Skip to main content

Ymgyrch newydd i atal galwadau 999 diangen

Dyddiad

Dyddiad
Control Room looking at computer

Mae ymgyrch newydd wedi’i lansio i leihau’r galw cynyddol ar ystafell reoli’r heddlu yng ngogledd Cymru sy’n delio â thros 1,100 o alwadau y dydd.

Yn ôl Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones, dim ond 150 o’r galwadau hynny sy’n adrodd am droseddau ac mae’n annog y cyhoedd i helpu leihau’r pwysau drwy feddwl ddwywaith cyn deialu 999.

Roedd Mr Jones, sy’n gyn-arolygydd heddlu a fu’n gweithio yn yr hen ystafelloedd rheoli yn Wrecsam a Bae Colwyn, yn siarad wrth iddo ymweld â Chanolfan Reoli ar y Cyd yr Heddlu yn Llanelwy, lle maent wedi delio â 5,600 o alwadau 999 ychwanegol eleni.

Mae hynny’n cyfateb i 27 galwad ychwanegol y dydd neu gynnydd o 11.2 y cant.

Mae’r ganolfan bresennol yn Llanelwy yn delio â thros 400,000 o alwadau brys a galwadau 101 y flwyddyn, ac yn ôl Mr Jones mae dros eu hanner yn alwadau diangen.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae nifer y negeseuon e-bost gan y cyhoedd wedi dyblu i gyfartaledd o 4,300 y mis neu 150 y dydd.

Ar yr un pryd, mae nifer y sgyrsiau dros y we y mae’r ganolfan yn eu trin wedi treblu i 1,700 y mis neu 56 y dydd.

Mae’r heddlu hefyd yn lansio ymgyrch fawr ar y cyfryngau cymdeithasol i ledaenu ei neges drwy fis Rhagfyr.

Yn ôl Mr Jones: “Mae’n rhaid i ni reoli’r galw yma ac annog pobl i oedi cyn deialu 999 neu 101.

“O’r 1,100 o alwadau y dydd dim ond 400 digwyddiad sy’n cael eu creu - mae hynny’n golygu na fydd dros 600 o achosion yn gofyn am unrhyw weithredu gan yr heddlu ond mae’n  dal i gymryd amser i ymdrin â nhw - amser y gellid ei wario yn delio ag argyfwng go iawn.

Nid yw llawer o’r galwadau mewn gwirionedd yn faterion i’r heddlu a dylid eu cyfeirio at asiantaethau eraill, boed hynny’n awdurdodau lleol neu’r bwrdd iechyd.

Dylech ond ffonio 999 os oes bygythiad uniongyrchol i fywyd neu eiddo neu os yw trosedd yn cael ei chyflawni.

Mae angen i bobl feddwl cyn iddyn nhw godi’r ffôn a phenderfynu gyda phwy y maen nhw wir angen siarad.

Y broblem yw, os nad oes unrhyw le arall i fynd, yna bydd pobl yn ffonio’r heddlu, hyd yn oed os na all yr heddlu ddelio â’r peth.

Mae yna wasanaethau cymdeithasol y tu allan i oriau ar gael ond nid yw pawb yn gwybod sut i gael mynediad atyn nhw - mae pawb yn gwybod 999 a 101.

Mae hynny’n codi’r cwestiwn a yw gwasanaethau cyhoeddus eraill yn darparu gallu digonol i ymateb a dydw i ddim yn credu eu bod nhw.”

Yr Uwcharolygydd Neil Thomas sy’n gyfrifol am yr ystafell reoli yn Llanelwy ac meddai: “Rydyn ni’n wynebu nifer cynyddol o alwadau ac rydyn ni’n ceisio addysgu’r cyhoedd bod asiantaethau eraill ar gael a allai fod yn fwy priodol ar gyfer eu hanghenion .

"Rydym yn derbyn 1,100 o alwadau ar gyfartaledd bob dydd, gyda 300 o’r rhain yn alwadau 999, er mai 150 o droseddau y dydd sy’n cael eu cofnodi ar gyfartaledd yng Ngogledd Cymru. Mae galwadau sy’n ymwneud ag unigolion â phroblemau iechyd meddwl, anghenion cymdeithasol, pobl fregus neu adroddiadau o bobl sydd ar goll yn cynyddu. Wrth reswm, mae’r mathau hyn o alwadau yn cymryd mwy o amser i ddelio efo nhw.

Rydyn ni bob amser yn ateb y galwadau ond mae gwneud hynny’n lleihau ein gallu i ddelio â galwadau brys sy’n gysylltiedig efo’r heddlu.

Rydyn ni’n delio efo pobl sydd mewn argyfwng ac mae angen help a chymorth arnynt ond ar brydiau nid ni ydi’r gwasanaeth mwyaf priodol i’w helpu ac nid yw anfon heddlu i ymateb yn briodol chwaith.

Hoffwn sicrhau’r cyhoedd y bydd galwadau dilys bob amser yn cael eu trin mewn modd proffesiynol ac amserol.”

Bellach mae gan Heddlu Gogledd Cymru gydweithwyr o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn gweithio ochr yn ochr â nhw yn yr ystafell reoli.

Dywedodd yr Uwcharolygydd Thomas y gallai’r nifer o alwadau sy’n dod i’r ganolfan gyrraedd 100 bob awr ar ambell adeg a bod y mwyafrif o alwadau brys yn cael eu hateb o fewn y canllawiau cenedlaethol o 10 eiliad.

Ychwanegodd: “Mewn argyfwng go iawn, byddem bob amser yn annog pobl i ddeialu 999 ond rydyn ni am addysgu pobl i feddwl ddwywaith cyn galw’r heddlu gan fod yna ddewisiadau eraill.

Ar wefan Heddlu Gogledd Cymru, gall pobl ddod o hyd i wybodaeth am y ffordd orau o ddelio efo’u hymholiad a bod nifer cynyddol o bobl, yn enwedig pobl ifanc, yn defnyddio sgyrsiau ar we neu fynd ar-lein.”

Dywedodd  Arfon Jones: “Gallwch fynd ar-lein i adrodd am drosedd neu ddamwain, felly mae angen i ni wella sut y mae pobl yn cysylltu efo ni ac os gallwn gael mwy o bobl i fynd ar-lein, byddem yn rhyddhau 999 a 101 i bobl sydd wir angen siarad efo ni.

“Mae’n well gen i fynd ar-lein neu ar fy ffôn i wneud bancio, mae’n addas i mi a llawer o bobl eraill ac a’r bwriad yw gwneud llawer mwy yn ddigidol.

Y ffaith amdani yw bod pob galwad ffug neu alwad 999 sydd ddim yn alwad argyfwng yn achosi oedi wrth ymateb i argyfwng go iawn.

Mae galwadau amhriodol yn clymu llinellau argyfwng ac yn gallu peryglu bywydau pobl.”

Capsiwn: PCC-1 Mae’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd Arfon Jones wedi ymweld â chanolfan reoli Heddlu Gogledd Cymru yn Llanelwy, yn y llun mae’r Arolygydd Merfyn Jones, yr Uwch-arolygydd Neil Thomas a’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd Arfon Jones.