Dyddiad
Mae pennaeth heddlu yn bwriadu ysgrifennu at y Prif Weinidog i alw am ddiwygiadau brys ar ôl i ffigyrau newydd brawychus ddangos bod marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau wedi cyrraedd y lefelau uchaf erioed - gyda marwolaethau yn cynyddu’n gyflymach yng Nghymru na gweddill y DU.
Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones, ei bod yn “sgandal genedlaethol” bod pobl yn marw’n ddiangen oherwydd bod llywodraethau olynol wedi gwrthod cydnabod bod angen ymagwedd newydd radical.
Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, roedd y mwyafrif o farwolaethau oherwydd opiadau fel heroin, ond fe ddyblodd marwolaethau sy'n gysylltiedig â chocên mewn tair blynedd ac roedd marwolaethau sy'n gysylltiedig ag MDMA hefyd ar eu lefel uchaf erioed.
Datgelwyd bod cyfanswm o 4,359 o bobl wedi marw yn y DU oherwydd gwenwyn cyffuriau y llynedd - cynnydd o 16 y cant ar y ffigur ar gyfer 2017.
Dyblodd marwolaethau sy'n gysylltiedig â sylweddau seicoweithredol newydd - a oedd yn cael eu hadnabod fel “cyffuriau penfeddwol cyfreithlon”nes iddynt gael eu gwahardd yn 2016 - mewn blwyddyn i 125. Cododd marwolaethau sy'n gysylltiedig ag MDMA o 56 i 92.
Yng Nghymru yn 2018 bu 327 o farwolaethau yn sgil gwenwyn cyffuriau, cynnydd o 26 y cant o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
Achoswyd hanner y marwolaethau yng Nghymru gan opiadau ac roedd 65 y cant o'r rhai a fu farw yn ddynion.
Rhwng 2016 a 2018 bu farw 98 o bobl yng ngogledd Cymru o ganlyniad i gamddefnyddio cyffuriau - gyda'r nifer uchaf o farwolaethau yng Ngwynedd, gyda Sir y Fflint yn ail agos o ran niferoedd y marwolaethau.
Dywedodd Mr Jones, bod cyfradd marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau yn y DU bellach fwy na dwbl y cyfartaledd Ewropeaidd, a 12 gwaith yn fwy na chyfradd Portiwgal a gyfreithlonodd bod ym meddiant cyffuriau yn 2001.
Dywedodd Mr Jones, sy’n gyn-arolygydd heddlu: “Mae’r rhyfel bondigrybwyll yn erbyn cyffuriau wedi methu ers 30 mlynedd ac fe’i tynghedwyd i barhau i fethu.
Mae angen ymagwedd bragmatig, synnwyr cyffredin newydd arnom sy’n trin defnydd problemus o gyffuriau fel mater meddygol ac nid fel mater troseddol.
Rwy’n bwriadu ysgrifennu at Boris Johnson yn gofyn iddo edrych eto ar gyfreithiau cyffuriau hynafol y DU fel mater o frys.
Dylai ddilyn y dystiolaeth ac edrych ar yr hyn a ddigwyddodd mewn gwledydd fel Portiwgal lle cafodd cyffuriau eu dad-droseddoli.
O ganlyniad, bu gostyngiadau dramatig yn y cyfraddau problemus o ran y cyffuriau a ddefnyddir, cyfraddau heintio HIV a hepatitis a marwolaethau oherwydd gorddos cyffuriau.
Mantais arall oedd bod troseddau cysylltiedig â chyffuriau wedi lleihau. Os ydych yn tynnu'r elfen droseddol allan, rydych yn tynnu’r gangiau troseddau cyfundrefnol allan o'r darlun hefyd.”
Hoffwn weld cynllun peilot yn cael ei sefydlu yng ngogledd Cymru i roi heroin ar bresgripsiwn i bobl sydd â defnydd problemus o gyffuriau, tebyg i’r cynllun a gafodd ei sefydlu yn Cleveland yn yr hydref.
Yno, rhoddir heroin gradd feddygol - diamorffin - iddynt mewn canolfannau arbennig lle gallant chwistrellu eu hunain ddwywaith y dydd, saith diwrnod yr wythnos.
Amcangyfrifwyd y byddai cynllun o’r fath yn costio tua £12,000 y flwyddyn ar gyfer pob defnyddiwr sy'n gaeth i'r cyffur, sef cyfran fechan iawn o gost y drosedd y maent yn ei chyflawni.
Rwy’n credu y dylai peilot yng ngogledd Cymru gael ei ariannu gan y Bwrdd Cynllunio Ardal, sydd, ynghyd â’r Bwrdd Iechyd, â chyllideb flynyddol o £10 miliwn y flwyddyn i’w wario ar gynlluniau a fwriadwyd i frwydro yn erbyn cam-drin sylweddau, gan gynnwys alcohol.”
Mae Mr Jones eisoes yn y broses o sefydlu prosiect arloesol i ddargyfeirio troseddwyr “lefel isel” i ffwrdd o fywyd o droseddu a’u cadw ar y llwybr cul.
Bydd rhaglen Checkpoint Cymru yn cael ei lansio ym mis Hydref mewn ymgais i dorri cyfraddau troseddu a lleihau aildroseddu.
Yn ôl Mr Jones, sy’n gyn arolygydd heddlu, bydd hefyd yn rhyddhau mwy o amser yr heddlu a'r llys.
Datblygwyd y cysyniad gan Brifysgol Caergrawnt ac mae eisoes ar waith yn Durham lle mae wedi bod yn hynod effeithiol.
Er bod angen gwerthuso'r ffigurau yn Durham yn ffurfiol o hyd, maent yn dangos gostyngiad mawr mewn cyfraddau aildroseddu, o 30 y cant i lawr i 18 y cant, gyda dim ond pump y cant o'r rhai sy'n cymryd rhan yn methu â chwblhau'r rhaglen.
Ar yr un pryd, bydd Mr Jones hefyd yn cyflwyno menter arall yn seiliedig ar brosiect peilot gwahanol, sef Rhaglen Cyffuriau Bryste, sydd wedi bod yr un mor llwyddiannus.
Bydd pobl sy'n cael eu dal â symiau bach o gyffuriau yn cael eu harwain tuag at gyrsiau ymwybyddiaeth addysgol sy'n debyg mewn egwyddor i gyrsiau ar gyfer gyrwyr sy'n cael eu dal yn goryrru a gall y rhai sy'n cymryd rhan osgoi euogfarn droseddol.
Dywedodd y comisiynydd: “Mae tystiolaeth wedi dangos bod gan gyfran uchel o droseddwyr broblemau sylfaenol fel camddefnyddio sylweddau, iechyd meddwl, problemau ariannol neu broblemau tai sydd â’u gwreiddiau mewn profiadau trawmatig.
Trwy fynd i’r afael ag achosion sylfaenol eu hymddygiad troseddol mae’r rhai sy’n ymuno â’r rhaglen yn llai tebygol o aildroseddu fel y mae rhaglen Durham wedi dangos yn glir.”
Mae llawer o’r bobl sy’n mynd yn groes i’r gyfraith yn ddioddefwyr eu hunain a bydd gan lawer ohonynt fwy nag un broblem felly mae’n cymryd ymagwedd gyfannol tuag at sefyllfa unigolyn ac yn cynnal asesiad o anghenion fel y gallant gael cefnogaeth briodol i oresgyn eu problemau.”