Skip to main content

Pennaeth heddlu yn canmol gwirfoddolwyr sy'n gwneud archwiliadau ar hap o'r ddalfa

Dyddiad

Dyddiad
custody visits

Mae gwirfoddolwyr annibynnol wedi cynnal cyfres o archwiliadau dirybudd ac ar hap o ystafelloedd cadw a chelloedd yr heddlu ar draws Gogledd Cymru.

Digwyddodd yr ymweliadau ar union yr un amser – 2yp ar ddydd Iau, Mehefin 1 - yn Wrecsam, Llanelwy a Chaernarfon. Cafodd dalfeydd yng Ngogledd Orllewin Lloegr ymweliadau dirybudd ar yr union adeg honno hefyd.

Roedd pob un o’r ymweliadau wedi eu goruchwylio gan swyddfeydd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones, gyda’r nod o gadw golwg ar les pobl sy’n cael eu cadw yn y ddalfa a’r amodau y maen nhw’n cael eu cadw ynddynt er mwyn sicrhau bod popeth yn addas a phriodol.

Dywedodd Mr Jones ei fod yn fodlon gyda’r ffordd yr oedd yr archwiliadau wedi mynd a mynegodd ei ddiolch i’r tîm ymroddedig o wirfoddolwyr a oedd wedi gwneud y gwaith.

Yn ôl Marilyn Jones, cadeirydd Ymwelwyr â’r Ddalfa yng Ngogledd Cymru, nid yw wedi derbyn unrhyw gwynion difrifol gan bobl yn y ddalfa ers iddi ddechrau yn ei rôl wirfoddol.

Meddai: “Er bod yr ymweliadau wedi cael eu cydlynu ar draws Gogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr, mae ymwelwyr â’r ddalfa yn gwneud ymweliadau dirybudd ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos yn rheolaidd. Mae ymwelwyr â’r ddalfa bob amser yn ymweld fel parau a dim ond y ddau ymwelydd yma sy’n gwybod pryd y bydd yr ymweliad nesaf yn cael ei wneud.

“Gyda chaniatâd rhingyll y ddalfa rydym yn mynd i mewn i’r celloedd er mwyn siarad â’r bobl – yn ddynion a merched – sy’n cael eu cadw.

“Byddwn i’n dweud fod tua 90 y cant o bobl yn falch o’n gweld ni ac yn hapus i siarad â rhywun.

“Rydym yn holi amryw o gwestiynau iddyn nhw, er enghraifft a ydyn nhw wedi cael gwybod am eu hawliau, a oes unrhyw un o’u teulu wedi cael gwybod eu bod yn y ddalfa ac a ydyn nhw wedi gofyn am gael gweld cyfreithiwr.

“Rydym hefyd yn gofyn a ydynt yn dymuno gwneud unrhyw gwynion am eu triniaeth yn y ddalfa, a’r mater sy’n cael ei godi fwyaf yn fy mhrofiad i fel arfer yw’r bwyd a diod y maen nhw wedi ei gael.

“Mae nifer eithaf mawr yn dweud wrthym nad ydyn nhw’n deall pam eu bod yn cael eu cadw yn y ddalfa. Fodd bynnag, mae’r rhan fwyaf o bobl - o ystyried yr amgylchiadau y maen nhw’n cael eu hunain - yn dweud eu bod yn fodlon â’u triniaeth a’u bod yn credu bod yr heddlu yn gwneud gwaith da.

“Yna rydym yn llunio adroddiad ysgrifenedig eithaf helaeth ar ein canfyddiadau sydd wedyn yn cael ei basio ymlaen i’n cydlynydd.”

Ychwanegodd: “Yn fy mhrofiad i mae’r rhan fwyaf o’r materion yn cael eu delio â nhw yn syth gan swyddogion a staff y ddalfa.

“Yn yr amser yr wyf i wedi bod yn ymwelydd gwirfoddol nid wyf wedi cael unrhyw beth difrifol yn cael ei godi nad oedd modd delio ag ef yn syth gyda rhingyll y ddalfa heb orfod ei gyfeirio at rywun uwch.

“I’r sawl sy’n cael eu cadw yn y ddalfa rwy’n credu ei fod yn dda cael rhywun hollol annibynnol o’r heddlu yn ymweld â nhw i wneud yn siŵr eu bod yn cael eu trin yn deg.

“Rwy’n teimlo fod y gwaith yn werthfawr ac fel ymwelwyr â’r ddalfa rydym i gyd yn gweithio’n dda gyda’n gilydd ac yn cefnogi ein gilydd, ar hyn o bryd mae yna 22 o ymwelwyr â’r ddalfa yng Ngogledd Cymru.

Dywedodd y Comisiynydd Jones: “Mae hwn yn gynllun ardderchog; mae’n un o fy nyletswyddau statudol i gael cynllun ymweld â’r ddalfa effeithiol ac annibynnol yn ardal yr heddlu.

“Mae’r ymwelwyr yn elfen bwysig o sicrhau diogelwch carcharorion gan ddarparu archwiliad annibynnol o sut y mae pobl a gedwir yn y ddalfa yn cael eu trin.

“Mae’r mwyafrif helaeth o adroddiadau a dderbyniwyd gan ymwelwyr â’r ddalfa yn ganmoliaethus am yr amodau yn y ddalfa.”

Ychwanegodd Mr Jones: “Ni fyddai modd cynnal yr ymweliadau hollol hanfodol hyn heb y gwirfoddolwyr ymroddedig sy’n cytuno i wneud y gwaith, a hoffwn dalu teyrnged iddynt am y gwaith rhagorol y maent yn ei wneud drwy gydol y flwyddyn.”