Dyddiad
Mae pennaeth heddlu blaengar wedi canmol Gary Lineker, cyflwynydd teledu Match of the Day, ar ôl iddo alw am gyfreithloni cyffuriau.
Cytunodd cyn chwaraewr pêl-droed Lloegr ar Twitter fod y rhyfel yn erbyn cyffuriau wedi methu a bod gwahardd cyffuriau wedi chwarae i ddwylo gangiau troseddu trefnedig.
Diolchodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Arfon Jones, ymgyrchydd ers amser hir dros ddiwygio’r gyfraith cyffuriau, i’r cyn chwaraewr gyda Barcelona, Dinas Caerlŷr, Everton a Tottenham Hotspur am ei gefnogaeth.
Dywedodd Lineker, sydd hefyd yn cyflwyno gemau Cynghrair y Pencampwyr i BT Sport, wrth ei 6.9 miliwn o ddilynwyr ar Twitter: “Mae’n hen bryd i ni ddad-droseddoli cyffuriau. Helpu’r rhai efo problemau yn hytrach na’u gwneud yn droseddwyr. Rhowch y refeniw treth i’r GIG. I’r dim.
Dadleuol, yn sicr, ond dw i byth wedi deall y cyfreithiau cyffuriau. Ewch ymlaen i ddad-droseddoli. Dydi gwahardd ddim yn gweithio, dim ond yn creu troseddu llawer gwaeth. Mae gwledydd eraill fel Portiwgal yn arwain y ffordd ac mae’r canlyniadau’n drawiadol.
Yna disgrifiodd neges trydar gan y grŵp pwyso LEAP UK fel synnwyr cyffredin oedd yn dweud: “Wedi blynyddoedd yn ymladd a methu â ennill y #RhyfelarGyffuriau, sylweddolodd ein haelodau ein bod yn rhan o’r broblem, nid yr ateb. Os ydym am gymryd rheolaeth yn ôl oddi wrth Droseddwyr Trefnedig, mae angen i ni reoleiddio pob cyffur yn gyfreithlon. Ar hyn o bryd y gangiau cyffuriau sydd â’r holl bŵer.”
Ymatebodd Arfon Jones i Gary Lineker gan ddweud: “Mae hyn yn hollol gywir, byddai rheoleiddio cyffuriau yn lleihau troseddu trefnedig yn aruthrol. Diolch am eich cefnogaeth.”
Cafodd ateb y Comisiynydd dderbyniad da gan y darlledwr chwaraeon a wnaeth ail-drydar ei neges.
Dywedodd Mr Jones, sy’n gyn arolygydd heddlu: “Rwy’n croesawu’n fawr agwedd synnwyr cyffredin Gary Linker tuag at fater cyffuriau.
Mae wedi bod yn glir i mi ers tro bod y rhyfel honedig yn erbyn cyffuriau wedi methu ac felly mae’n rhaid i ni feddwl y tu allan i’r bocs gyda synnwyr cyffredin a phragmatiaeth er mwyn i ni allu datrys y broblem hon unwaith ac am byth. Nid yw parhau i wneud yr un camgymeriadau dro ar ôl tro yn gwneud unrhyw synnwyr.
Ar hyn o bryd, yr hyn y mae pawb yn ei wneud yw trin symtomau camddefnyddio sylweddau a bod yn gaeth i gyffuriau yn hytrach na mynd i’r afael â’r achosion gwaelodol.
Dylem fod yn trin bod yn gaeth i gyffuriau fel mater iechyd cyhoeddus yn hytrach na mater troseddol.
Fedrwch chi ddim gorfodi rhywun i gael triniaeth neu adsefydlu nes eu bod yn barod. Dyna yw natur a phŵer dibyniaeth, felly yn y cyfamser, dylem gael pethau ar waith i leihau niwed er mwyn amddiffyn defnyddwyr cyffuriau problemus.
Er enghraifft, gallai sefydlu Ystafell Defnyddio Cyffuriau (DCR) yn Wrecsam lle gall pobl sy’n dioddef o broblemau defnyddio cyffuriau gymryd y cyffuriau eu hunain yn ddiogel mewn amgylchedd glân a allai o bosib achub bywydau, ond a fyddai hefyd yn dod â budd go iawn i’r gymuned.
Byddai llai o nodwyddau wedi eu taflu yn sicrhau strydoedd mwy diogel, tra byddai cyfleusterau mwy glân yn lleihau lledaeniad afiechydon fel HIV. Ar yr un pryd, byddai’r gwasanaethau brys yn gallu cyrraedd yn gyflymach at unrhyw un sydd wedi dioddef gorddos, mynd yn dreisgar dan ddylanwad neu chwistrellu eu hunain yn ddamweiniol.
Yn bwysicach na dim i’r gymuned, gallai Ystafell Defnyddio Cyffuriau leihau troseddu oherwydd byddai’n rhyddhau swyddogion heddlu i ganolbwyntio ar droseddau difrifol, ac ar yr un pryd yn rhoi cyfle i helpu’r rhai sy’n cymryd cyffuriau i fynd i’r afael â materion eraill fel tlodi a digartrefedd.
Y drwgweithredwyr go iawn fan hyn yw’r troseddwyr trefnedig sy’n gyfrifol am yr holl ddioddefaint yma a nhw yw’r rhai y dylem eu targedu â’n holl nerth.”