Dyddiad
Mae pennaeth heddlu yn bwriadu lansio ymgyrch newydd i leihau troseddau yn erbyn merched yn Wrecsam a gwneud y dref yn lle mwy diogel iddyn nhw.
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin, wedi sicrhau cyllid ychwanegol o £339,000 er mwyn ceisio cael gostyngiad o 10 y cant yn nifer y troseddau sy'n ymwneud â thrais yn erbyn merched.
Bydd y fenter Strydoedd Mwy Diogel yn cynnwys gwella teledu cylch cyfyng, creu lleoedd mwy diogel i ferched ynghyd â darparu hyfforddiant ac addysg.
Yn gynharach eleni llwyddodd Mr Dunbobbin i gael £500,000 ychwanegol i ariannu ymgyrch uwch-dechnoleg mewn mannau troseddu problemus ym Mae Colwyn a Bangor.
Gweithiodd y Comisiynydd a'i dîm yn agos gyda Heddlu Gogledd Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a phartneriaid eraill i lunio cais Wrecsam er mwyn targedu troseddau fel treisio a throseddau rhywiol eraill, stelcio ac aflonyddu a throseddau sy'n ymwneud â thrais.
Lluniwyd y cynllun er mwyn mynd i’r afael â phryderon merched a gafodd eu hamlygu mewn arolwg a gynhaliwyd gan Heddlu Gogledd Cymru.
Un o’r canfyddiadau oedd nad oedd merched yn teimlo'n ddiogel yn y dref gyda'r nos, mewn bariau a chlybiau nos ac mewn tacsis.
Ymysg y pryderon sylweddol eraill oedd chwibanu a gweiddi aflednais a’r sylwadau rhywiol a gyfeiriwyd at ferched.
Dywedodd llawer nad oeddent wedi rhoi gwybod i’r heddlu am hyn oherwydd nad oeddent yn credu y gellid gwneud unrhyw beth yn ei gylch gan ei fod “bron â dod yn ymddygiad derbyniol”.
Yn ôl Mr Dunbobbin, mae’n benderfynol o fynd i’r afael â’r materion a godwyd yn uniongyrchol.
O ganlyniad, bydd camerâu teledu cylch cyfyng ychwanegol a goleuadau gwell yn cael eu gosod a bydd y cynllun yn cynnwys darparu hyfforddiant i weithwyr gyda’r nos yn Wrecsam i atal trais rhywiol fel rhan o'r Ymgyrch Noson Allan Dda.
Rhoddir hyfforddiant ychwanegol i Fugeiliaid Stryd Wrecsam a gwirfoddolwyr Stryt yr Hôb sy'n gofalu am bobl fregus yn ystod y nos yn y dref.
Bydd y cwrs yn canolbwyntio ar iechyd meddwl, cymorth cyntaf, atal hunanladdiad a rhoi cyngor ar yfed alcohol.
Fel rhan o'r cynllun, bydd Eglwys Stryd Gobaith yn creu mwy o fannau diogel a fydd hefyd yn gallu cyfeirio pobl agored i niwed fel y gallant gael gafael ar wasanaethau cymorth.
Mae'r eglwys hefyd eisiau hyfforddi aelodau i ddod yn Fugeiliaid Stryd.
Yn y cyfamser, bydd canolfan lesiant Hafan y Dre ar agor nos Wener yn ogystal ag ar ddydd Sadwrn.
Defnyddir yr arian hefyd i dalu am ffilm addysgol fer sy'n canolbwyntio ar fater cydsyniad a chanlyniadau troseddu rhywiol.
Dywedodd Mr Dunbobbin: “Rwy’n falch iawn fy mod wedi gallu sicrhau’r cyllid ychwanegol hwn a hoffwn dalu teyrnged i’r tîm gwych yn fy swyddfa a’n partneriaid am yr help y maen nhw wedi’i roi wrth baratoi’r cais llwyddiannus hwn.
“Cadw pobl yn ddiogel yw’r brif flaenoriaeth ar gyfer plismona a diogelu menywod a merched sy’n agored i niwed yn rhan allweddol o fy Nghynllun Heddlu a Throsedd sy’n amlinellu’r cynllun cyffredinol ar gyfer plismona gogledd Cymru.
“Ar yr un pryd mae’n hanfodol ein bod yn mynd i’r afael ag agweddau ac ymddygiadau misogynistaidd mewn cymdeithas.
“Mae troseddau yn erbyn merched yn cael eu cyflawni gan ddynion a dynion yn y pen draw sydd â’r cyfrifoldeb i newid.
“Dyna pam, ochr yn ochr â'r mesurau pwysig eraill rydyn ni'n eu cymryd, mae gan hyfforddiant ac addysg ran mor hanfodol i'w chwarae.
“Nod yr ymgyrch benodol hon ar gyfer Strydoedd Mwy Diogel yn Wrecsam yw lleihau nifer y troseddau yn erbyn merched 10 y cant - a byddai hynny'n ddechrau rhagorol.”