Dyddiad
Mae uwch swyddog Heddlu Gogledd Cymru, y Prif Gwnstabl Mark Polin, wedi cyhoeddi heddiw ei fod am ymddeol ym mis Gorffennaf.
Mae Prif Gwnstabl Polin wedi bod yn swyddog yr heddlu ers mwy na tri degawd, gan gynnwys bron i naw mlynedd fel Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru.
Bydd yn gadael ei swydd ddiwedd Gorffennaf er mwyn dod yn Gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ddechrau mis Medi.
Meddai: “Dwi’n teimlo’n hynod o ffodus fy mod wedi arwain Heddlu Gogledd Cymru am bron i naw mlynedd a gallaf ddweud yn onest fy mod wedi mwyhau pob diwrnod. Mae wedi bod yn fraint i weithio â staff proffesiynol, ymrwymedig a medrus. Mae eu hystwythder a dealltwriaeth wedi bod yn anferthol wrth ystyried y sialens rydym wedi ei wynebu, gan gynnwys newidiadau mawr ac anodd yn ystod cyfnod.
Rydym wedi bod yn hynod lwyddiannus gyda’n gilydd yn ystod y cyfnod ac mewn cydweithrediad gyda’n partneriaid. Mae ein perfformiad wedi parhau yn gryf ac yn wir wedi gwellau mewn rhai meysydd allweddol; nid ydym wedi methu yn nhermau digwyddiadau difrifol; rydym wedi buddsoddi mewn TG, yn y stad a’n rhwydweithiau mewnol; wedi parhau i recriwtio pobl o ansawdd uchel ac wedi rheoli ein cyllid a’n hasedau’n dda - i enwi dim ond ambell i beth.”
Dywedodd Mark iddo ddechrau ar ei yrfa gyda Heddlu Dinas Llundain a chyrraedd rheng Prif Arolygydd yno. Ym 1998 trosglwyddodd at Heddlu Gwent fel Uwch-Arolygydd â chyfrifoldeb dros nifer o weithredoedd, gan gynnwys Ystafell Reoli’r Heddlu, a’r unedau drylliau tanio, trefn gyhoeddus a thraffig. Ym mis Rhagfyr 1999, cafodd Mark ei apwyntio fel Prif Uwcharolygydd a Phennaeth Rhanbarthol Adran Caerffili, ac yn 2002 derbyniodd gyfrifoldeb am yr Adran Safonau Proffesiynol a Moesegol.
Cyn symud i Ogledd Cymru fel Prif Gwnstabl bu Mark yn Ddirprwy Brif Gwnstabl gyda Heddlu Gloucestershire..
Yn 2010 derbyniodd Mark Fedal Heddlu’r Frenhines (QPM Award).
Dywedodd Mark:“Cefais fy nghynorthwyo gan berthynas gref ond briodol gyda’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd a'i swyddfa, sydd wedi pennu’r strategaeth gyffredinol ar gyfer plismona Gogledd Cymru a sicrhau atebolrwydd yr Heddlu. Mae fy mywyd wedi bod yn llawer haws oherwydd tîm prif swyddog sgilgar, cydlynol sy’n cyflawni’n fawr a chan brif uwch-arolygyddion, uwch staff yr heddlu a thimau rheoli ehangach o’r un modd. Mae’r cymdeithasau staff a rhwydweithiau cymorth hefyd wedi darparu ymgysylltiad a dealltwriaeth wirioneddol. Maent wedi herio ar eich rhan os oes angen. Mae hynny wedi bod yn bwysig i mi.
Dywedodd Arfon Jones Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: “Hoffwn ddiolch i’r Prif Gwnstabl Mark Polin am ei arweinyddiaeth wych ar adeg pan mae’r Heddlu wedi gorfod dioddef toriadau ariannol sylweddol ac ymgodymu â throseddau newydd ar yr un pryd.”
Mae Mark wedi dod â bri i Heddlu Gogledd Cymru ac yn uchel ei barch nid yn unig gan ei gydweithwyr ond hefyd gan ein partneriaid ar draws yr ardal a’r cymunedau mae’r Heddlu yn ei gwasanaethu.”
Mae o wedi cael effaith sylweddol ar yr ardal ac mae’r Heddlu bellach mewn sefyllfa llawer gwell i ymateb i’r heriau sy’n wynebu plismona modern sy’n sicrhau yn ei dro fod Gogledd Cymru yn parhau i fod yn lle diogel i fyw, gweithio ac ymweld ag o.
Hoffwn ddiolch iddo yn ddidwyll am ei waith.
Rydym bellach wedi cychwyn ar y gwaith o gael olynydd i’r Prif Gwnstabl. Bydd y bwlch ar ei ôl yn un mawr i’w lenwi a gobeithio bydd ei waith da yn cael ei barhau."
Bydd y Dirprwy Brif Gwnstabl Gareth Pritchard n Brif Gwnstabl Dros dro nes bydd y pennaeth newydd yn cael ei apwyntio.
Bydd yn cael ei gefnogi gan y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Richard Debicki fydd yn gweithredu fel Dirprwy Brif Gwnstabl Dros Dro a’r Prif Uwcharolygydd Neill Anderson fydd yn gweithredu fel Prif Gwnstabl Cynorthwyol Dros dro.