Skip to main content

Ymweliad Penrhyn House

Dyddiad

Dyddiad
Penrhyn_House_04 (2) large

Cyn-ddefnyddiwr cyffuriau yn dweud wrth bennaeth heddlu sut y gwnaeth canolfan ym Mangor ei helpu i ailadeiladu ei fywyd

Mae dyn a oedd yn gaeth i gyffuriau i’r fath raddau nes dod yn agos at ladd ei hun wedi dweud i ganolfan adfer ym Mangor roi ei fywyd yn ôl iddo.

Ymwelodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones, â Thŷ Penrhyn, a reolir gan yr elusen Cymuned Adfer Gogledd Cymru, i weld y gwaith y mae’n ei wneud i gynorthwyo pobl i ailadeiladu bywydau a niweidiwyd gan gaethiwed i gyffuriau ac alcohol.

Ar ddiwedd ei ymweliad mynegodd ei gefnogaeth lwyr i’r gwasanaethau adfer gan ddisgrifio’r ganolfan fel lle a oedd yn fuddiol i bawb.

Ymhlith y rhai a gyfarfu’r Comisiynydd yn Nhŷ Penrhyn yr oedd John Redican, preswylydd 46 oed, a ddisgrifiodd sut y mae’r cymorth a dderbyniodd gan y ganolfan wedi rhoi gobaith o’r newydd iddo am y dyfodol, wrth iddo frwydro i droi ei gefn ar ddegawd o ddefnyddio cyffuriau.

Dywedodd John: “Roeddwn i wedi bod yn ddefnyddiwr ers 30 mlynedd ac yn ystod yr amser hwnnw bûm yn cymryd cocên, ecstasi, crystal meth, a hyd yn oed y cyffur sy’n cael ei gysylltu ag ymosodiadau rhywiol, GHB. Ond roedd fy mhroblem waethaf gyda speed.

Fe wnaeth hyn i gyd ddinistrio fy mywyd. Er fy mod o hyd wedi bod mewn gwaith a gweithio fel sgaffaldiwr a hyfforddwr chwaraeon, collais sawl swydd dros y blynyddoedd oherwydd y cyffuriau. Collais nifer o bartneriaid hefyd er, diolch byth, ni chollais fy nwy ferch ifanc.

“Tra roeddwn i ar crystal meth llynedd, gwaethygodd pethau i’r fath raddau roeddwn i’n meddwl am hunanladdiad, a hyd yn oed wedi cynllunio cymryd llwyth o dabledi ar daith fws hir. Cefais fy achub o hynny gan fy nith a ofynnodd i mi fynd i fyw gyda hi.”

Ychwanegodd John: “Roeddwn i wedi bod ar sawl cynllun adfer ond doedd dim byd wir wedi gweithio tan i mi ddod i Dŷ Penrhyn wyth mis yn ôl.

“Ers i mi ddod yma mae wedi bod yn wych a dw i’n gwneud cynnydd da. Rwyf wedi bod yn cymryd rhan mewn rhaglen grwpiau trafod ac wedi gwneud 20 i 30 awr o waith gwirfoddol yn helpu o amgylch y tŷ ac yn yr ardd.

“Mae’n debygol y byddaf yma am gryn amser eto, ond mae’r lle yma wedi fy helpu cymaint i ailadeiladu fy mywyd fel yr hoffwn weithio yma, neu mewn canolfan debyg, er wyn helpu pobl eraill sydd yn fy sefyllfa i.

“Yr hyn rwy’n hoffi amdano yw’r ffaith ei fod yn gweithredu polisi drws agored ac nid oes angen i chi gael eich cyfeirio yn swyddogol gan unrhyw asiantaeth. Rwyf hefyd yn hoffi’r ffaith os ydych chi’n gwneud penderfyniad gwael am eich caethiwed, mae’n rhywle y gallwch ddod yn ôl iddo bob tro a chael cymorth i ddelio â’r peth.”

Sefydlwyd Tŷ Penrhyn gan James Deakin a thîm bach o ymddiriedolwyr yn 2015 pan wnaethon nhw gymryd yr awenau ar dŷ mawr gwledig nid nepell o dref Bangor.

Bu James ei hun drwy’r broses adfer cyffuriau cyn iddo ddod yn weithiwr cyfiawnder troseddol camddefnyddio cyffuriau.

Mae’n rhedeg y ganolfan gyda chymorth dau aelod arall o staff yn unig, sydd â phrofiadau tebyg. Ar hyn o bryd mae gan y ganolfan 18 preswylydd, gyda rhai ohonynt ar drwydded a rhai yn gyn-droseddwyr, yn ogystal â nifer fach o bobl eraill sy’n byw yn annibynnol yn y gymuned.

Mae Tŷ Penrhyn yn trefnu cynllun adfer llawn, sy’n cynnwys cyfarfodydd cyfeillion yn rheolaidd, sesiynau Narcotigion ac Alcoholigion Anhysbys i breswylwyr a phobl nad ydynt yn breswylwyr, ac mae eu cyfarfodydd dyddiol yn denu rhwng 25 a 30 o bobl.

Dywedodd James: “Mae adferiad yn fwy effeithiol os yw’n cynnwys cynifer o bobl â phosib ac rydyn ni’n ceisio cynnig cymaint o lwybrau i adferiad ag y gallwn.

“Rydw i ac aelodau eraill y tîm yn gwybod beth rydyn ni wedi bod drwyddo ein hunain, ac rydyn ni eisiau defnyddio’r profiadau hynny i helpu pobl eraill.

“Mae’r bobl sydd yn y ganolfan angen rhywun i ysgafnhau baich bywyd iddyn nhw ac yna adeiladu ar hynny.

“Mae llawer ohonyn nhw heb ddim ond rwy’n credu os rhowch chi rywun yng nghanol pobl dda gallan nhw wneud pethau da.”

Ychwanegodd James: “Mae’n braf gwybod bod pobl yn safle Arfon Jones o ran llunio polisïau yn meddwl yn yr un ffordd â ni, bod angen rhywun i fod digon dewr i ddechrau yn y dechrau gydag unigolion sydd eisiau newid eu bywydau, ac i wneud y newidiadau hynny yn gynaliadwy.

“Roedd hi’n braf iawn iddo ymweld â ni yn Nhŷ Penrhyn.”

Dywedodd y Comisiynydd Heddlu: “Roedd hi’n braf cyfarfod â phobl fel James a John a chlywed eu straeon.

“Rwy’n cefnogi’r gwasanaethau adferiad yn llwyr, oherwydd mae cefnogi pobl i drawsnewid eu bywydau er gwell yn beth gwerthfawr. Mae’n helpu cymdeithas, yn lleihau niwed a hefyd yn lleihau trosedd ac ail-droseddu.

“Mae llefydd fel Tŷ Penrhyn yn fuddiol i bawb, cyn belled â rydw i yn y cwestiwn.

“Nid canolfan driniaeth yw’r ganolfan hon, maent eisoes wedi bod drwy hynny. Mae’n arwain pobl at y llwybr i adferiad ac i aros oddi ar gyffuriau.”