Skip to main content

Pennaeth heddlu yn anrhydeddu Kenny - arwr cymunedol a gefnodd ar fywyd o droseddu

Dyddiad

Dyddiad
Pennaeth heddlu yn anrhydeddu Kenny - arwr cymunedol a gefnodd ar fywyd o droseddu

Mae tad i ddau o blant, a gefnodd ar fywyd o droseddu ac sydd wedi mynd ymlaen i helpu llu o bobl ddifreintiedig yn ei dref annwyl, Caernarfon, wedi derbyn gwobr arbennig oddi wrth bennaeth heddlu.

Mae Kenny Khan, sy’n 56 oed, wedi treulio amser dan glo yn ystod cyfnod cythryblus, ond penderfynodd newid ei ffyrdd ac mae bellach wedi dod yn un o hoelion wyth ei gymuned drwy ei waith gwirfoddol ar ystâd Ysgubor Goch yn ward Peblig – un o’r wardiau mwyaf difreintiedig yn yr ardal.

Oherwydd ei angerdd i helpu’r rhai sy’n cael trafferth i gael dau ben llinyn ynghyd, sy’n ddi-waith neu sydd â phroblem gydag alcohol a chyffuriau, enwyd Kenny yn Bencampwr Cymunedol yn nigwyddiad Gwobrau Cymunedol Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones, yng Ngwesty’r Celtic Royal yng Nghaernarfon.

Mr Khan yw’r gŵr tu ôl i brosiect Cegin Cofi a ddechreuodd saith mlynedd yn ôl ac sydd wedi bod yn destun dwy gyfres ar S4C. Daeth Mr Khan hefyd yn gynghorydd tref dros Blaid Cymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf er mwyn helpu ei gymuned ymhellach

Sicrhaodd gyllid i greu fan fwyd symudol i ddarparu prydau fforddiadwy i bobl sy’n byw ar ei ystâd, sydd hefyd yn rhoi cyfle i bobl ifanc i ddysgu sgiliau coginio a chwblhau cymwysterau hyfforddi i’w helpu i gael gwaith yn hytrach na throi at fywyd o droseddu.

Dywedodd Arfon Jones: “Mae Kenny Khan wedi dysgu llawer drwy ei fywyd ac mae ganddo lawer o hygrededd. Y tro diwethaf i mi gyfarfod ag ef dywedodd nad oedd yn gwybod pam fy mod eisiau llun ohono, gan fod gan Heddlu Gogledd Cymru ddigon yn barod.

Ond mae ei brosiect, Cegin Cofi, yn mynd o nerth i nerth ac mae o’n enghraifft berffaith o rywun sydd â phrofiad bywyd ac sy’n addas iawn i helpu eraill, a byddwn yn annog pobl Caernarfon i gydnabod y gwaith da y mae wedi ei wneud drwy gefnogi Caffi Cegin Cofi.”

Ymatebodd Kenny Khan: “Roedd y wobr ddiwethaf a gefais oddi wrth Heddlu Gogledd Cymru yn nodi pedair blynedd.”

Mae ei waith yn y gymuned wedi arwain at agoriad diweddar Caffi Cegin Cofi, gan nad yw’r fan fwyd bellach yn weithredol, sy’n cynnig cyri cartref, pitsas ffres, panins a bwydydd brecwast.

Mae hefyd wedi sicrhau partneriaeth gyda’r Prosiect Foodshare ar draws y DU sy’n caniatáu iddo ailddosbarthu bwyd o Tesco yng Nghaernarfon sy’n agos at y dyddiad y dylid eu bwyta i’r rhai sydd mewn angen dybryd yn y gymuned.

Er bod Kenny yn teimlo’n falch iawn i dderbyn y wobr, roedd hefyd yn awyddus i ganmol ei dîm o wirfoddolwyr sydd wedi ei helpu i wireddu’r prosiect.

Dywedodd: “Rwy’n ddiolchgar am gael y clod ond nid hynny yw’r nod i mi. Rwy’n caru fy nhref – ni allwn i fyw yn unrhyw le arall.

Rwy’n gweithio gyda grŵp anhygoel o bobl – ni allwn eu henwi i gyd oherwydd byddwn i yma drwy’r dydd.

Ia, fy syniad i oedd y caffi ond ni fyddai’n ddim oni bai am y tîm. Ni ellir gwireddu’r syniadau gorau hyd yn oed gan un person – mae angen tîm.

Maen nhw’n angerddol ac yn ofalgar ac mae angen i’r clod i fynd iddyn nhw.”

Mae Kenny yn rhannol Affgan, fe’i ganwyd yng Nghroesoswallt, a threuliodd ei flynyddoedd cynnar yng Nghaernarfon ac yn Wrecsam cyn symud i Birmingham lle yr oedd i mewn ac allan o ofal, cyn dychwelyd i’r gogledd i fyw gyda’i dad.

Esboniodd: “Pan oeddwn i tua 11 roeddwn yn aml yn rhedeg i ffwrdd i ddod ‘nôl i Gymru. Doeddwn i ddim yn hoffi Birmingham.

Rhedais i ffwrdd droeon. Dechreuais droseddu pan oeddwn yn 12. Roeddwn yn byw gyda dad a’i bartner ac roedd yn gartref cythryblus a chamweithredol.

Treuliais gyfnod yn y carchar oherwydd trais yn erbyn dynion eraill ac anonestrwydd – mewn gwirionedd roedd yn fywyd o droseddu.

“Rydych yn cael set o gardiau mewn bywyd ac es i i lawr y llwybr anghywir.”

Mae gan Kenny dau o blant – Branwen sy’n 25 mlwydd oed, a Gethin sy’n 24. Pan oedd yn ei 30au, yn ystod ei gyfnod olaf yn y carchar, penderfynodd Kenny bod angen iddo newid trywydd ei fywyd.

Esboniodd: “Byddwn i’n ddim heb fy mhlant; maen nhw’n golygu’r byd i mi, ond ni fyddwn yn dweud mai dyna oedd y catalydd ar gyfer newid. Roeddwn wedi ‘laru â’r bywyd hwnnw.

Meddyliais, beth ydi’r pwynt? Ar ddiwedd y dydd does gen ti ddim ffrindiau a does neb yn ymddiried ynot ti.”

Er bod Kenny erioed wedi breuddwydio am fod yn aelod o’r Môr-filwyr Brenhinol, ei uchelgais arall oedd bod yn rhan o’r celfyddydau perfformio ac astudiodd am radd theatr yng Ngholeg y Celfyddydau Dartington yn Nyfnaint.

Yn dilyn cyfnod o berfformio mewn band reggae, dychwelodd i Gaernarfon i ddechrau busnes yn ymwneud â’i angerdd arall – bwyd.

Yn y pendraw, arweiniodd hyn ef ar lwybr tuag at ei waith gwirfoddol a chreu’r prosiect Cegin Cofi.

Dywedodd Kenny: “Dysgodd fy nhad mi i goginio. Roedd yn gogydd gwych. Pan ddes i adref agorais fwyty oedd gen i am ryw ddwy flynedd.

Daeth i ben pan ddes i’n rhiant sengl â gwarchodaeth gyfartal felly dechreuais weithio fel cogydd o gwmpas y wlad, yn gweithio mewn tai crand a gweithgareddau.  

Pan ddes yn rhiant sengl roedd rhaid i mi wneud llawer o waith papur. Er mwyn ei wneud roeddwn yn mynd i dŷ cymunedol Tŷ Peblig i wneud llawer o lungopïo.

Roeddwn wedi bod yn mynd gymaint nes un diwrnod, wnaethon nhw ofyn i mi a allwn i roi llun ar y wal.

Rai wythnosau yn ddiweddarach ac rwy’n fentor i’r bobl ifanc. Gwnaeth pethau ddatblygu o hynny. Roeddwn yn eu helpu i gwblhau ffurflenni ac ati.

Roedd y bobl ifanc yn fy hoffi oherwydd roedden nhw’n gwybod ‘mod i wedi cael trafferthion. Roedd ganddyn nhw fwy o hyder ynof i oherwydd fy hanes, nid oherwydd fy mod i’n rhywun arbennig.

Aeth pethau o nerth i nerth ac yna cefais y syniad o gael y fan fwyd.

Rwy’n credu bod yr apêl deledu yna oherwydd ei newydd-deb a’r ffaith nad oes rhwystrau na chyfyngiadau. Roedd yn wir. Roeddwn i’n lwcus mewn gwirionedd, yn y lle iawn ar yr amser iawn.”

Mae Kenny wrth ei fodd o fod wedi agor y caffi newydd ac mae eisoes yn gweld yr effaith gadarnhaol y mae wedi ei chael ar bobl o gefndiroedd trafferthus.

Dywedodd: “Pan rydych chi wedi cael rhai trafferthion rydych yn dueddol o sylweddoli os yw rhywun arall yn cuddio gorffennol cythryblus.

Daeth grŵp o bobl i’r caffi yn ddiweddar oedd â phroblemau gydag alcohol a chyffuriau. Cawson nhw amser ffantastig oherwydd doedd neb yn cael eu beirniadu.

Pwy ydw i i feirniadu beth bynnag? Mewn gwirionedd, pa hawl sydd gan unrhyw un i feirniadu?”

Ychwanegodd Kenny: “Dydw i ddim am i bobl i weld y caffi fel ‘cegin gawl’. Mae’n fwyty go iawn sydd ar agor i bawb ac mae’n darparu prydau fforddiadwy ac iachus.

Gallwch gael pryd da, cael hwyl a gallwn gefnogi pobl os oes angen.

Mae gennym bobl ddigartref yn gwirfoddoli ac rydym yn rhoi cyfle i bobl ifanc. Byddwn yn cefnogi unrhyw beth sy’n magu eu hyder.

Rydym eisiau grymuso pobl. Does dim ots os nad oes arian gyda chi, wedi cael problem yfed neu gyffuriau, neu os ydych chi’n gyfoethog ac erioed wedi cael problem. Mae’n le sy’n agored i bawb.”

Er bod Kenny yn awyddus i’r bobl ifanc ar ei ystâd i gadw draw o’r llwybr yr aeth ef arni unwaith, nid yw’n dweud hynny yn uniongyrchol wrthynt. Yn hytrach, mae’n rhannu ei brofiadau ef yn y gobaith y bydd hynny’n eu hatal.

Dywedodd: “Nid fy lle i yw dweud wrth bobl am beidio â gwneud rhywbeth. Rwyf jyst yn rhannu fy mhrofiadau negyddol.

Rwy’n cael llawer o bobl yn dod ataf yn brolio ac yn ceisio fy mhlesio â hanesion drwg.

Rwy’n dweud nad ydw i eisiau gwybod. Rwy’n dweud wrthynt fod hyd yn oed un funud mewn cell yr heddlu neu garchar yn wastraff amser llwyr – ‘rydych ar waelod y gymdeithas a does neb eisiau eich adnabod.

Ni allwch chi gael y blynyddoedd hynny yn ôl. Dydw i ddim yn rhoi pregeth iddynt, rwyf jyst yn esbonio bod ‘na bris i’w thalu.”