Dyddiad
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru wedi gwobrwyo prosiect yn y Rhyl sydd wedi helpu i gadw plant mor ifanc â chwech oed rhag troi tuag at ymddwyn yn wrthgymdeithasol a throseddau lefel isel.
Mae cynllun Marsialiaid Gorllewin y Rhyl wedi ennill gwobr Pobl Ifanc yng Ngwobrau Cymunedol Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru. Erbyn hyn mae’r cynllun yma yn ei 10fed flwyddyn ac wedi gweithio gyda hyd at 70 o bobl ifanc sydd mewn perygl difrifol o fynd i droseddu.
Cafodd y cynllun ei drefnu a’i redeg ers 2008 gan yr Heddwas Steve Edwards, sy’n rheolwr rhawd cymunedol. Cafodd rhai o’i farsialiaid ifanc eu cyflwyno efo’r wobr gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Arfon Jones, mewn seremoni ddisglair yng Ngwesty’r Celt, Caernarfon.
Bydd y prosiect hwn yn cael plant i gymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol fel casglu sbwriel, garddio a phaentio ffensys, ac uchafbwynt y cyfan yw taith gerdded flynyddol ar yr Wyddfa. Mae wedi arwain at ostyngiad yn yr adroddiadau o bobl ifanc yn ymddwyn yn wrthgymdeithasol a throseddu lefel isel fel lladrad a fandaliaeth, mewn ardal sy’n un o’r rhai mwyaf difreintiedig yng Nghymru.
Y syniad tu ôl i Farsialiaid Gorllewin y Rhyl oedd cael plant i gymryd rhan ynddo cyn iddyn nhw efallai fynd i ddechrau troseddu, ac annog balchder ynddyn nhw yn eu cymuned eu hunain. Wrth wneud hynny mae wedi helpu i leihau’r pwysau ar yr heddlu yn y rheng flaen.
Dywedodd Arfon Jones: “Roeddwn i’n aelod o’r Heddlu ar yr un adeg â Steve. Mae’r gwaith mae o wedi ei wneud efo pobl ifanc yn y Rhyl dros lawer o flynyddoedd yn glod mawr iddo fo a’i dîm ifanc, a diolch i Steve mae’r Marsialiaid wedi parhau i lwyddo a gwella.
Maen nhw wedi cael effaith gadarnhaol o ddifri ar y gymuned yng Ngorllewin y Rhyl. Mae ganddyn nhw falchder yn y gweithgareddau, sy’n amrywio o gasglu sbwriel i wneud arolwg o dipio sbwriel yn anghyfreithlon, a hynny wedi helpu’r cyngor lleol i gymryd camau i lanhau’r strydoedd.”
Cafodd gwaith y grŵp ei gydnabod o’r blaen hefyd, gan Gadw Cymru’n Daclus ac Uchel Siryf Clwyd. Mae’r Heddwas Edwards yn hynod falch fod y Comisiynydd yn awr wedi cydnabod eu hymdrechion.
Dywedodd Steve: “Rwyf mor falch. Weithiau mi fyddwch yn meddwl a ydi beth rydym yn ei wneud yn golygu unrhyw beth i unrhyw un arall.
Felly mae’n ardderchog cael ein cydnabod ac mae hon yn wobr o ddifri i bawb sy’n cymryd rhan, yn enwedig y plant.
Fy nghynllun i fu hwn o’r dechrau, ac rwy’n hynod falch o’r hyn rydym wedi gallu ei wneud. Mae wedi ei gyfeirio mewn gwirionedd at blant sydd mewn perygl o droseddu oherwydd eu hamgylchiadau.
Mae llawer o brosiectau i gadw plant rhag troseddu ond mae'r rheiny bob tro wedi eu cysylltu efo pobl ifanc sy’n troseddu’n barod.
O edrych ar y sefyllfa lle mae rhai ohonyn nhw’n byw, mae risg uchel y byddan nhw’n troi at droseddu lefel isel – lladrad neu fandaliaeth.
Mae plant mor ifanc â chwech neu saith oed wedi bod efo ni, ond yn gyffredinol rhai 8 – 16 oed sydd yma, er ein bod ni weithiau wedi cael oedolion ifanc efo anawsterau dysgu’n dod i gymryd rhan.
Bydd Swyddogion Cefnogaeth Cymunedol yr Heddlu’n enwebu’r plant, a’r syniad ydi i’w cael nhw efo ni cyn iddyn nhw ddod i sylw’r heddlu. Felly y tro cyntaf y byddan nhw’n gweld aelod o’r heddlu mae hynny’n brofiad cadarnhaol yn hytrach na chael eu harestio.”
Mae’r prosiect yn cael arian oddi wrth Grant Trechu Trosedd yr Uchel Siryf, ac fe ddechreuodd fel cynllun dros dro yn ystod gwyliau’r haf ond roedd mor boblogaidd efo’r plant nes iddo ddod i redeg trwy’r flwyddyn.
Dywedodd yr Heddwas Edwards: “Roedd Gorllewin y Rhyl yn un o’r wardiau mwyaf amddifad yng Nghymru, ac mae’n parhau i fod felly. Dwi’n meddwl mai hi oedd yr un fwyaf amddifad ar yr adeg roeddwn i’n dechrau’r prosiect.
Fe ddechreuodd y syniad fel ffordd o leihau nifer y galwadau i’r heddlu am blant yn achosi trafferthion fel ymddygiad gwrthgymdeithasol a mân droseddau lefel isel.
Roedd yr heddlu’n gorfod mynd allan at lawer o’r digwyddiadau hynny. Ein nod oedd lleihau’r galw ar y swyddogion ar y rheng flaen.
Gan fod gwyliau’r haf yn dod mi wnes i awgrymu y dylem wneud rhywbeth am hyn. Felly dyma wneud cais am arian a chreu nifer o ddigwyddiadau wedi eu seilio ar y gymuned fel casglu sbwriel, paentio ffensys ac arolygon stryd.
Mae Gorllewin y Rhyl wedi dioddef llawer efo tipio sbwriel ar y slei mewn lonydd cefn. Y nod yn hyn oedd cael y bobl ifanc i gymryd balchder yn yr ardal lle maen nhw’n byw.
Roeddem hefyd yn eu cael i gymryd nodiadau a thynnu lluniau lle nad oedd goleuadau stryd yn gweithio er enghraifft, ac wedyn bydden nhw’n gyrru adroddiad i’r awdurdod lleol er mwyn cael eu trwsio.
Fel gwobr am eu gwaith, ac am fy mod i’n fynyddwr ac yn gerddwr brwd, fe fyddwn ni’n mynd â nhw i Eryri bob blwyddyn. Maen nhw’n mwynhau llawer ar hynny.
Mi fyddaf fi’n dysgu iddyn nhw sut i ganfod eu ffordd o gwmpas a sgiliau cyfathrebu, yn ogystal â phwysleisio pa mor bwysig ydi gofalu am yr amgylchedd.”
Dywedodd yr Heddwas Edwards bod busnesau yn y Rhyl wedi cefnogi’r prosiect, ac mae o’n dweud bod pobl ifanc yn dechrau gweld y dref mewn ffordd wahanol.
Meddai: “Rydym wedi cael llawer o gysylltiad efo siopau lleol, a’u cael nhw i gefnogi’r cynllun am y bydd yn helpu i atal pobl ifanc lleol rhag dod i’r dref yn ystod y gwyliau ac achosi trafferth.
Bydd busnesau’n rhoi diodydd a bwyd i ni, a hefyd offer i wneud y gwaith.
Gallwch weld y bobl ifanc mewn siacedi llachar yn gwneud llawer o waith cymunedol. Maen nhw’n gallu adeiladu perthynas felly.
Mi wnaeth un dyn ofyn i mi unwaith os mai ‘rhain ydi’r plant drwg’ ac roedd yn syndod iddo pan ddywedais i wrtho mai rhain ydi’r plant da, yn gwneud gwaith cymunedol.
I rai pobl, gallai’r unig brofiad maen nhw wedi ei gael o bobl ifanc fod yn un gwael.
Mae llawer o rieni wedi bod yn wirioneddol gefnogol hefyd. Bydd rhai o’r plant yn dod yma efo ymddygiad reit heriol, felly mae’n bwysig eu bod nhw’n dod allan hefyd a’n bod ni’n cael eu cefnogaeth.
Mae gan rai rhieni blant sydd wedi tyfu’n hŷn a gadael y cynllun erbyn hyn, ond maen nhw’n parhau i gymryd rhan, sy’n beth gwych.”