Dyddiad
Mae pennaeth heddlu yn credu bod datganoli plismona i Gymru yn anochel, gan ddweud ei fod yn fater o pan ac nid os y bydd hynny’n digwydd.
Yn ôl Arfon Jones, sydd newydd gael ei ethol yn gadeirydd Grŵp Plismona Cymru Gyfan, roedd yna bellach fomentwm di-droi’n-ôl o blaid y syniad.
Dywedodd Mr Jones, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru fod y pedwar comisiynydd yng Nghymru sy’n aelodau o’r grŵp yn unfrydol eu cefnogaeth dros ddatganoli’r mater.
Er nad ydynt wedi eu datganoli yn gyfreithiol mae llawer o feysydd eraill yn y system cyfiawnder troseddol, fel Gwasanaeth Erlyn y Goron a’r gwasanaeth llysoedd, eisoes yn gweithredu gyda strwythurau Cymru gyfan.
Dywedodd Mr Jones: “Mae’r pedwar comisiynydd heddlu a throsedd yn awyddus i weld mwy o gyfrifoldebau wedi eu datganoli i Gymru".
“Rydym yn croesawu’r ffaith bod y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn symud tuag at ddatganoli mwy o gyfrifoldebau i gomisiynwyr yng nghyswllt dioddefwyr a thystion. Mae hwn yn gam i’r cyfeiriad cywir".
“Rydym yn credu y dylai plismona gael ei ddatganoli’n llwyr i Gymru ac mae mater o amser yn unig yw hi cyn y bydd hynny’n digwydd, ond mae angen i ni argyhoeddi’r Ysgrifennydd Gwladol Alun Cairns o hynny a hyd yma nid ydym wedi cael llawer o lwyddiant".
“Mae yn erbyn y syniad, er bod nifer o bobl wedi ceisio cynnig gwelliannau i Fesur Cymru i ddatganoli pethau fel cyfiawnder ieuenctid".
Ni wnaeth y Llywodraeth gefnogi hynny, felly ni chafodd y gwelliant ei basio sy’n resyn gan mai cyfiawnder ieuenctid yw’r unig ran o wasanaethau plant nad yw wedi ei datganoli i Gymru”
Mae meysydd eraill fel addysg, iechyd a gofal cymdeithasol i gyd wedi cael eu datganoli – ond wedyn mae cyfiawnder ieuenctid yn dal i ddod o dan y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn Llundain. Nid yw’n gwneud unrhyw synnwyr o gwbl.
“O ran datganoli plismona, dim ond mater o amser yw hi bellach felly yr hyn rydym yn ei wneud yw braenaru’r tir oherwydd pan fydd yn digwydd, mae’n debygol o ddigwydd dros nos".
“Gallai gymryd 10 neu 20 mlynedd, ond mae’n bwysig ein bod yn paratoi’n briodol a bod gennym y strwythurau cywir yn eu lle".
“Byddai’n gwneud synnwyr pe bai cyfiawnder troseddol yn cael ei ddatganoli’n llwyr hefyd, yr un fath ag y mae ym Manceinion".
“Mae plismona a chyfiawnder troseddol wedi eu datganoli yno i’r maer Andy Burnham, ac os gallant wneud hynny ym Manceinion dydw i ddim yn gweld unrhyw reswm pam na allant wneud hynny yng Nghymru".
“Nid yw cael rhai elfennau o gyfiawnder troseddol y tu allan i’r math hwnnw o gylch rheoli yn gwneud synnwyr oherwydd eich bod angen popeth gyda’i gilydd fel rhan o un gwasanaeth integredig".
“Pan fyddwch yn cael un darn o wasanaeth wedi ei ddatganoli ond nid y gweddill mae’n cymylu pethau braidd ac mae’n achosi mwy o broblemau a chymell mwy o heriau cyfreithiol".
“Gwelwyd ambell achos o her gyfreithiol rhwng Llywodraeth Cymru a San Steffan a gallaf weld mwy yn digwydd yn y dyfodol hyd nes y bydd plismona wedi ei ddatganoli yn briodol o’r diwedd i bobl Cymru".
“Enghraifft o hyn yw’r dryswch ynghylch yr ardoll prentisiaethau gan nad yw plismona wedi ei ddatganoli ond hyfforddiant yn ddatganoledig, canlyniad tebygol hyn yw na fydd Swyddogion yr Heddlu yng Nghymru yn cael yr un lefel o hyfforddiant oherwydd yr anghytundeb rhwng y ddwy lywodraeth.”