Skip to main content

Pennaeth heddlu eisiau mwy o unedau profi cyffuriau symudol mewn gwyliau a chlybiau cerddoriaeth

Dyddiad

Dyddiad
GOTTWOOD FESTIVAL 01 - Copy

Mae pennaeth heddlu yn galw am ymestyn profion cyffuriau mewn clybiau a gwyliau cerddoriaeth mewn ymgais i osgoi mwy o farwolaethau trasig.

Roedd Ann Griffith, Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, yn siarad ar ôl sefydlu uned brofi symudol yng ngŵyl boblogaidd Gottwood ar Ynys Môn dros y penwythnos.

Yno cafodd cyffuriau anghyfreithlon gan gynnwys ketamine ac MDMA eu rhoi mewn biniau amnest a sefydlwyd gan Heddlu Gogledd Cymru.

Roedd yn rhan o ymgyrch i gadw dilynwyr cerddoriaeth yn ddiogel ar ôl i ddau berson ifanc farw yn ddiweddar yng Ngŵyl Mutiny yn Portsmouth.

Sefydlwyd yr uned symudol yn Gottwood, ger Llanfaethlu, ar ogledd-orllewin yr ynys mewn ymdrech i ddarganfod a oedd y cyffuriau oedd yn cael eu defnyddio yno wedi eu ‘torri’ yn beryglus gyda sylweddau niweidiol.

Cafodd mynychwyr yr ŵyl gyfle i adael unrhyw gyffuriau anghyfreithlon neu waharddedig yn y biniau amnest ym mhrif fynedfa’r ŵyl cyn iddynt gael eu chwilio gan staff hyfforddedig.

Mwynhaodd dros 5,000 o bobl bedwar diwrnod a noson o gerddoriaeth ‘House’ a ‘Techno’ ar dir Ystâd Carreglwyd o ddydd Iau i ddydd Sul.

Aeth Ann Griffith draw yno gyda’r Prif Arolygydd Mark Armstrong i weld sut yr oedd yr heddlu a threfnwyr yr ŵyl yn gweithio gydag asiantaethau eraill i sicrhau diogelwch dilynwyr cerddoriaeth.

Dywedodd Ms Griffith fod y ffaith bod biniau amnest yn y mynedfeydd a hefyd bod pobl yn cael eu chwilio cyn mynd i mewn i’r safle yn gam i’r cyfeiriad cywir.

Meddai: “Caiff y sylweddau a adawyd yn y biniau eu cymryd gan swyddogion heddlu i’w profi gan staff hyfforddedig Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a staff asiantaethau eraill hefyd.

Mae unrhyw beth beryglus gaiff ei ddarganfod oherwydd ei fod wedi’i gymysgu â llwch sment, powdr talc neu gynhwysion eraill yn golygu y gellir anfon neges o rybudd o gwmpas safle’r ŵyl trwy gyfryngau cymdeithasol a dulliau eraill

Fel hyn, gall pobl gael eu cadw’n ddiogel a’u gwneud  yn ymwybodol o ddogn niweidiol o gyffuriau neu sylweddau penodol. Mewn gwirionedd mae’n ymwneud â chadw pobl yn ddiogel. Nid ydym am weld digwyddiadau trasig a bywydau’n cael eu difetha.”

Ychwanegodd: “Rydym yn symud i’r cyfeiriad y mae’r Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd eisiau ei weld er bod gennym gryn dipyn o ffordd i fynd.

Mae Mr Jones eisiau gweld gorsafoedd profi mewn llefydd amlwg lle gall cynulleidfaoedd brofi ansawdd a phurdeb eu cyffuriau i sicrhau eu bod yr hyn y maen nhw’n meddwl ydynt a bod pobl yn gwybod beth maent yn ei gymryd. Byddai hyn yn achub bywydau, does dim amheuaeth o hynny.

Byddai hyn yn sicrhau bod pobl yn cael eu cadw’n ddiogel. Gyda’r ewyllys gorau yn y byd ni fyddwn byth yn atal pobl rhag mynychu gwyliau a chymryd cyffuriau a sylweddau anghyfreithlon. Rhaid i ni gydnabod a delio â hynny yn y ffordd gywir. Rhaid i ddiogelwch fod flaenaf.

Mae’n rhaid i mi ddweud fy mod i’n falch iawn o weld y cydweithrediad a’r gwaith partneriaeth rhwng Heddlu Gogledd Cymru, y trefnwyr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yr awdurdod lleol a’r gwasanaeth ambiwlans.

Mae’n rhaid i unrhyw beth y gallwn ei wneud i leihau niwed a achosir gan gyffuriau anghyfreithlon a werthir ar y stryd fod yn beth da. Y peth pwysicaf i mi ydi achub bywydau.

Mae mudiad o’r enw The Loop yn cynnig gwasanaeth yn y gwyliau mawr yn Lloegr lle gall pobl fynd i brofi sampl o’u cyffuriau a chael gwybod beth sydd yn y cyffuriau.

Bydd llawer yn dewis cael gwared ar y sylwedd y maent wedi ei brynu wrth weld tystiolaeth bod y sylwedd yn beryglus neu’n ddiwerth.

Llawer o’r amser, bydd pobl yn prynu cyffuriau anghyfreithlon heb wybod beth sydd ynddynt. Bydd yn helpu’r person hwnnw i wneud penderfyniad synhwyrol os ydynt yn gwybod beth sydd yn y cyffur.

Hoffwn ddiolch i’r Prif Arolygydd Armstrong am ei amser yn yr ŵyl oedd ag awyrgylch gwych ac a fwynhawyd yn fawr gan bawb oedd yno.”

Roedd y Prif Arolygydd Mark Armstrong yn falch o lwyddiant Gŵyl Gottwood a’r gweithgaredd plismona.

Dywedodd: “Rydym wedi cael cyffuriau yn y biniau amnest yn enwedig Ketamine a MDMA ond ar lefelau isel iawn.

Yn ddiddorol, rydym hefyd wedi cael sylweddau wedi ei gadael yr oedd pobl yn amlwg wedi eu prynu gan gredu mai cyffuriau oeddent ond a oedd mewn gwirionedd yn bethau fel powdr talc neu lwch sment ac nid yn gyffuriau o gwbl.

Mae’r ffaith y byddai gwerthwyr diegwyddor yn gwerthu powdr talc pur neu unrhyw beth arall sy’n honni ei fod yn gyffur i rywun yn dweud y cyfan. Pe bai’n cael ei ddefnyddio yna gallai achosi niwed difrifol.

Fodd bynnag, mae nifer y cyffuriau a gafodd eu rhoi i mewn wedi bod yn isel iawn. Rwy’n credu pan fydd ymwelwyr gwyliau yn sylweddoli eu bod yn cael eu chwilio a bod hyd yn oed ci arogli cyffuriau yn bresennol, yna mi wnawn nhw sylweddoli nad yw’n werth chweil ac ni fyddant hyd yn oed trio.

Roedd gennym rai pryderon ddydd Gwener ar ôl derbyn gwybodaeth am y posibilrwydd bod tabled ecstasi arbennig o beryglus o’r enw ‘Punisher’ wedi ei gyflwyno i safle’r ŵyl. Fodd bynnag, nid oes gennym unrhyw dystiolaeth bod hynny wedi digwydd.”

Ychwanegodd: “Rwy’n falch iawn o’r ffordd y mae’r ŵyl wedi mynd. Rydym wedi cydweithio’n agos gyda’r trefnwyr a’r darparwyr diogelwch, FGH security, sydd wedi bod yn wych fel y tîm lles hefyd.

Ni fu’n rhaid cymryd unrhyw un o’r safle oherwydd rhesymau meddygol ar ôl cymryd unrhyw gyffur anghyfreithlon a llwyddwyd i ddelio ag unrhyw fater sydd wedi codi ar y safle.

Ni allaf fod yn fwy hapus gyda’r gwaith plismona a sut mae’r ŵyl wedi mynd yn gyffredinol.”

Dywedodd Tom Elkington, cyfarwyddwr Gŵyl Gottwood, yn anffodus, bod cyffuriau yn ffactor anorfod wrth drefnu gwyliau cerddoriaeth.

Meddai: “Ni fyddwn byth yn atal pobl rhag dod â chyffuriau gyda nhw ond yr hyn y mae’n rhaid i ni ei wneud yw ei gwneud mor ddiogel â phosib.

Beth rydym yn ei wneud yw profi cymaint ag y gallwn ond heb fferyllfa gymwys ar y safle rydym yn gyfyngedig o ran yr hyn y gallwn ni ei wneud. Ond os yw rhywun yn teimlo’n sâl gallwn gynnal rhai profion sylfaenol er mwyn gwirio cryfder y sylwedd maent wedi ei gymryd.

Gallwn wedyn gael y neges allan trwy’r cyfryngau cymdeithasol, cyhoeddiadau clywedol a phosteri gan roi gwybod i bobl am unrhyw gymysgedd peryglus o gyffuriau neu gryfder uchel o sylweddau a allai fod wedi canfod eu ffordd ar y safle.”

Ychwanegodd: “Credwn fod y biniau amnest yn gweithio’n dda. Unwaith y bydd pobl yn dod i mewn i’r safle mae yna weithdrefn chwilio gadarn a thrylwyr.

Mae gennym dri chyfarfod y dydd gyda’r heddlu, staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac asiantaethau eraill lle rydym yn trafod yr hyn gafodd ei ddarganfod ac unrhyw neges ddiogelwch y mae angen i ni ei chyfleu i gynulleidfaoedd gwyliau.

Roeddwn yn hynod hapus gyda’r ffordd rydym wedi gweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru, mae’n rhaid iddo fod yn fwy diogel a dyna’r hyn rydym i gyd eisiau.”