnachu mewn pobl.

Dywedodd: “Dychwelais wedyn i ogledd Cymru a dechrau gwirfoddoli gyda’r Groes Goch Brydeinig yn gweithio gyda cheiswyr lloches a ffoaduriaid yn Wrecsam. Daeth swydd arweinydd tîm i fyny a derbyniais y swydd i helpu ffoaduriaid o Syria i ail-gartrefu yng ngogledd ddwyrain Cymru.

Ymgeisiais ar gyfer y rôl fel gweithiwr achos caethwasiaeth fodern yma yng Nghanolfan Cefnogi Dioddefwyr Gogledd Cymru yn Llanelwy gan ei fod yn broblem bwysig.

Rwy’n credu y gallaf ddod â’r egni a’r arbenigedd sydd eu hangen i gefnogi dioddefwyr a gwaith y Ganolfan Cefnogi Dioddefwyr.

Fy rôl i ydy cefnogi pobl sydd wedi eu dal yng nghaethwasiaeth fodern gan hefyd godi ymwybyddiaeth gyda’r trydydd sector ynghylch sut mae ecsploetio yn newid yng ngogledd Cymru.

Nid ydym y sicr faint o ddioddefwyr sydd yna ond mae’r ffigwr mwy a thebyg yn ddegau o filoedd.

Gall dioddefwyr fod yn ddynion, yn fenywod neu yn blant ac o bob cenedl a chefndir. Gall rhai ddod o gefndir o dlodi a gallai eraill fod wedi cael eu herwgipio neu yn dianc rhag trafferthion gwleidyddol neu grefyddol. Ond yn y bôn maent yn bobl fregus sydd angen ein cymorth.

Mae Mr Jones yn gywir i ddweud y gellid gweld dioddefwyr yn gweithio am ychydig o arian, neu am ddim, mewn golchfeydd ceir, mewn unedau amaethyddol, ffatrïoedd, bariau ewinedd neu mewn busnesau gosod palmantau a lonydd tai. Ac wrth gwrs mae rhai yn cael eu caethiwo yn y diwydiant rhyw.

Caiff pobl eu hecsbloetio a chymerir eu dogfennau oddi wrthynt. Wedyn cedwir nhw ar eu pen eu hunain o fewn amgylchedd sydd wedi ei reoli.

Rwy’n gobeithio gallu gwneud gwahaniaeth mawr yn gyflym. Rwy’n gweld fy swydd fel cyfle i dreulio amser gyda dioddefwyr wrth i unrhyw ymchwiliad troseddol fynd yn ei flaen. Wrth gwrs, mae’n bwysig nad yw fy rôl yn gorffen pan fydd yr ymchwiliad yn dod i ben.

Byddaf yno tra bydd fy angen a byddaf yn gweithio gydag asiantaethau sy’n bartneriaid i sicrhau y caiff dioddefwyr eu cefnogi a derbyn cymorth cyhyd â bod angen.”

Mae rhagor o wybodaeth ar wefan caethwasiaeth fodern Heddlu Gogledd Cymru: https://www.north-wales.police.uk/advice-and-support/stay-safe/modern-slavery?lang=cy-gb.

Os ydych yn amau bod caethwasiaeth yn digwydd yn agos atoch rhowch wybod i’r heddlu ar 101, yn ddienw drwy Crimestoppers ar 0800 555 111 neu ffoniwch linell gymorth Caethwasiaeth Fodern ar 0800 012 1700 neu BAWSO ar 0800 731 147. Mae’r gwasanaeth helpu dioddefwyr ar gael rhwng 8yb-8yh ddydd Llun i ddydd Gwener a 9yb-5yp ar ddydd Sadwrn. Gellid cysylltu â’r gwasanaeth drwy Radffôn ar 0300 3030159, drwy e-bostio northwales.helpcentre@victimsupport.org.uk, neu drwy wefannau www.victimhelpcentrenorthwales.org.uk neu www.canolfangymorthiddioddefwyrgogleddcymru.org.uk.