Skip to main content

Tasglu arbennig yn cael ei anrhydeddu am ymladd cyffur peryglus

Dyddiad

Dyddiad
Tasglu arbennig yn cael ei anrhydeddu am ymladd cyffur peryglus

Mae tasglu arbennig a grëwyd pan ddechreuodd y cyffur peryglus Spice gylchredeg ar strydoedd Wrecsam ym mis Ebrill y llynedd wedi ennill gwobr nodedig.

Ar yr adeg honno, penderfynodd yr awdurdodau yn y dref mai digon oedd digon a bod rhaid gwneud rhywbeth er mwyn mynd i’r afael â phroblem oedd yn gwaethygu.

Arweiniodd hynny at greu’r tasglu sydd â ffocws penodol ar broblem digartrefedd Wrecsam a bod yn gaeth i gyffuriau Spice a Mamba, a gaiff eu cynhyrchu’n rhad.

Cyflwynwyd y wobr Ymyrraeth Cyffuriau i’r tasglu gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones, yn y Gwobrau Cymunedol blynyddol yng Ngwesty’r Celtic Royal yng Nghaernarfon.

Cydlynir y Tîm Sylweddau Seico-Weithredol Newydd (NPS) gan Steve Campbell, sy’n gweithio i elusen CAIS yn Champions House, Wrecsam, ac ymhlith ei aelodau y mae cynrychiolwyr o Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Heddlu Gogledd Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr .

Dywedodd Steve, sydd ar hyn o bryd ar secondiad am dri diwrnod yr wythnos gyda Chyngor Wrecsam, fod arolwg o 63 o bobl ddigartref yn y dref ym mis Mai wedi datgelu bod dibyniaeth ar Spice a Mamba bellach yn uwch na bod yn gaeth i heroin.

Dywed bod Spice a Mamba yn ‘cannabinoidau synthetig’, sef cemegau sy’n ceisio efelychu effeithiau canabis. Cafodd y cyffuriau hyn a fu’n gyfreithlon ar un adeg eu gwahardd yn 2016.

Maen nhw’n llawer mwy niweidiol na chanabis,” meddai. “Mae’r digartref, y grŵp mwyaf gweladwy ac agored i niwed, yn eu defnyddio oherwydd eu bod mor rhad.

Maent yn costio hanner pris canabis. A gall defnyddwyr fynd dan ddylanwad y cyffuriau am bris isel.”

Dywedodd Arfon Jones: “Un peth yw cychwyn allan ar y ffordd i adferiad ond mae angen sefydlogrwydd arnoch yn eich bywyd hefyd er mwyn parhau ar hyd y ffordd honno, felly rwy’n croesawu ymwneud yr Adran Tai, Gwaith a Phensiynau yn ogystal â gwaith rhagorol Dr Karen Sankey a chyfraniad elusen The Wallich i’r digartref gydag enillydd gwobr y llynedd, Tanya Jones.

Mae helpu i ddarparu hynny yn rhywbeth na all un sefydliad ei wneud ar ei ben ei hun, ond mae’r grŵp hwn yn canolbwyntio ymdrechion cymaint o wahanol sefydliadau ar ganfod atebion a helpu pobl i newid eu bywydau er gwell.”

Dywed Steve bod arolwg ym mis Tachwedd diwethaf wedi darganfod bod 44 o bobl yn cysgu allan ar y stryd ar strydoedd Wrecsam.

Roeddwn i’n synnu bod y ffigur mor uchel,” meddai Steve. “Roeddwn i’n disgwyl i’r rhif fod yn nes at 30, yn sicr o dan 40.

Mae digartrefedd yn broblem gynyddol. Cafwyd cynnydd o 33 y cant y llynedd ar draws Cymru gyfan. Rhagwelir y bydd y nifer yn dyblu mewn rhai ardaloedd dros y pum mlynedd nesaf.”

Mae CAIS yn elusen gofrestredig yng Nghymru sy’n helpu pobl gyda phroblemau o ran bod yn gaeth i sylweddau, iechyd meddwl, datblygiad personol a chyflogaeth.

Mae’n ymrwymedig i weithio mewn partneriaeth ag eraill, fel yn achos tasglu’r NPS, yn unol â Strategaeth Cymru Gyfan - Mynd i’r Afael â Chamddefnyddio Sylweddau yng Nghymru.

Ymunodd Steve â CAIS yn 2011 ar ôl rhedeg ei fusnes arlwyo ei hun, gan weithio gydag elusen Wallich i’r digartref, a gwirfoddoli gyda Chymorth Dinas Caer i’r Digartref. Ar hyn o bryd ef yw Rheolwr Partneriaethau a Datblygu Busnes yr elusen.

Mae problem digartrefedd, ac yn aml y broblem gysylltiedig o fod yn gaeth i Spice a Mamba, yn bell o fod yn unigryw i Wrecsam,” meddai Steve.

Rydym yn ceisio asesu anghenion y grŵp sy’n agored i niwed ac os oes angen triniaeth breswyl ar gyfer dibyniaeth ar Spice a Mamba, mae gennym ganolfan ddadwenwyno Hafen Wen yma yn Wrecsam.

Mae pobl sy’n gaeth i alcohol yn aml yn defnyddio seidr rhad er mwyn meddwi ac mae Spice a Mamba yn cael eu defnyddio am yr un rheswm, er mwyn i bobl fynd dan ddylanwad y cyffur yn gyflym ac yn rhad.”

Ymhlith y rheiny a enwir yn yr enwebiad am y wobr y mae Dr Karen Sankey a Dewi Richards sydd wedi ymrwymo i ganolfan gofal wythnosol i ddarparu cefnogaeth i’r rhai sydd mewn angen na fyddent fel arfer yn ymgysylltu â gwasanaethau, gan gynyddu’r risg iddynt hwy eu hunain ac eraill; Linda Evans a Catherine Marland o’r Adran Gwaith a Phensiynau sydd wedi darparu mynediad at gyllid a gwasanaethau a oedd wedi eu hatal yn flaenorol a thrwy hynny allu cynnwys defnyddwyr gwasanaeth; Paul Thorpe o Allgymorth Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam sydd wedi ymrwymo i helpu pobl mewn angen; Tracey Sutton o Borth CBSW sy’n darparu gwasanaethau tai fel rhan o ganolfan CARE; Karen Edwards o Fyddin yr Iachawdwriaeth sy’n darparu lleoliad diogel ac ymlaciol sawl gwaith yr wythnos; a Rowena Gregor o fudiad Kaleidoscope sy’n cynghori’r rhai sy’n gaeth i gyffuriau ac alcohol.

Ychwanegodd yr enwebiad: “Mae ymdeimlad pendant a chryf o ymgysylltiad mewn partneriaeth i ddod o hyd i atebion i’r mater heriol a chymhleth hwn.

Pobl sy’n gwneud y gwahaniaeth drwy’r penderfyniadau y maent yn eu gwneud bob dydd a’u gwydnwch wrth gyflawni yn wyneb gwrthdaro, straen, gofid, pwysau a risg.”

Roedd hefyd yn canmol y “llu o unigolion ac asiantaethau yn y cefndir” sy’n ymgysylltu gyda thasglu’r NPS.