Dyddiad
Mae clwb pysgota sy’n cadw pobl ifanc oddi ar y strydoedd wrth eu cael i fwynhau pysgota wedi derbyn hwb ariannol – diolch i arian gafodd ei atafaelu gan droseddwyr.
Mae Clwb Pysgota Cei Connah a’r Cylch wedi cynnig pysgota am ddim i tua 200 o blant, o bedwar i 16 oed, drwy eu rhaglen llwyddiannus ‘Pysgota’n Gynnar, Pysgota am Oes’.
Diolch i grant werth £2,500 o gronfa arbennig sy’n cael ei dosbarthu gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Arfon Jones, gall y clwb brynu offer pysgota a diogelwch newydd i’r plant, yn ogystal â defnyddio peth o’r cyllid i wneud gwaith atgyweirio ac ailwampio’r llyn ym Mharc Wepre.
Mae menter Eich Cymuned, Eich Dewis hefyd yn cael ei chefnogi gan Ymddiriedolaeth Heddlu a Chymuned Gogledd Cymru sy’n dathlu eu 21ain pen-blwydd eleni.
Daw’r cyllid ar gyfer y cynlluniau o arian gafodd ei atafaelu gan y llysoedd drwy’r Ddeddf Elw Troseddau gyda’r gweddill yn dod o Gronfa Comisiynydd yr Heddlu.
Mae pob un o chwe sir y rhanbarth wedi derbyn hyd at £2,500 yr un ar gyfer dau grŵp gyda £5,000 yr un hefyd wedi’i neilltuo ar gyfer dau grŵp arall sy’n gweithredu mewn tair neu fwy o siroedd.
Yn ychwanegol eleni, diolch i gyllid ychwanegol gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd a Heddlu Gogledd Cymru, mae dau grant newydd o £10,000 ar gael.
Bwriad y grantiau sylweddol hyn yw ariannu prosiectau sy’n delio â phroblemau sy’n deillio o fygythiad Llinellau Cyffuriau, lle mae pobl ifanc yn cael eu gorfodi a’u bygwth â thrais i gymryd rhan mewn gweithgareddau anghyfreithlon ar draws y rhanbarth.
Roedd tua 15,000 wedi bwrw pleidlais ar-lein i benderfynu pa un o’r cynlluniau cymunedol ddylai dderbyn cefnogaeth, a chyflwyniad sieciau i’r 19 ymgeisydd llwyddiannus ym Mhencadlys Heddlu Gogledd Cymru ym Mae Colwyn.
Ymwelodd Mr Jones â’r llyn pysgota ym Mharc Wepre ac yno hefyd oedd y cynghorwyr lleol Ian Dunbar a Paul Shotton yn ystod un o’u cymorthfeydd stryd rheolaidd.
Dywedodd dirprwy gadeirydd y Clwb Pysgota Alan White fod y grant yn hwb mawr i’r clwb sydd angen cyfanswm o £37,000 i gwblhau’r gwaith o ailwampio Llyn Rosie.
Eglurodd: “Mae’r arian yma’n help mawr ac mae’n ddechrau da i ni. Mae’r llyn, y dŵr a’r stoc o bysgod yn cael ei gynnal yn dda ond mae’r isadeiledd yn 25 mlynedd oed.
Mae’r llwyfannau pysgota yn dadfeilio ac mae angen rhai newydd. Mae hyn hefyd yn wir am y llwybrau. Mae miloedd o bobl yn ymweld â’r parc bob blwyddyn ac maent yn aml yn mynd am dro o amgylch y llyn.
Byddwn yn defnyddio peth o’r arian ar gyfer offer i blant a chylchoedd diogelwch. Rydym hefyd am brynu ail gamera diogelwch.”
Dywedodd Alan fod llwyddiant y rhaglen Pysgota’n Gynnar, Pysgota am Oes, sy’n rhedeg yn ystod gwyliau’r haf, wedi gwneud y clwb yn awyddus i’w gyflwyno yn ystod adegau gwyliau ysgol eraill neu hyd yn oed yn ystod y tymor ysgol.
Mae hefyd yn gobeithio creu rhaglen debyg i bobl sydd wedi ymddeol, pobl anabl a chyn-filwyr a merched er mwyn darparu lle i gymdeithasu.
Dywedodd Alan: “Rydym yn cael plant oddi ar gorneli’r strydoedd ac i ffwrdd o gymdogion blinderus neu du ôl i gyfrifiaduron ac i mewn i chwaraeon.
Mae rhai pobl ifanc a fyddai fel arfer yn creu difrod wedi dechrau mwynhau pysgota. Mae’n lleddfol iawn ac yn wych i’ch iechyd corfforol a’ch iechyd meddwl.
Mae yna awyrgylch ymlaciol ac rydych wedi eich amgylchyni gan fywyd gwyllt. Mae’n ffordd wahanol o fyw.
Mae aelodau’r pwyllgor a’r beilïaid yn rhoi o’u hamser rhydd i redeg y rhaglen. Rydym yn dangos iddyn nhw sut i glymu bachau a rhoi abwyd ar y bachau - mwy neu lai holl elfennau pysgota.
Mae’n fenter dda iawn. Pan rydych yn gweld wynebau’r plant gallwch weld eu bod nhw wrth eu boddau. Gall rhieni ddod gyda nhw a chael hwyl hefyd.
Gallwch weld y newid mewn pobl. Maen nhw’n dod nôl ac ymuno â’r pysgotwyr ifanc neu’r pysgotwyr hŷn oherwydd mae’n fan cyfarfod a rhywle i gymdeithasu.”
Y prosiectau llwyddiannus eraill yn Sir y Fflint yw Llwyddiant am Oes gan Cobra Life yn Shotton a dderbyniodd £2,489, a Rainbow Biz Ltd, sydd hefyd wedi eu lleoli yn Shotton ac sy’n gweithio gyda’r gymuned LHDT yn Sir y Fflint, a dderbyniodd £2,500.
Mae Cobra Life wedi datblygu rhaglen i helpu pobl ifanc i wella eu ffitrwydd, llesiant a sgiliau bywyd tra bod Rainbow Biz yn bwriadu sefydlu grwpiau LHDT i bobl ifanc rhwng 13 a 19 oed i’w cadw nhw’n ddiogel a’u gwneud nhw’n ddigon hyderus i adrodd achosion o droseddau casineb.
Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru Arfon Jones, a gyflwynodd y wobr ar y cyd gyda’r Prif Gwnstabl Cynorthwyol newydd Sacha Hatchett: “Rwy’n falch iawn fod cronfa Eich Cymuned Eich Dewis yn parhau i gefnogi prosiectau cymunedol ar draws gogledd Cymru am y seithfed flwyddyn yn olynol.
Mae’r gronfa unigryw yma’n caniatáu i’n cymunedau benderfynu pa brosiectau ddylai gael cefnogaeth ariannol drwy ein system pleidleisio ar-lein ac mae’r ymateb wedi gweld bron i 15,000 o aelodau’r cyhoedd yn pleidleisio dros gyfanswm o 30 prosiect.
Mae’r prosiectau yma’n cefnogi fy Nghynllun Heddlu a Throsedd sydd â´r pwrpas o sicrhau fod Heddlu Gogledd Cymru yn rhoi sylw penodol i’r pwyntiau hynny sydd wedi cael eu hadnabod fel rhai hanfodol gennyf i, y cyhoedd, ac yn wir yr heddlu ei hunain.
Bydd nifer ohonoch yn ymwybodol o’r ymgynghoriad Trydydd Sector diweddar a gynhaliwyd gen i, sydd wedi arwain at ddiweddaru fy mlaenoriaethau i gynnwys y ffyrdd rydym yn delio gyda thueddiadau sy’n dod i'r amlwg gan gynnwys Troseddu Cyfundrefnol a cham-fanteisio ar bobl fregus
Fel rhan o hyn, rwy’n bwriadu sicrhau bod ffocws clir yn parhau i gael ei roi ar droseddau llinellau cyffuriau - ffurf filain o droseddu sy’n cymryd mantais ar bobl ifanc bregus a’u troi at fywyd o droseddu sy’n beryglus a threisgar iawn lle nad oes llawer o ffyrdd i ddianc ohono.
Rwy’n falch iawn o weld bod nifer o’ch ceisiadau yn ceisio mynd i'r afael â’r broblem hon a chefnogi ein pobl ifanc.
Mae grwpiau cymunedol yn hanfodol i ddinasyddion gogledd Cymru, ac maent yn helpu ein cymunedau i fod ymysg y llefydd mwyaf diogel i fyw, gweithio ac ymweld â hwynt yn y Deyrnas Gyfunol.”
Dywedodd Sacha Hatchett: “Mae’r arian yma’n cynnwys arian gafodd ei atafaelu gan droseddwyr o dan y Ddeddf Elw Troseddau. Mae hon yn neges bwysig iawn oherwydd drwy agwedd broffesiynol Swyddogion Heddlu Gogledd Cymru a chefnogaeth y llysoedd, rydym yn medru taro’r troseddwyr lle mae’n eu brifo fwyaf - eu pocedi.
Mae ein gweithrediadau yn targedu pob math o droseddau difrifol gan gynnwys troseddau traws-ffiniol, lladradau arfog, defnydd anghyfreithlon o ddrylliau yn ogystal â chynhyrchu, mewnforio a chyflenwi cyffuriau.
Mae’r rhai sy’n rhan o droseddu difrifol yn aml iawn yn byw ymhell tu hwnt i’w modd, drwy yrru ceir drud, byw mewn tai mawr a mynd ar wyliau dramor yn aml; ac mae’n bosib iawn eu bod yn gallu byw bywyd fel hyn oherwydd yr elw maent wedi’i wneud o droseddau.
Mae ein cymunedau yn parhau i chwarae rhan yn y llwyddiant yma diolch i wybodaeth leol sy’n cael ei rhoi i’r swyddogion sydd yn ein helpu i ddod â’r troseddwyr yma o flaen eu gwell.
Mae’n danfon neges bositif bod arian sy’n cael ei gymryd o bocedi troseddwyr yn cael ei ailgylchu. Mae hyn yn troi arian drwg yn arian da gaiff ei ddefnyddio i bwrpas adeiladol.”
Cynrychiolwyr o Glwb Pysgota Cei Conna yn derbyn eu gwobr Eich Cymuned, Eich Dewis ym mhencadlys Heddlu Gogledd Cymru, o'r chwith, y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Sacha Hatchett, Alan White a James Davies gyda Chomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Arfon Jones.