Skip to main content

Pennaeth heddlu yn ymladd pedoffiliaid ar-lein

Dyddiad

Dyddiad
PCC ONYX-9

Yn ôl pennaeth heddlu mae troseddau rhyw yn erbyn plant yn digwydd ar raddfa  llawer mwy nag y mae pobl yn ei feddwl gydag apiau fel Snapchat yn galluogi pedoffiliaid i ddarganfod lleoliad targedau posibl.

 Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Arfon Jones wedi dychryn bod gan Snapchat, yr ap negeseuon lluniau poblogaidd, ddyfais fapio sy’n dangos yn union lle mae’r plentyn oni bai bod y gosodiadau preifatrwydd wedi eu rhoi ymlaen.

 Roedd Mr Jones yn siarad ar ôl ymweld â thîm Onyx, a sefydlwyd gan Heddlu Gogledd Cymru yn 2015, er mwyn mynd i’r afael â phob math o gam-fanteisio’n rhywiol ar blant.

 Galwodd ar rieni i fod yn fwy gwyliadwrus ac i gadw golwg ar yr hyn y mae eu plant yn ei wneud ar-lein, yn ogystal â sicrhau bod eu gosodiadau preifatrwydd mewn modd “ysbryd” fel na all troseddwyr ysglyfaethus ddarganfod lle maent.

 Daeth yr apêl gan Gomisiynydd yr heddlu yn fuan ar ôl y newyddion bod Crissy Teigen, cyflwynydd y sioe deledu boblogaidd Lip Sync Battle, wedi gadael Snapchat.

 Yn gynharach eleni, dilëwyd £1 biliwn oddi ar bris cyfranddaliadau Snapchat ar ôl i Kylie Jenner, seren teledu realiti America, drydar i’w 24.5 miliwn o ddilynwyr ei bod hi’n rhoi’r gorau i ddefnyddio’r ap.

 Yn ôl Mr Jones, mae mynd i’r afael a cham-fanteisio’n rhywiol ar blant yn un o’r prif flaenoriaethau yn ei Gynllun Heddlu a Throsedd sy’n gosod ei strategaeth gyffredinol ar gyfer plismona yn y Gogledd.

Mi wnaeth y Comisiynydd addo rhoi’r adnoddau angenrheidiol i’r tîm er mwyn amddiffyn plant rhag cael eu rhwydo gan droseddwyr ar-lein.

Meddai: “Does dim pwysicach na chadw plant yn ddiogel ac mae’n hanfodol bwysig ein bod ni’n addysgu plant am y peryglon sy’n llechu ar-lein a sut y gallant eu hosgoi.

Ar yr un pryd, mae angen i rieni fod yn ymwybodol o’r hyn y mae eu plant yn ei wneud ar y cyfryngau cymdeithasol a sicrhau bod gosodiadau preifatrwydd wedi cael eu rhoi ymlaen bob amser.

Mae gan gwmnïau cyfryngau cymdeithasol gyfrifoldeb hefyd o ran sut mae eu apiau’n cael eu defnyddio, gan dynnu unrhyw ddelweddau anaddas a chau cyfrifon.

Ond yn y tymor hir yr unig ffordd i atal hyn rhag digwydd yw addysgu plant a rhieni a pheidio â rhannu delweddau gyda phobl nad ydynt yn eu hadnabod.”

Datgelodd y Ditectif Rhingyll Sarah Fellows, sy’n arwain tîm Onyx, eu bod ar hyn o bryd yn rheoli 79 o blant ledled gogledd Cymru sydd mewn perygl o ddioddef cam-fanteisio rhywiol.

Dywedodd: “Ein swyddogaeth ni yw gwella’r ffordd rydym yn adnabod yn gynnar y plant hynny a allai fod mewn perygl o ddioddef cam-fanteisio rhywiol a gweithio gyda’n partneriaid i roi ymyrraeth amserol a gweithredu effeithiol ar waith.

Rydym hefyd yn gweithio i adnabod y rhai a ddrwgdybir o fod yn droseddwyr a phwy allai fod yn droseddwyr yn gynnar er mwyn i ni allu amharu, ymchwilio, ac, os yn bosib, erlyn y bobl yma.

Mae ein gwaith nid yn unig yn ymwneud ag ymchwilio i droseddau. Rydym yn edrych ar y plant eu hunain a’r hyn sy’n digwydd yn eu bywydau er mwyn adnabod y rhai a allai fod mewn perygl posibl. Yna, rydym yn gweithio efo asiantaethau eraill i’w diogelu.

Gallai hynny gynnwys erlyniadau, y gwasanaethau cymdeithasol yn gwneud gwaith gyda’r plant neu gynnwys y plant mewn gweithgareddau gwahanol.

Mae angen i bob rhiant edrych ar ddyfeisiau eu plant a gweld beth maen nhw’n ei ddefnyddio a beth yw eu gosodiadau.

Er enghraifft, mae gan Snapchat bellach ddyfais mapio sy’n eich galuogi i weld lle yn union y mae’r plentyn. Felly, oni bai bod y modd “ysbryd” yn cael ei roi ymlaen, bydd pawb sydd ar Snapchat gyda’r plentyn hwnnw yn gwybod sut i ddod o hyd i leoliad y plentyn.

Gall y peth gynyddu’n gyflym iawn, dim ond wrth sgwrsio, a bydd troseddwyr yn gofyn cwestiynau arweiniol yn gynnar yn y sgwrs, gan brofi’r dŵr i weld pa mor bell y maen nhw’n gallu mynd.

Yna unwaith y maen nhw’n meddwl bod plentyn yn cymryd rhan mewn sgwrs, efallai y gofynnir iddyn nhw gyfnewid delweddau neu ofyn am gael cyfarfod.

Weithiau gall y delweddau fod yn rhai diniwed i ddechrau, ac yna caiff y ffiniau eu gwthio.

Byddem yn gofyn i unrhyw un sydd ag unrhyw bryderon am blentyn y maen nhw’n ei nabod, neu wybodaeth a allai fod yn ddefnyddiol, i gysylltu efo Heddlu Gogledd Cymru.”

Ychwanegodd Mr Jones, sy’n gyn-arolygydd heddlu, fod gwaith tîm Onyx wedi datgelu iddo bod graddfa cam-fanteisio’n rhywiol ar blant yn fwy nag y gallai unrhyw un ei ddychmygu.

Dywedodd: “Mae twf troseddau cymhleth fel hyn yn un o’r prif newidiadau rwyf wedi eu gweld ers i mi fod yn y swydd.

Mae pobl yn dweud, os na fyddwn yn arestio, cyhuddo a dedfrydu troseddwyr ein bod ni wedi methu.

Dydw i ddim yn cytuno â hynny oherwydd os ydych chi’n diogelu’r dioddefwr mae hynny’n ganlyniad ynddo’i hun, nid mater o gael pobl i’r llys yw hi bob amser.

Rwy’n credu bod yn rhaid i ni gael mesurau llwyddiant gwahanol lle mae gan addysg a chodi ymwybyddiaeth ran flaenllaw i’w chwarae.

Bydd bob amser yn llawer gwell os gallwn atal plentyn rhag dioddef niwed yn y lle cyntaf.”