Dyddiad
Mae pennaeth heddlu wedi croesawu'r penderfyniad gan Heddlu Gogledd Cymru i roi'r gorau i anfon swyddogion heddlu i brotest gwrth-ffracio yn Swydd Gaerhirfryn.
Fel cyn ymgyrchydd gwrth-ffracio roedd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Arfon Jones yn anhapus bod Heddlu’r Gogledd yn anfon swyddogion wrth gefn o ganlyniad i gynnydd mewn protestiadau ar y safle ger Preston.
Ar hyn o bryd mae heddluoedd cyfagos yn helpu Heddlu Swydd Gaerhirfryn wrth i ymgyrchwyr gynnal mis o anufudd-dod sifil.
Yn eu plith mae Heddlu Gogledd Cymru sydd ar hyn o bryd yn anfon rhingyll a chwe heddwas i helpu allan am ail wythnos.
Ond mae Mr Jones wedi dweud wrth yr heddlu i wrthod y cais am bedair wythnos arall o heddweision i wasanaethu yn Preston ar ôl yr wythnos hon.
Disgwylir i’r drilio ddechrau ar y safle erbyn diwedd mis Awst ac mi symudodd Heddlu Swydd Gaerhirfryn i blismona rownd-y-cloc er mwyn "sicrhau diogelwch protestwyr, staff a'r cyhoedd."
Mae'r safle, yn gyfrifoldeb cwmni ynni Cuadrilla, wedi bod yn ganolbwynt protestiadau dyddiol ers mis Ionawr.
Dywedodd Mr Jones: "Fel ymgyrchydd amgylcheddol cyn cael fy ethol yn Gomisiynydd Heddlu a Throsedd rwyf wedi gwrthwynebu ffracio gan fy mod yn ystyried ei fod yn berygl mewn sawl ffordd, ond yn bennaf oherwydd llygredd dŵr posib.
"Roeddwn yn aelod blaenllaw o Frack Free Wrecsam a fu’n ymgyrchu'n gryf ac yn y diwedd yn llwyddiannus i atal IGAS rhag cynnal drilio archwiliol yn Borras.
"Roeddwn yn amlwg yn lobio Llywodraeth Cymru i gyhoeddi moratoriwm ar ffracio yng Nghymru a gwnaed hynny a byddaf yn parhau i lobïo i ddefnyddio pwerau newydd a ddirprwyir iddynt dros ynni i wahardd ffracio yn unol â gwledydd eraill yn Ewrop hefyd.
"Dywedwyd wrthyf bod Heddlu Gogledd Cymru yn anfon swyddogion i Preston i gynorthwyo Heddlu Swydd Gaerhirfryn wrth blismona'r brotest yn erbyn ffracio gan Cuadrilla.
"Mae'r heddlu yn ymwybodol fy mod yn anhapus, ond roedd yn benderfyniad gweithredol nad oes gennyf unrhyw reolaeth drosto gan fod cymorth ar y cyd rhwng heddluoedd yn cael ei ddarparu fel rhan o'r cytundeb cenedlaethol ar ofynion plismona strategol.
"Dywedwyd wrthyf yr wythnos diwethaf na fyddai yna unrhyw swyddogion pellach yn cael eu hanfon ar ôl i mi wneud fy sylwadau ynghylch materion capasiti yn y Gogledd a chwestiynu sut y gellir cyfiawnhau anfon swyddogion i Swydd Gaerhirfryn o dan yr amgylchiadau hynny.
"Rwyf wedi cael gwybod erbyn hyn, mai dim ond un wythnos o gefnogaeth bellach a roddir i Preston ac y bydd Heddlu Gogledd Cymru yn gwrthod cais am bedair wythnos arall o heddlu wrth gefn.
"Pam ddylai swyddogion o Ogledd Cymru gael eu hanfon at ardal heddlu arall hwyluso gweithgaredd lle mae'r gweithgaredd fwy neu lai yn anghyfreithlon yn eu gwlad eu hunain?
"Mae'r penderfyniad i beidio ag anfon mwy o swyddogion o Ogledd Cymru ar ôl wythnos hon i'w briodoli i nifer o ffactorau, un elfen yn unig yw fy ngwrthwynebiad. Rwy’n amau bod y brif ffactor yn ymwneud â materion capasiti o fewn Heddlu Gogledd Cymru yn ystod gwyliau'r haf."
Cuadrilla, a gafodd ganiatâd i weithio ar y safle gan Ysgrifennydd Cymunedau Llywodraeth y DU Sajid Javid yn 2016, a dywedwyd bod y drilio i fod i ddechrau yn yr haf gyda ffracio i ddilyn ychydig fisoedd yn ddiweddarach.
Byddai'n golygu drilio creigiau siâl yn llorweddol am y tro cyntaf yn y DU fod yn, proses sydd wedi sbarduno pryderon amgylcheddol.