Dyddiad
Dywed pennaeth heddlu fod cefnogwyr pêl-droed ledled y wlad yn cael eu herlid ar gam oherwydd deddfwriaeth a adeiladwyd ar gelwydd a ddywedwyd wrth ymchwiliad Hillsborough.
Yn ôl Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones, sy’n un o gefnogwyr ffyddlon Wrecsam, mae’n hen bryd diwygio’r cyfreithiau sy’n effeithio ar gefnogwyr pêl-droed yng ngoleuni’r datgeliadau diweddar bod llawer o’r dystiolaeth a roddwyd i’r ymchwiliad gwreiddiol yn ffug.
Arweiniodd Mr Jones ymgyrch lwyddiannus i ryddhau’r gêm ddarbi rhwng Wrecsam a chlwb pêl-droed Caer o’r cyfyngiadau ‘swigen’ a roddwyd ar gefnogwyr timau oddi cartref wrth deithio yn ôl ac ymlaen i’r gemau.
Bellach mae wedi troi ei sylw at y cyfyngiadau ehangach ar gefnogwyr a ddaeth yn rhan o’r gyfraith yn dilyn Adroddiad Taylor i drasiedi gêm gyn-derfynol Cwpan FA Lloegr yn Hillsborough, Sheffield yn 1989 pan fu farw 96 o gefnogwyr Lerpwl.
Mae’r Comisiynydd, sy’n ddeilydd tocyn tymor gyda Wrecsam ac sy’n aelod o’r consortiwm cefnogwyr sy’n berchen ar y clwb, yn awr wedi ysgrifennu at y Ffederasiwn Cefnogwyr Pêl-droed yn gofyn i’r mater gael ei godi yng nghyfarfod nesaf y Grŵp Seneddol Trawsbleidiol Cefnogwyr Pêl-droed ar y 1af o Fai.
Meddai: “Yn fy marn i, mae’r cyfreithiau a luniwyd yn dilyn Hillsborough yn rhoi gormod o gyfyngiadau ar ryddid cefnogwyr pêl-droed o’i gymharu â dilynwyr chwaraeon eraill ac fe’u lluniwyd ar gyfer yr oes o’r blaen.
Cyflwynwyd y ddeddfwriaeth yma ar ôl Hillsborough yn dilyn argymhellion Adroddiad Taylor, ond erbyn hyn rydym yn gwybod bod llawer o’r dystiolaeth a roddwyd i’r ymchwiliad dan arweiniad yr Arglwydd Ustus Taylor yn ffug ac yn gamarweiniol.
Dylid adolygu’r ddeddfwriaeth yng ngoleuni’r ffeithiau a ddaeth yn wybyddus yn dilyn sawl cwest i farwolaethau’r cefnogwyr anffodus hynny, cwestau a gynhaliwyd yn unig oherwydd y frwydr dros gyfiawnder a ymladdwyd gan deuluoedd cefnogwyr Lerpwl.
Mae cefnogwyr pêl-droed wedi cael eu herlid ar gam oherwydd y celwyddau noeth gafodd eu dweud wrth yr ymchwiliad a dylem bellach fod yn creu gwell deddfwriaeth, yn enwedig o ran cyfyngiadau teithio.”
Y tymor hwn daeth y cyfyngiadau ‘swigen’ ar gemau Wrecsam v Chester i ben, ond cyn hynny roedd yn rhaid i gefnogwyr oddi cartref deithio i’r gêm ar gludiant dynodedig –fel arfer bysiau’r clwb - o fannau codi penodol er bod caeau chwarae’r ddau glwb ond cwta 14 milltir oddi wrth ei gilydd.
Dywedodd Mr Jones, a oedd wedi gofyn ymlaen llaw i gefnogwyr y ddau dîm osod esiampl, fod y ffaith i’r gemau, sydd ymysg y ffyrnicaf rhwng clybiau pêl-droed gwledydd Prydain, wedi cael eu cynnal heb unrhyw ddigwyddiad o bwys yn cadarnhau ei ddadl.
Ychwanegodd: “Un o’m haddewidion etholiad pan oeddwn i’n sefyll i fod yn Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru oedd rhoi’r gorau i’r cyfyngiadau hyn ar ryddid cefnogwyr i symud, gan fod y mwyafrif helaeth ohonynt yn ymddwyn yn gyfreithlon.
“Cafodd y cyfyngiadau eu hatal y tymor hwn ac ni ddigwyddodd unrhyw drychineb ymysg cefnogwyr, y clybiau na’r heddlu.
“Mae llawer o gefnogwyr wedi cael llond bol ar gael eu trin fel troseddwyr. Wedi’r cyfan teithio a chefnogi digwyddiad chwaraeon y maen nhw nid tarfu ar y drefn gyhoeddus.”