Dyddiad
Mae tîm pêl-droed o Wrecsam sy’n cynnwys ffoaduriaid ac ymfudwyr ymysg y chwaraewyr wedi ymuno â phennaeth heddlu mewn ymgyrch i ymladd troseddau casineb.
Mae’r math yma o drosedd annifyr yn gweld pobl yn cael eu targedu oherwydd eu hymddangosiad corfforol, hil, tueddfryd rhywiol, rhyw neu anabledd.
Bydd clwb pêl-droed cydwaldol Bellevue, a ffurfiwyd yn gynharach eleni i hyrwyddo cynhwysiad drwy ddod â phobl o wledydd tramor sy’n byw yn ardal Wrecsam ynghyd, yn camu i’r cae ddwywaith mewn un diwrnod y mis nesaf er mwyn tynnu sylw at Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb sy’n rhedeg o Hydref 14 i 21.
Unwaith eto mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones, yn cydweithio â phartneriaid, gyda chymorth Llywodraeth Cymru, er mwyn codi ymwybyddiaeth o droseddau casineb ac annog pobl i roi gwybod pan fo troseddau o’r fath yn digwydd.
Aeth draw i un o sesiynau hyfforddi tîm pêl-droed Bellevue i ganmol eu safiad gan ddisgrifio’r clwb fel “enghraifft berffaith o gynwysoldeb ar waith”.
Syniad y dilynwyr pêl-droed brwd Delwyn Derrick, James Wright, Jon Davies a Damian Walker oedd y tîm, a chartref y clwb yw Parc Bellevue yng nghanol Wrecsam.
Meddai Delwyn: “Rydw i a’r criw wedi bod yn chwarae gemau cynghrair dydd Sul ar gaeau’r parc ers blynyddoedd, ac mi wnaethon ni sylwi ar grwpiau o fyfyrwyr o Ffrainc a’r Almaen oedd yn byw yn yr ardal tra oeddent yn y coleg yn dod i lawr am gêm.
“Yna, mi wnaethon ni feddwl y byddai’n syniad da dechrau tîm a fyddai’n cynnwys pobl o bob, cenedl a gallu.
Mi wnaethon ni roi cychwyn ar bethau fis Chwefror diwethaf, gyda chymorth Chwaraeon Cymru. Ac erbyn hyn rydym yn hyfforddi bob nos Fawrth a nos Wener ac yn chwarae yng Nghynghrair Pêl-droed Gogledd Ddwyrain Cymru.
Rydym yn dîm rhyngwladol go iawn ac, ar wahân i’r chwaraewyr o Brydain, mae gennym hefyd hogia yn y tîm o Albania, Romania, Gwlad Pwyl, Sbaen, yr Eidal, Jamaica, Syria, Libya, Irac, Iran ac Ethiopia. Mae eu hoed yn amrywio o 14 i 41.
Rydym wedi gwneud peth recriwtio ar Facebook ond yn gyffredinol mae pobl yn dod draw i’r parc, ein gweld yn ymarfer neu’n chwarae ac yn gofyn am gael ymuno.
Rwy’n credu ein bod ni’n rhoi cyfleoedd i bobl nad ydyn nhw fel arfer yn eu cael ac rydym bellach yn dipyn o deulu - er nad ydym eto wedi dechrau ennill gormod o gemau.”
Er mwyn hyrwyddo Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb, bydd clwb pêl-droed Bellevue yn chwarae dwy gêm gyfeillgar ar eu cae cartref ar ddydd Sul 15 Hydref – bydd y gêm gyntaf am 11.30yb yn erbyn tîm Co-operative Gogledd Cymru, sydd wedi rhoi cefnogaeth i’r tîm, ac yna bydd yr ail gêm yn cael ei chwarae am 2.30yp yn erbyn Heddlu Gogledd Cymru.
Ychwanegodd Delwyn: “Mi wnaethon ni greu ein tîm i hyrwyddo cydlyniad cymdeithasol, felly mae mynd i’r afael â throseddau casineb yn rhywbeth sy’n bwysig iawn i ni.
I lawer mae yna stigma ynghylch o ble mae pobl yn dod a beth yw lliw eu croen ond nid ydym am weld hyn a dyna pam rydym yn chwarae’r ddwy gêm yma.
Un o’r bobl ifanc a fydd yn ôl Delwyn ar y rhestr i gael ei ddewis i chwarae yn un o’r ddwy gêm yw Romarjo Gjoni, sy’n 15 oed, a ddaeth i ardal Wrecsam o Albania gyda’i deulu ddwy flynedd yn ôl i chwilio am fywyd gwell, a ymunodd â’r tîm Pasg diwethaf.
Bellach mae’n ddisgybl yn Ysgol Clywedog, ac meddai: “Nid wyf wedi eu profi fy hun ond rwy’n gwybod bod troseddau casineb yn ddrwg iawn, felly byddaf yn falch o chwarae yn un o’r gemau hyn i dynnu sylw at y broblem.
Rwyf wedi ffitio i mewn yn dda iawn gyda’r tîm. Mae gennym bobl o lawer o wledydd gwahanol yn chwarae ond rydym i gyd yn dod ymlaen yn dda iawn gyda’n gilydd.
Cefnwr de yw fy safle ac mae’n wych bod yn rhan o’r tîm hwn. Mae’n rhoi llawer o brofiad i mi, sydd yn beth da oherwydd rwyf am fod yn bêl-droediwr proffesiynol rhyw ddydd.”
Hefyd, yn nhîm y Bellevue ar 15 Hydref fydd yr asgellwr 15 oed, Kuba Kosiak, sy’n dod yn wreiddiol o Wlad Pwyl ac a symudodd i Wrecsam gyda’i deulu yn dair oed.
“Daethom i Gymru oherwydd bod pethau’n well i ni yn economaidd ac rwy’n hoffi byw yma a mynd i Ysgol Clywedog,” meddai.
Mi wnaeth fy ffrindiau sôn wrthyf am y tîm pêl-droed ac mi wnes i ymuno yn gynharach eleni.
Mae pawb yn gwybod bod troseddau casineb yn ddrwg, felly rwy’n falch o wneud unrhyw beth y gallaf i gefnogi’r ymgyrch yn eu herbyn.”
Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Arfon Jones: “Mae hyn i gyd yn ymwneud â chymunedau yn dod at ei gilydd mewn ysbryd cynhwysol ac mae’r tîm hwn yn enghraifft berffaith o gynwysoldeb ar waith.
Mae llawer o wahanol wledydd yn cael eu cynrychioli gan y chwaraewyr ond maen nhw i gyd yn dod ymlaen yn dda iawn.
Pe bai mwy o bobl yn dod at ei gilydd fel hyn, byddai llawer llai o droseddau casineb, a llai o wrthdaro yn gyffredinol.
Mae troseddau casineb yn droseddau sy’n achosi llawer o ofid. Os ydych chi’n pigo ar bobl neu’n cyflawni troseddau yn eu herbyn oherwydd eu crefydd neu liw eu croen, mae’n achosi llawer o ddrwgdeimlad.
Mae’n drosedd ddifrifol ac mae’n rhaid i ni fynd i’r afael â hyn. Mae’r tîm i’w ganmol am sefyll yn ei erbyn a byddaf ym Mharc Bellevue ar y 15fed o Hydref i’w cefnogi.”
Ychwanegodd: “Yn wythnos ymwybyddiaeth eleni, bydd yr un neges allweddol yn cael ei hyrwyddo - ni fydd trosedd casineb yn cael ei oddef yng Ngogledd Cymru.
Mae gan bawb ddyletswydd i godi llais yn erbyn troseddau casineb. Hyd yn oed os ydych chi’n credu bod digwyddiad unigol yn beth bach, dylech roi gwybod amdano, oherwydd os yw digwyddiadau’n digwydd dro ar ôl tro i chi neu bobl rydych yn eu hadnabod, yna gall yr effaith fod yn sylweddol.”
Dylid adrodd am Droseddau Casineb trwy ffonio Heddlu Gogledd Cymru ar 101 (999 mewn argyfwng) neu gysylltu â Chymorth i Ddioddefwyr ar 0300 30 31 982 neu hatecrimewales@victimsupport.org.uk. Mae rhagor o wybodaeth ar gael hefyd ar-lein yn www.reporthate.victimsupport.org.uk.