Dyddiad
Mae ymgyrch wedi cael ei lansio er mwyn helpu i amddiffyn pobl fyddar rhag dioddef troseddau – ac mae’r ymgyrch yn cael ei hariannu gan arian a atafaelwyd oddi wrth droseddwyr.
Mae Cymdeithas y Byddar Gogledd Cymru wedi trefnu cyfres o Weithdai Atal Troseddau, diolch i grant o £5,000 gan gronfa arbennig a sefydlwyd gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Arfon Jones.
Mae menter Eich Cymuned, Eich Dewis hefyd yn cael ei chefnogi gan Heddlu Gogledd Cymru ac Ymddiriedolaeth yr Heddlu a’r Gymuned (PACT).
Cafodd llawer o’r arian ei adennill drwy’r Ddeddf Elw Troseddau, gan ddefnyddio arian a atafaelwyd oddi wrth droseddwyr gyda’r gweddill yn dod oddi wrth y Comisiynydd Heddlu a Throsedd.
Roedd yn un o 15 o grantiau gwerth dros £40,000 a roddwyd i gefnogi cynlluniau gan fudiadau cymunedol gyda bron i 10,000 o bleidleisiau ar-lein yn cael eu bwrw er mwyn penderfynu pwy fyddai’r ymgeiswyr llwyddiannus.
Cynhaliwyd y diweddaraf o’r gweithdai, sydd hefyd wedi cael eu cynnal yn Sir y Fflint a Wrecsam, yn y Ganolfan Arwyddo-Golwg- Sain ym Mae Colwyn ac roedd yn ymdrin â diogelwch yn y cartref, y rhyngrwyd, ymddygiad gwrthgymdeithasol, sgamiau a galwyr diwahoddiad, trais yn y cartref a throseddau chasineb.
Cafodd y digwyddiad, a oedd yn cynnwys cyngor gan y cyn Ditectif Gwnstabl gyda Heddlu Gogledd Cymru Ifan Hughes, yn ogystal â sesiwn holi ac ateb, ei recordio ar fideo a’i bostio ar gyfryngau cymdeithasol fel bod modd i bobl eraill o’r gymuned fyddar ledled y wlad ei ddefnyddio.
Fe’i mynychwyd gan Ann Griffith, y Dirprwy Gomisiynydd, a ddywedodd: “Mae’n bwysig iawn ein bod yn estyn allan i bob cymuned yng Ngogledd Cymru ac mae hyn wedi bod yn ddefnyddiol iawn i mi o ran codi fy ymwybyddiaeth o’r materion hyn.
“Mae pobl fyddar yn ei chael yn anodd i gael gafael ar wybodaeth atal troseddu nad yw ar gael yn hwylus yn Iaith Arwyddion Prydain (BSL).
“Mae hyn yn eu gwneud yn fwy agored i fod yn ddioddefwyr trosedd na phobl sydd heb nam ar y clyw ac maent yn aml yn ansicr neu ddim yn gwybod sut y gallant adrodd am drosedd.
“Maent hefyd yn fwy tebygol o fod yn ddioddefwr troseddau casineb ac rydym yn credu bod y prosiect hwn yn mynd i’r afael â materion sydd wedi cael eu nodi gan y gymuned fyddar, drwy ddarparu gwybodaeth a chyngor ar atal troseddau na allant gael mynediad atynt fel arfer.
“Mae’n bwysig bod pob cymuned ar draws Gogledd Cymru, gan gynnwys pobl fyddar, yn gallu cael mynediad at wybodaeth a gwybod sut i ddelio â sgamiau a galwyr diwahoddiad yn ogystal â beth i’w wneud mewn argyfwng 999.
“Mae swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn cymryd eu cyfrifoldeb tuag at y gymuned fyddar o ddifrif ac rydym wedi trosi ein taflenni ar Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb a Sut i Adrodd am Droseddau i Iaith Arwyddion Prydain ac maent bellach ar gael ar ein gwefan a gall pobl fyddar hefyd decstio 999 i gael gwasanaeth arbennig mewn argyfwng.
“Hoffem drosi’r Cynllun yr Heddlu a Throseddu i Iaith Arwyddion Prydain yn fuan iawn hefyd.”
Mi wnaeth Lyndon Williams o Gonwy, sydd wedi bod yn fyddar ers ei eni, recordio’r digwyddiad ar fideo ac mae hefyd yn cynnal cyrsiau iPad yn y Ganolfan.
Arwyddodd: “Mae hwn wedi bod yn ymarfer da iawn ac wedi rhoi llawer o wybodaeth ddefnyddiol i’r gymuned fyddar.
“Gyda swyddogion yr heddlu bellach yn cario camerâu fideo mi allai hynny hefyd fod yn ddefnyddiol i bobl fyddar gan fod modd recordio'r hyn y maent yn ei arwyddo.
Dywedodd Sarah Thomas, Rheolwr Gwasanaeth Mynediad Cymunedol y Ganolfan: “Rydym yn ddiolchgar iawn i’r cyhoedd yng Ngogledd Cymru am bleidleisio i roi’r grant hwn sy’n ein galluogi i gynnig y gyfres hon o weithdai.
“Mae llawer yn digwydd yng Ngogledd Cymru ar gyfer y gymuned fyddar ac mae Heddlu Gogledd Cymru yn rhagweithiol iawn.
“Rydym yn cynnal cyfarfodydd diogelwch yma bob wythnos gyda siaradwyr gwadd rheolaidd ac mae’r grant yn ein helpu i wneud mwy.
“Mae wedi talu am yr arwyddwyr yma ac am yr ystafell ac mae hynny’n helpu pobl fyddar oherwydd mae’n anodd iddynt gael mynediad at 90 y cant o’r deunydd atal troseddau, nid yw llais y grŵp yn cael ei glywed yn aml ac maent yn agored i niwed.”
Ychwanegodd cadeirydd PACT David Williams: “Rydym yn falch ein bod yn gallu cynorthwyo i weinyddu’r gronfa hon.
“Yn briodol iawn, un o’r amodau yw bod y bobl sy’n gwneud cais am yr arian hwn yn gorfod gwneud rhywbeth sy’n ymladd ymddygiad gwrthgymdeithasol neu’n mynd i’r afael â throsedd ac anhrefn mewn rhyw ffordd.
“Mae nodau cynllun Eich Cymuned, Eich Dewis hefyd yn cyd-fynd ag amcanion Cynllun y Comisiynydd Heddlu a Throsedd felly mae’n creu cylch rhinweddol.”