Skip to main content

Penaethiaid heddlu yn galw am ddiwrnod o wyliau ar Ddydd Gŵyl Dewi

Dyddiad

Dyddiad
Penaethiaid heddlu yn galw am ddiwrnod o wyliau ar Ddydd Gŵyl Dewi

Mae dau bennaeth heddlu wedi ymuno gyda’i gilydd i alw ar y Prif Weinidog Theresa May i roi pwerau newydd i Gymru er mwyn gallu gwneud Dydd Gŵyl Dewi yn ddiwrnod o wyliau cyhoeddus.

Yn ôl Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Arfon Jones a Dafydd Llywelyn, ei gymheiriad yn Nyfed-Powys, mae ond yn deg caniatáu i bobl Cymru ddathlu'r diwrnod cenedlaethol yn iawn.

Maent yn annog Llywodraeth y Deyrnas Unedig i roi’r pŵer i'r Cynulliad Cenedlaethol  wneud y diwrnod yn wyliau swyddogol.

Byddai hynny'n galluogi’r Cynulliad i ddilyn y cynsail a osodwyd yn yr Alban yn 2006 pan ddynododd Senedd yr Alban y 30ain o Dachwedd, sef Dydd Sant Andreas, yn wyliau cenedlaethol.

Yn yr Alban, er nad oes angen i fanciau gau a mater i gyflogwyr yw penderfynu rhoi diwrnod i ffwrdd i’r staff neu beidio - os yw’r 30ain o Dachwedd yn disgyn ar benwythnos, bydd y dydd Llun nesaf yn ddiwrnod o wyliau yn lle hynny.

Dywedodd Arfon Jones: "Dydd Gŵyl Dewi yw ein diwrnod cenedlaethol ac rwy'n credu y dylem ei gyflwyno fel gwyliau i ddathlu ein statws fel cenedl.

Mae'n rhywbeth rwy’n teimlo'n gryf iawn yn ei gylch - rydym wedi cael cyfarfod ynglŷn â sut y gallwn gynyddu hunaniaeth Gymreig ein heddluoedd ac mae hwn yn gam y gallwn ei gymryd.

Byddai dathlu Dydd Gŵyl Dewi gyda diwrnod o wyliau cyhoeddus yn dathlu'r ffaith ein bod ni'n Gymry a bod Cymru'n wlad ynddi'i hun gyda'i hunaniaeth a'i harferion arbennig ei hun.

Mae gan lawer o wledydd wyliau cenedlaethol – mae gan yr Unol Daleithiau eu Diwrnod Annibyniaeth ac yn Ffrainc mae ganddynt Ddiwrnod Bastille a diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop, ac yn Sbaen mae Catalaniaid yn dathlu eu diwrnod cenedlaethol eu hunain ar 11 Medi.

Yn union fel yn yr Alban, mater i gyflogwyr fyddai caniatáu diwrnod o wyliau, ond fe fyddai o leiaf yn gydnabyddiaeth ac yn ddathliad o'n hunaniaeth genedlaethol ni ein hunain."

Mae Mr Jones a Mr Llywelyn hefyd yn bwriadu codi'r mater yng nghyfarfod nesaf y  pedwar Comisiynydd Heddlu a Throsedd yng Nghymru.

Dywedodd Mr Llywelyn: "Dylai'r pedwar Comisiynydd a'r pedwar Prif Gwnstabl, fel cyflogwyr degau o filoedd o bobl yng Nghymru, lobïo'r Cynulliad i gyflwyno'r newid hwn.

Mae Arfon a minnau yn credu fod llawer iawn o gefnogaeth i'r syniad o greu gwyliau swyddogol newydd i ddathlu diwrnod ein nawddsant.

Nid yw'n fater deddfwriaethol mawr ac nid oes rhwystr gwirioneddol i greu diwrnod newydd o wyliau yng Nghymru.

Byddai'n ddiwrnod i ni arddangos ein balchder cenedlaethol ac yn arwydd o’n haeddfedrwydd fel cenedl."

Pwy oedd Dewi Sant?

Ganed Dewi Sant tua 542OC ym Mynyw, sydd bellach yn cael ei adnabod fel Tyddewi. Yn draddodiadol credir mai ef oedd mab Santes Non ac ŵyr Ceredig ap Cunedda, brenin Ceredigion.

Ef oedd sylfaenydd, abad ac esgob y fynachlog a bu’n gyfrifol am lawer o dwf Cristnogaeth yng Nghymru.

Mae llawer o fywyd Dewi wedi'i guddio mewn dirgelwch, ond ar un adeg credid ei fod yn nai i'r Brenin Arthur ar ochr ei fam ac erbyn heddiw mae’n symbol o safiad y Cymry yn erbyn y Goncwest Normanaidd. Fe'i cydnabyddir hefyd fel nawdd sant colomennod.

Mae’r gwyrthiau sy'n gysylltiedig â Dewi yn cynnwys Synod Llanddewi Brefi - lle cododd fryn i fyny o'r ddaear er mwyn i’w ddilynwyr glywed ei bregeth yn well - adfer golwg Sant Paulinus a dod â bachgen marw yn ôl yn fyw gyda'i ddagrau.

Denodd ei ddysgeidiaeth bererinion o Iwerddon ac Ewrop i Gymru. Credir ei fod wedi marw yn 601OC.