Dyddiad
Mae heddluoedd ledled y DU yn dewis cicio clybiau pêl-droed fel Wrecsam a Chaer trwy geisio cynyddu eu taliadau i blismona gemau, yn ôl pennaeth heddlu.
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones, sy’n gyn-arolygydd heddlu ei hun ac yn ddeiliad tocyn tymor yn Wrecsam, yn credu bod pêl-droed yn cael ei erlid oherwydd y cynnydd cyffredinol mewn trais yn y gymdeithas.
Yn ôl Mr Jones, mae Gwasanaeth yr Heddlu wedi methu yn y Llysoedd Uwch i gael y diwydiant pêl-droed i dalu mwy i blismona gemau pêl-droed ac maent bellach yn ceisio newid y ddeddfwriaeth i alluogi strwythur codi tâl gwahanol.
Yn achos clybiau llai fel Wrecsam a Chaer, mae'n honni y gallai'r ffioedd plismona uwch hyn gael effaith ddifrifol a hyd yn oed fygwth eu bodolaeth.
Dywedodd Mr Jones: “Mae'r heddlu'n dweud bod angen iddynt godi mwy oherwydd trais cynyddol ond mae yna duedd tuag at drais cynyddol yn y gymdeithas gyfan ers Brexit.
Y cyfan mae pêl-droed yn ei wneud yw adlewyrchu'r hyn sy'n digwydd yn y gymdeithas ac mae yna farn arall pe bai'r heddlu'n treulio mwy o amser yn hyfforddi stiwardiaid a chefnogwyr clybiau, yna byddai trais yn cael ei leihau, ond hyd yn oed wedyn mae'n dal i fod yn llawer is nag ydoedd yn nyddiau tywyll y 70au a’r 80au.
Mae pêl-droed yn cael ei stigmateiddio gan yr hyn sy'n broblem yn y gymdeithas gyfan ac oherwydd hynny bydd clybiau fel Wrecsam a Chaer yn wynebu taliadau cynyddol nad ydynt yn angenrheidiol nac yn deg ac a allai achosi caledi ariannol difrifol iddynt.
Pan edrychais ar gemau rhwng Wrecsam a Chaer, roedd gormod o adnoddau plismona yn bresennol, a phe baent yn gwneud presenoldeb yr heddlu yn llai amlwg, byddai llai o wrthdaro.
Rydym wedi gweld stiwardiaid mewn gemau yn mynd yn fwy ymosodol hyd yn oed i’r graddau o daflu dyrnau at chwaraewyr.”
Mynychodd Mr Jones gyfarfod o'r Grŵp Seneddol Trawsbleidiol ar Blismona a Diogelwch lle heriodd ffeithiau a gyflwynwyd gan arweinydd Penaethiaid yr Heddlu ar bêl-droed, y Dirprwy Brif Gwnstabl, Mark Roberts.
Dywedodd: “Mae Mark Roberts eisiau codi mwy o dâl ond yr hyn sydd angen i ni ei wneud yw trin gemau pêl-droed fel digwyddiadau ac nid fel sefyllfaoedd trefn gyhoeddus a dylai fod gwell ymgysylltiad efo cefnogwyr a gwell hyfforddiant i stiwardiaid yn hytrach na darparu gormodedd o adnoddau plismona mewn gemau .
Roedd hon yn ffordd unochrog iawn o gyflwyno gwybodaeth heb gynrychiolaeth yn y cyfarfod o blith clybiau pêl-droed a chefnogwyr ac roedd yn ffordd dan din o wneud pethau“
Os bydd plismona'n codi mwy o dâl, yna bydd cryn dipyn o glybiau o'r Bencampwriaeth ac adrannau is mewn perygl gwirioneddol o fynd i'r wal.
Roedd pob math o sylwadau ffwrdd-â-hi yn cael eu derbyn fel efengyl, er enghraifft, mae'n anodd plismona sefyll diogel, a byddai caniatáu yfed yn gwaethygu'r anawsterau sy'n wynebu plismona. Nodwyd hyd yn oed bod trais yn y cartref yn cynyddu yn ystod gemau pêl-droed mawr fel cyd-destun, fel y mae yn ystod gemau rygbi mawr hefyd
Mae llawer o'r ddeddfwriaeth ynghylch rheoli cefnogwyr mewn gemau pêl-droed yn seiliedig ar yr hyn a ddigwyddodd yn Hillsborough a chanfuwyd bod popeth a ddywedwyd yn wreiddiol am Hillsborough yn llwyth o gelwyddau.
Felly, o ganlyniad mae gennym ddeddfwriaeth gyfredol sy'n seiliedig ar anwireddau a phêl-droed yn dal i dalu'r pris.”