Dyddiad
Mae pennaeth heddlu yn mynd ar y strydoedd i ddangos ei gefnogaeth i’r nifer cynyddol o bobl ddigartref yn Wrecsam.
Bydd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Arfon Jones yn treulio diwrnod cyfan ar strydoedd y dref er mwyn cael gweld yn uniongyrchol sut beth yw bywyd i bobl heb do uwch eu pennau.
Ar yr un pryd â thynnu sylw at eu sefyllfa, bydd y cyn arolygydd heddlu yn ceisio codi cymaint o arian â phosibl i elusen, Digartref Wrecsam.
Yn ddiweddar, datgelodd ffigurau gan Lywodraeth Cymru mai Wrecsam ar ôl Caerdydd sydd â’r gyfradd uchaf ond un o bobl yn cysgu ar y stryd yng Nghymru, gyda rhifau wedi cynyddu bron i 60 y cant mewn blwyddyn.
Datgelodd sampl a gymerwyd fis Tachwedd diwethaf bod gan y dref fwyaf yng Ngogledd Cymru 27 o bobl yn cysgu allan dros nos.
Mae’r niferoedd wedi codi 59% o’r 17 o bobl a welwyd yn cysgu allan yn ystod cyfrif tebyg a wnaed ym mis Tachwedd, 2015.
Mae elusen leol sy’n delio â’r broblem yn dweud bod tua 30 o bobl ddigartref yn Wrecsam ar hyn o bryd.
Mewn ymgais i dynnu sylw at y sefyllfa bydd Mr Jones, sy’n gyn-gynghorydd yn Wrecsam, yn cymryd rhan mewn Diwrnod ar y Strydoedd noddedig a drefnwyd gan AVOW - Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam - ar ddydd Sadwrn 15 Gorffennaf.
Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd: “Rydym yn bwriadu treulio diwrnod ar strydoedd Wrecsam er mwyn codi ymwybyddiaeth o sefyllfa pobl ddigartref yn Wrecsam a hefyd i godi arian i’w helpu.
“Gall unrhyw un yn unrhyw le ganfod eu hunain ar y strydoedd, ond rydym yn gobeithio gwneud hynny yn brofiad llai trawmatig a bydd yr arian yn mynd tuag at eu cyflenwi gyda bagiau cysgu, pebyll, bwyd a dillad cynnes.”
Bydd Mr Jones yn mynd ar y strydoedd fel rhan o grŵp o rhwng 20 a 30 o bobl ac yn treulio 12 awr, o 8yb tan 8yh, yn mynd trwy’r un drefn lafurus ac ansicr â llawer o bobl ddigartref.
Dywedodd Peter Jones, cydlynydd gwirfoddoli camddefnyddio sylweddau gydag AVOW sy’n trefnu’r diwrnod: “Rydym wedi bod yn cynnal digwyddiadau noddedig tebyg yn y dref am yr wyth mlynedd diwethaf ac wedi codi ychydig o gannoedd o bunnoedd i elusen Digartref Wrecsam.
“Fel arfer mae’n golygu cysgu allan dros nos er mwyn efelychu’r caledi o dreulio noson yn yr awyr agored, ond dyma’r tro cyntaf rydym wedi gwneud hynny yn ystod y dydd. Mae hynny oherwydd ein bod yn credu mai’r cyfnod rhwng 8yb-8yh yw’r adeg mwyaf anodd i’r digartref.
“Mae’r lloches nos yn Heol Holt lle mae llawer o’r digartref yn treulio’r nos yn cau am 8yb ac mae’n rhaid iddyn nhw adael bryd hynny, sy’n golygu bod rhaid iddyn nhw ddod o hyd i rywle i fynd hyd nes y bydd yn agor eto am 8yh.
“Os ydyn nhw’n mynd i mewn i adeiladau cyhoeddus neu gysgodfannau bws gellir eu symud ymlaen ac os oes ganddyn nhw Orchymyn Amddiffyn Mannau Cyhoeddus yn eu herbyn ac yn mynd i mewn i ganol y dref gellir eu harestio am dorri’r gorchymyn, felly cysgu yw’r rhan hawdd.”
Ychwanegodd Peter: “Ar 15 Gorffennaf byddwn yn rhannu’r bobl sy’n treulio’r diwrnod ar y strydoedd yn grwpiau bach o tua chwech neu saith a chan ddechrau o’r tu allan i loches nos Tŷ Nos yn Heol Holt, byddwn yn gwasgaru ar draws y dref, gan geisio dod o hyd i rywle i fynd ar ein pennau’n hunain am y 12 awr.
“Byddwn yn mynd i ganolfan gymorth i oedolion Tŷ Croeso yn Ffordd Grosvenor yn ystod y bore am baned o de a darn o dost, ond ar ôl hynny bydd rhaid i bob un ohonom ganfod ei ffordd ei hun.
Byddwn yn ceisio gwneud yr holl beth mor realistig ag y gallwn felly’r cyfan y byddwn yn mynd efo ni fydd dillad i newid iddynt a sach gysgu neu flanced, sef yr hyn y mae pobl ddigartref go iawn fel arfer yn eu cario gyda nhw.
“Rydym wrth ein boddau i gael y Comisiynydd Heddlu a Throsedd gyda ni er mwyn iddo gael gweld a phrofi beth yn union y mae bod yn ddigartref yn Wrecsam yn ei olygu.”
Dywedodd Arfon Jones: “Mi ddylai fod yn ymarfer diddorol ac addysgiadol iawn a rhoi golwg go iawn ar broblem digartrefedd yn Wrecsam.
“Mae llawer o bobl yn gweld pobl sy’n dioddef digartrefedd fel rhai sy’n treulio eu nosweithiau ar y strydoedd, ond am weddill yr amser maen nhw’n eistedd ar feinciau mewn parc ac o flaen drysau ddydd ar ôl dydd, wythnos ar ôl wythnos, fis ar ôl mis.
“Yn aml iawn gofynnir iddyn nhw symud ymlaen ym mhob tywydd gan gario popeth sydd ganddyn nhw mewn rycsac neu fag plastig.
“Ar 15 Gorffennaf byddwn yn profi yn union beth yw hyn heb arian ac yn cerdded y strydoedd.”
Ychwanegodd: “Y rheswm rwy’n cymryd rhan yw bod yna lawer o gydberthynas rhwng cam-drin sylweddau, materion iechyd meddwl a digartrefedd.
“Mae symptomau pob un o’r tri hyn yn debyg - ymddygiad gwrthgymdeithasol a gweithgareddau troseddol - oherwydd yn aml yr unig ffordd y gall person digartref oroesi yw trwy ddwyn o siopau a’r unig ffordd y gallan nhw fwydo eu hunain yw trwy fudiad elusennol.
“Os ydych yn gallu lleihau lefel digartrefedd gallwch leihau’r niwed i’r unigolyn sy’n ddigartref, lleihau troseddau a throseddu a rhoi sicrwydd i’r cyhoedd sy’n ofnus o bobl ddigartref.
“Mae croeso i bawb i ymuno â ni ar Orffennaf 15 a chyda’n gilydd gallwn, gobeithio, wneud hyn yn llwyddiant enfawr.
“Rwyf wedi sefydlu tudalen noddi ar Just Giving a fy ffigwr targed cychwynnol yw £500, er fy mod i’n gobeithio codi gryn dipyn yn fwy.”
Dywedodd Tanya Jones o Wrecsam, rheolwr Rhaglen Ymyrraeth Cysgwyr y Stryd sy’n cael ei rhedeg gan yr elusen Wallich ac a enillodd Wobr y Bobl yn ddiweddar yng ngwobrau cymunedol blynyddol y Comisynydd Heddlu a Throsedd, ei bod yn croesawu ymwneud Mr Jones â Diwrnod ar y Strydoedd yn fawr.
“Mae’n hynod o bwysig ei fod yn cymryd rhan ac yn helpu i godi proffil pobl ddigartref yn Wrecsam,” meddai.
“Nid yw bod yn ddigartref yn golygu cysgu allan dros nos yn unig mae hefyd yn golygu treulio oriau hir yn ystod y dydd pan na fydd gan bobl unrhyw beth yn eu pocedi a dim unman i fynd ac yn cael eu symud ymlaen o le i le drwy’r adeg.
“Mae ein cleientiaid yn gorfod delio â hyn am fisoedd a misoedd. Gall fod yn brofiad hynod ddigalon ac unig iawn. Mae’n bwysig bod y Comisynydd Heddlu a Throsedd yn gweld hyn dros ei hun.
“Mae nifer y bobl ddigartref yn Wrecsam yn cynyddu ac nid yw’n edrych fel y bydd unrhyw ostyngiad yn y ffigurau. Rydym yn amcangyfrif bod tua 30 o bobl naill ai’n defnyddio’r lloches nos lleol neu’n cysgu ar y stryd ar hyn o bryd. “
I’r rhai sydd am helpu mae ffurflenni noddi ar gael gan Tŷ Croeso yn 31a Ffordd Grosvenor, Wrecsam, LL11 1BT, ac mae tudalen noddi Mr Jones i’w gweld yn: https://www.justgiving.com/crowdfunding/arfon-jones