Skip to main content

Ymosodiad Terfysgol ym Manceinion

Dyddiad

Dyddiad
News Article

Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Arfon Jones: "Mae ein meddyliau gyda'r dioddefwyr a'r teuluoedd sydd wedi eu dal yn yr ymosodiad erchyll a disynnwyr hwn.

 "Hoffwn dalu teyrnged i'r gwasanaethau brys, gan gynnwys Heddlu Manceinion, am eu hymateb cyflym wrth ddelio ag effaith y ffrwydrad.

 Hoffwn hefyd ddiolch i yrwyr tacsi, gwestai a phobl gyffredin y ddinas sydd hefyd wedi ymateb yn arwrol wrth ddarparu cymorth ymarferol a chysur.

 Mae Heddlu Gogledd Cymru yn gweithio'n agos gyda lluoedd heddlu Gogledd Orllewin Lloegr ar bob adeg, ac rwy'n siŵr bod yr holl gymorth angenrheidiol yn cael ei gynnig ar yr adeg hynod anodd yma."